Canllawiau Cynhadledd i Uwchraddedigion

  • Mae pob myfyriwr uwchraddedig yn gymwys i gymryd rhan 
  • Mae pob myfyriwr yn cael 10 munud i wneud cyflwyniad a 5 munud i drafod ac ateb cwestiynau 
  • Eglurwch sut mae’r ymchwil yn berthnasol i thema’r gynhadledd
  • Nodwch beth yw’r cwestiwn ymchwil a’r broblem y mae’n ymdrin â hi  
  • Nodwch y rhesymwaith am eich ymchwil (pam mae angen eich ymchwil? A yw’n llenwi bwlch yn y wybodaeth bresennol? A yw’n cymhwyso damcaniaeth i achos empirig newydd?) 
  • Dangoswch y fethodoleg a’r cynllun ymchwil a fydd yn cael eu defnyddio yn eich ymchwil (sut y byddwch yn bodloni eich amcanion a phrofi/ymchwilio i’ch rhagdybiaethau) 
  • Amlinellwch y cyfraniad penodol y mae’ch astudiaeth yn ceisio ei wneud 
  • Dylai maint y ffont a ddefnyddir ar gyfer eich prif deitl fod yn fwy na 30 
  • Microsoft PowerPoint yw’r unig feddalwedd cyflwyno a gewch ei ddefnyddio 
  • Nid oes uchafswm sleidiau PowerPoint, ond fe’ch anogir i ddefnyddio 10 sleid (1 am bob munud o’ch cyflwyniad) 
  • Gallu ateb pob cwestiwn gan y gynulleidfa