Adnoddau Myfyrwyr Presennol

Rhaglen gyflwyno

Nod gweithgareddau sefydlu'r Brifysgol yw eich cyflwyno i'r ystod o wasanaethau Prifysgol sydd ar gael i fyfyrwyr ôl-raddedig, yn ogystal â rhoi gwybodaeth hanfodol i chi am gofrestru.

Gobeithiwn y bydd y cyfnod sefydlu yn ateb llawer o’r cwestiynau a allai fod gennych am yr hyn y gallwch ei ddisgwyl, a’r hyn a ddisgwylir gennych, fel myfyriwr ôl-raddedig yma.

I gael gwybodaeth am ddigwyddiadau Sefydlu ar draws y Brifysgol cliciwch isod:

Rhaglen Ymgartrefu Academaidd

Rhaglen Datblygu Ymchwilydd

Information about the Postgraduate Development Research can be found on Rhaglen Datblygu Ymchwilydd.

Adnoddau Ysgol y Graddedigion

Canolfan Uwchraddedig Penglais‌‌

Mae'r Ganolfan Uwchraddedig wedi’i leoli yn Adeilad Llandinam (llawr gwaelod) ar gampws Penglais. Mae'n darparu:

  • Mannau astudio tawel (preifat a chynllun agored) ac ystafell seminar.
  • Adnoddau argraffu a chyfrifiadurol.
  • Loceri. 
  • Lolfa gymdeithasol a chegin.

Archebwch un o’r podiau Astudio yng Nghanolfan y Graddedigion Llandinam

  • Mae wyth pod astudio yn y man hwn ar gael i’w harchebu. Bydd y podiau ar gael 24 awr y dydd, am gyfnodau o dair awr.
  • Gellir archebu podiau yma.
  • Mewngofnodwch gyda’ch enw defnyddiwr a chyfrinair Prifysgol Aberystwyth, dewiswch ‘Archebu Slot’ ac yna dewiswch y pod, y dyddiad a’r amser. Pan fyddwch wedi cwblhau’r broses hon, dylech dderbyn ebost yn cadarnhau eich archeb.

(Mae cloeriau ar gael yng nghanolfan Penglais, rhaid talu blaendal i gael allwedd, cysylltwch â graduate.school@aber.ac.uk i gael rhagor o wybodaeth).

  • Ystafelloedd Astudio mewn Grŵp
  • Desgiau Cyfrifiadurol
  • Lolfa
  • Bwrdd i Grwpiau Mawr
  • Bwrdd i Grwpiau Bach

Swyddfa Ysgol y Graddedigion

Mae Swyddfa Ysgol y Graddedigion ar lawr uchaf Adeilad Cledwyn, Campws Penglais.

Pennaeth Ysgol y Graddedigion Professor Reyer Zwiggelaar  Ystafell 2.11
Gweinyddwr Ysgol y Graddedigion Jan Davies Ystafell 2.08
Prif Swyddfa Ysgol y Graddedigion Ystafell 2.05

 

Addysgu i Uwchraddedigion ym Mhrifysgol Aberystwyth (AUMA)

Dechreuodd y rhaglen hon, a anelir at Fyfyrwyr Ymchwil Uwchraddedig, yn 2016. Bydd y rhaglen yn datblygu sgiliau dysgu'r uwchraddedigion sydd eisoes yn dysgu myfyrwyr yn eu hadrannau.

Y Ddoethuriaeth Broffesiynol (DProf)

Diben y Ddoethuriaeth Broffesiynol (DProf) yw galluogi gweithwyr proffesiynol cymwys i astudio ar gyfer doethuriaeth yn ogystal â bod yn gyflogedig.

Bydd doethuriaeth broffesiynol yn cael ei dyfarnu i gydnabod cwblhau yn llwyddiannus raglen astudio gymeradwyedig trwy gwrs, ynghyd â chwblhau astudiaethau ac ymchwil bellach yn llwyddiannus.Gall y gwaith ymchwil fod o fudd uniongyrchol i’ch sefydliad, ac arwain at newid sefydliadol neu newid polisi.

Cynnwys y Cwrs

Rhaglen strwythuredig yw’r DProf, cymysgedd o agweddau trwy gwrs ac ymchwil, sy’n arwain ymgeiswyr drwy ddatblygiad y prosiect ymchwil. Mae’r cwrs yn dechrau gyda’r agwedd a ddysgir yn cynnwys nifer o fodiwlau yn y flwyddyn gyntaf. Mae’r modiwlau hyn yn trafod ymchwil cyffredinol, hyfforddiant yn y gweithle ac agweddau ar ymchwil peilot. Ar ôl hyn, bydd prosiect ymchwil yn seiliedig ar waith yn cael ei ddatblygu. Drwy gydol eich DProf byddwch yn cydweithio’n agos â’ch tîm goruchwylio.

Pynciau a Drafodir

Undertaking Work-based Research in Professional Contexts:  Nod y pwnc hwn yw gwneud yn sicr fod myfyrwyr DProf sy’n cychwyn ar eu hastudiaethau peilot a’u traethodau ymchwil terfynol neu bortffolios ymarfer proffesiynol wedi’u paratoi’n drwyadl ar gyfer hynny. Bydd hefyd yn sicrhau bod gan fyfyrwyr wybodaeth fanwl a dealltwriaeth feirniadol o fframweithiau methodolegol a’r dulliau penodol a ddefnyddir mewn ymchwil seiliedig ar waith. Bydd yn ystyried yn fanwl yr ystyriaethau ymarferol sy’n wynebu’r ymchwilydd seiliedig ar waith.

Sgiliau Ymchwil a Datblygiad Personol: Mae’r pwnc hwn yn cynnig i fyfyrwyr ymchwil wybodaeth eang ac ystod o sgiliau trosglwyddadwy a fydd o ddefnydd iddynt mewn amryw o gyd-destunau ymchwil.  Bydd y modiwl hwn yn ymdrin â datblygiad personol, gan gynnwys sgiliau negodi, rhwydweithio, ysgrifennu academaidd, rheoli ymchwil, gweithio mewn tîm ac ysgrifennu papur cynhadledd.

Principles of Research Design: Nod y pwnc hwn yw dysgu myfyrwyr ymchwil i ddeall egwyddorion sylfaenol cynllun a strategaeth ymchwil: i ganfod a ffurfio eu cwestiynau ymchwil yn glir ac yn gryno, eu dadansoddi neu eu rhannu’n is-gyfresi o is-gwestiynau perthnasol, a, lle bo’n briodol, llunio damcaniaethau y gellir eu profi. Bydd myfyrwyr hefyd yn dysgu esbonio pam mae eu cwestiynau ymchwil yn arwyddocaol yng nghyd-destun is-feysydd eu disgyblaeth/ymchwil.

Quantitative and Qualitative Data Collections and Analysis: Cynlluniwyd y modiwl hwn i gyflwyno egwyddorion sylfaenol methodoleg ymchwil feintiol ac ansoddol i fyfyrwyr. Cyflwynir i fyfyrwyr dechnegau sylfaenol dadansoddi, cyflwyno a disgrifio ystadegau a sut mae data ansoddol yn cael eu hadeiladu a’u dehongli’n ymarferol gan yr ymchwilydd a meithrin dealltwriaeth o’r ystyriaethau sy’n codi wrth gasglu data ansoddol.

Leaderships for Researchers: Cyflwynir ymchwilwyr uwchraddedig i ystod a modelau arweinyddiaeth yn y pwnc hwn, gan amlinellu sut i ddefnyddio’r modelau hyn, a rhoi’r cyfle i fyfyrwyr archwilio drwy arddull ac ymddygiad arwain dysgu drwy brofiad.

Pilot Inquiry and Professional Research Project: Mae’r ymholiad peilot yn rhagflaenu’r prosiect ymchwil proffesiynol, a allai ffurfio sylfaen y prosiect llawnach, terfynol ym mlynyddoedd dilynol y cwrs. Mae’r ymholiad peilot a’r prosiect ymchwil proffesiynol yn rhoi’r cyfle i fyfyrwyr adnabod ‘pryder proffesiynol’, cyn paratoi maes ymholiad proffesiynol yn y lleoliad proffesiynol. Bydd gwybodaeth a threiddgarwch a ddysgwyd mewn modiwlau eraill yn cael eu defnyddio.

Ysgolion Preswyl

Cyflwynir y modiwlau drwy gyfrwng darlithoedd, seminarau a gweithdai yn ystod cyfres o 4 ysgol breswyl orfodol, sef tua 35 diwrnod yn ystod y 14 mis cyntaf, gydag aseiniadau rhwng yr ysgolion.

Mae’r ysgolion preswyl yn gyfle i fyfyrwyr DProf gwrdd â myfyrwyr eraill ar y cwrs ac integreiddio’n llwyr yng nghymuned ymchwil Prifysgol Aberystwyth. Mae’r ysgolion hefyd yn gyfle i gwrdd â goruchwylwyr yn bersonol a chymryd rhan mewn gweithgareddau y tu allan i’r byd academaidd.

Asesiadau

Mae amrywiaeth o ddulliau asesu wedi’u cynllunio i gefnogi dysgu  datblygu sgiliau cyfathrebu sy’n briodol ar lefel ddoethuriaeth, ac mae’r rhain yn cynnwys gwaith cwrs a chyflwyniadau. Caiff doethuriaethau proffesiynol ac ymarferol eu hasesu drwy gyflwyno traethawd ymchwil neu bortffolio, ac arholiad llafar personol (‘viva’ neu ‘viva voce’).

Gofynion Mynediad

Rhaid bod gan fyfyrwyr DProf radd berthnasol neu brofiad proffesiynol cyfatebol.

Deilliannau

Fel arfer, bydd deiliaid y cymhwyster yn gallu:

  • barnu’n hyddysg ar faterion cymhleth mewn meysydd arbenigol, yn aml yn absenoldeb data cyflawn, a gallu cyfathrebu eu syniadau a’u casgliadau yn glir ac yn effeithiol i gynulleidfaoedd arbenigol ac anarbenigol;
  • arddangos hunangyfeiriad a gwreiddioldeb wrth fynd i’r afael â phroblemau a’u datrys, a gweithredu yn ymreolus wrth gynllunio a gweithredu tasgau ar lefel broffesiynol neu lefel gyfatebol;
  • parhau i ymgymryd ag ymchwil a datblygu pur a/neu gymwysedig ar lefel uwch, gan gyfrannu’n sylweddol at ddatblygu gwybodaeth, technegau, syniadau neu ddulliau newydd.

Grwp Ymgysylltu Myfyrwyr Ymchwil

Yr isod yw cyfansoddiad Grŵp Ymgynghorol Myfyrwyr Ymchwil:

  • Cadeirydd – Pennaeth Ysgol y Graddedigion
  • Un cynrychiolydd o bob Adran
  • Un cynrychiolydd o Gymdeithas y Graddedigion
  • Un cynrychiolydd o Undeb y Myfyrwyr
  • Un cynrychiolydd o’r Myfyrwyr Ymchwil Rhan Amser
  • Un cynrychiolydd o’r Myfyrwyr Ymchwil Rhyngwladol
  • Un cynrychiolydd o’r Myfyrwyr Ymchwil Cyfrwng Cymraeg
  • Un cynrychiolydd o’r staff academaidd o bob Cyfadran
  • Un cynrychiolydd o’r Gwasanaethau Gwybodaeth
  • Un cynrychiolydd o’r Gofrestrfa Academaidd
  • Un cynrychiolydd o Adnoddau Dynol
  • Un cynrychiolydd o’r Gwasanaeth Gyrfaoedd

Llwybrau Adrodd

Bydd Grŵp Ymgynghorol y Myfyrwyr Ymchwil yn adrodd i’r Pwyllgor Graddau Ymchwil. Bydd yn cyfarfod o leiaf ddwywaith ymhob blwyddyn academaidd.

Cylch Gorchwyl

  • Derbyn cofnodion pwyllgorau ymgynghorol uwchraddedigion ymchwil/staff yr adrannau
  • Ystyried materion yn ymwneud ag amgylchedd cyffredinol graddedigion-myfyrwyr
  • Gwneud argymhellion i’r Pwyllgor Ymchwil Graddau
  • Rhoi cyfle i fyfyrwyr a staff drafod materion sy’n peri pryder mewn fforwm agored
  • Ystyried materion yn codi o holiaduron adborth gan fyfyrwyr.

Aelodau Presennol

Cofnodion pwyllgorau’r gorffennol (saesneg yn unig) 

Rhestr Wirio ar gyfer Cyflwyno Traethawd Ymchwil

Paratoi ar gyfer eich Viva

Mae'r cwrs 'Preparing for your Viva' yn canolbwyntio ar anghenion myfyrwyr sy'n disgwyl cael eu harholi rhywbryd yn y 12 mis nesaf (mae croeso hefyd i fyfyrwyr sydd wedi cyflwyno eu traethodau hir yn ddiweddar ac sy'n aros am eu harholiad llafar). Gall myfyrwyr sydd ar gam cynharach ym mhroses eu Doethuriaeth hefyd ddod i'r cwrs, os bydd digon o le ar y cwrs, ond rhoddir blaenoriaeth i'r myfyrwyr sydd yn eu blwyddyn derfynol.

Gweithdai Ychwanegol

Viva Preparation Workshop Presentation Slides

Etheses and Open Access PowerPoint

Gyrfaoedd

Mae Gwasanaeth Gyrfaoedd Aberystwyth yn darparu gwasanaeth ardderchog a chefnogol sy'n galluogi myfyrwyr a graddedigion i gyd i wireddu eu dyheadau, yn gwneud dewisiadau bywyd gwybodus a chyflawni eu potensial.

Gellir dod o hyd i wybodaeth benodol am Yrfaoedd i Ôl-raddedigion ar y tudalennau Gyrfaoedd hyn.

Gwybodaeth Gyrfaoedd i Uwchraddedigion

Cyngor i Uwchraddedigion

Gwrandewch ar ba gyngor sydd gan aelodau staff Prifysgol Aberystwyth i fyfyrwyr sy'n ystyried dilyn cwrs Ôl-raddedig yma. Mae'r fideo yn Saesneg yn unig.