Cyfleoedd ariannu
Ysgoloriaeth Isable Ann Robertson
Bu Isabel Ann Robertson, neu Ann fel y’i gelwid, yn diwtor yn Adran Gyfrifiadureg Prifysgol Aberystwyth am 25 mlynedd rhwng 1984 a 2009, ond roedd ei chysylltiadau â’r Brifysgol yn ymestyn dros sawl cenhedlaeth. Ganwyd Ann Davies yn Llundain ym 1932, yr hynaf o dri o blant. Roedd ei mam, Enid Sayers, wedi ennill gradd mewn Saesneg o Goleg Prifysgol Cymru Aberystwyth yn y 1920au ac yn ddiweddarach (fel Enid Davies) bu’n Is-lywydd ar Gymdeithas y Cyn-fyfyrwyr. Roedd tad Ann, C W Davies, hefyd wedi graddio o Aberystwyth ac yn ddiweddarach roedd yn Athro Cemeg ac yn Bennaeth ar yr Adran Gemeg. Astudiodd Ann Ffiseg pan oedd yr adran yn dal i fod yn yr Hen Goleg ar lan y môr, gan raddio gyda BSc ym 1954 ac MSc drwy ymchwil ym 1957. Ceudodiad oedd maes ei hymchwil. Roedd hi hefyd yn athletwr yn y Coleg ac yn aelod o’r Clwb Hwylio. Cyfarfu Ann â David Robertson drwy’r Clwb Hwylio, ac fe briodon nhw ym 1956. Trwy ei waith ef gyda’r Comisiwn Coedwigaeth, buont yn byw mewn sawl rhan o’r DU, gan gynnwys Glasgow, lle cwblhaodd Ann MSc mewn Cyfrifiadureg. Dychwelon nhw i Aberystwyth i fyw yn yr 1980au. Bu eu merch, Sara Robertson, hefyd yn astudio yn Aberystwyth rhwng 1978 a 1981 yn ogystal â’u hwyres, Fiona Robertson, rhwng 2011 a 2015.
Ysgoloriaeth PhD Ann Robertson - Manylion y Dyfarniad a’r Prosiectau sydd ar gael
Ar agor i ymgeiswyr sy'n gymwys ar gyfer statws ffioedd Cartref (Y DU) yn unig, mae tair ysgoloriaeth Doethuriaeth amser llawn ar gael. Bydd y rhain yn cael eu dyrannu ar sail gystadleuol i dri o'r prosiectau a ddisgrifir ym Manylion Prosiectau Ysgoloriaeth Doethuriaeth Ann Robertson 2025. Bydd y rhai sy'n derbyn Ysgoloriaeth Ann Robertson yn cael grant am hyd at dair blynedd a fydd yn talu eu ffioedd dysgu hyd at gyfradd y DU o £5,006 y flwyddyn (cyfradd 2025/26). Bydd lwfans cynhaliaeth o tua £20,780 y flwyddyn* a mynediad at gronfa deithio a chynadleddau (uchafswm o £1000 y flwyddyn*) yn cael eu darparu hefyd. Mae'r ysgoloriaethau'n dechrau ym mis Medi 2025 (er y gellir trafod dyddiadau cychwyn hyblyg hyd at fis Chwefror 2026).
Sut i Wneud Cais
Bydd ceisiadau'n cael eu hasesu bob mis ar sail dreigl ac rydym yn gobeithio asesu ceisiadau ar ôl y dyddiadau canlynol: 3 Ebrill 2025, 8 Mai 2025, 5 Mehefin 2025.
I gael eu hystyried, rhaid i ymgeiswyr gwblhau'r cais Doethuriaeth ar-lein llawn arferol A'R Ffurflen gais benodol ar gyfer Ysgoloriaeth Doethuriaeth Ann Robertson 2025.
Dylid llenwi'r ffurflen gais ar gyfer Ysgoloriaeth Ann Robertson a'i chyflwyno drwy ein Porth Ceisiadau Derbyn Ôl-raddedig ar-lein ar adeg y cais.
I wneud cais Doethuriaeth llawn, yn gyntaf ewch i'n tudalennau cyrsiau a dod o hyd i fanylion y cwrs yr hoffech wneud cais amdano. Ar ôl i chi ddod o hyd i dudalen y cwrs o’ch dewis, dewiswch y botwm "Ymgeision Nawr" i ddechrau eich cais.
Bydd y Porth Ceisiadau Derbyn Ôl-raddedig yn gofyn i chi roi eich manylion personol i ni, cadarnhau eich dewis/dewisiadau o gwrs a lanlwytho dogfennau i gefnogi eich cais. Cofiwch sicrhau bod eich dogfennau ategol wedi'u cadw ar ffurf PDF ac yn barod i'w lanlwytho i'ch cais ar-lein.
Ar yr un pryd, dylid anfon y ffurflen gais ar gyfer Ysgoloriaeth Ann Robertson rydych wedi'i llenwi hefyd drwy e-bost fel atodiad at yr Athro Reyer Zwiggelaar (rrz@aber.ac.uk), Pennaeth Ysgol y Graddedigion, gyda CHAIS AR GYFER YSGOLORIAETH ANN ROBERTSON fel pwnc y neges.
Dylid sicrhau eich bod yn darllen y Telerau ac Amodau Ysgoloriaeth Ann Robertson ar gyfer Doethuriaeth yn drylwyr.
Unrhyw Gwestiynau?
Os oes gennych unrhyw ymholiadau penodol ynghylch y prosiectau a restrir, cysylltwch â'r prif oruchwyliwr sy'n gysylltiedig â'r prosiect.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau am y broses ymgeisio ôl-raddedig, cysylltwch â pg-admissions@aber.ac.uk
Manylion Prosiectau ar gyfer Ysgoloriaeth Doethuriaeth Ann Robertson 2025
- Teitl: Ffotoneg Mater Meddal
- Teitl: Astudio is-strwythur ffilamentaidd cymylau sy'n ffurfio sêr yn ein Galaeth
- Teitl: Dull Systemau Agored Cwantwm o Ymdrin â Thermodynameg Twll Du
- Teitl: Na Anghofier Algorithmau Esblygiadol
- Teitl: Nanddeimyntau fel Platfformau ar gyfer Cyflenwi Cyffuriau’n Well
- Teitl: Dadansoddi Unrhyw Bryd ar gyfer Problemau Optimeiddio Dynamig
- Teitl: Astudiaethau Fflachiadau Ardrawiad ar y Lleuad a Chanfod Craterau Ffres
- Mathemateg
Teitl: Ffotoneg Mater Meddal
Goruchwyliwr: Dr Chris Finlayson (cef2@aber.ac.uk), Ffiseg
Crynodeb: Gellir syntheseiddio a threfnu nanosfferau polymer (gyda haenau cragen craidd cyfansawdd) yn strwythurau crisial, a elwir hefyd yn Opalau Polymer, i gynhyrchu lliwiau symudliw dwys. Maent yn rhagori ar ffurfiau eraill o opalau synthetig oherwydd cânt eu gwneud gyda thechnegau gweithgynhyrchu plastig safonol, gan gyflwyno platfform addawol ar gyfer strwythurau, araenau a synwyryddion ffotonig ar raddfa fawr y genhedlaeth nesaf. Maen nhw'n hyblyg ac yn wydn, gan eu gwneud yn addas ar gyfer masgynhyrchu ac ar gyfer eu hymgorffori mewn eitemau defnyddwyr, ac yn wahanol i lifynnau/pigmentau presennol, maen nhw'n ddiwenwyn, yn rhad ac yn gwrthsefyll colli lliw.
Mae'r dulliau paratoi samplau a ddatblygwyd yn ddiweddar sy'n cynnwys croeswasgiad osgiliadol sy'n ysgogi plygu (neu BIOS) wedi cael effaith drawsnewidiol o ran trefn ac ansawdd ffotoneg mater meddal o'r fath. Yr her nesaf yw cymhwysiad cyffredinol BIOS wrth gynhyrchu ystod ehangach o ddeunyddiau opalin trefn uwch gydag ymarferoldeb optegol datblygedig. Bydd yr ysgoloriaeth ymchwil hon yn cynnig cynnydd sylweddol mewn sawl maes; datblygu prosesau ar gyfer deunyddiau swyddogaethol newydd, gan hyrwyddo'r ymchwil sy'n sail i uwchraddio cymwysiadau arloesol, a'r wyddoniaeth drefnu sylfaenol mewn nanoffotoneg feddal gyfansawdd.
Her allweddol yw dealltwriaeth ddyfnach o briodweddau rheolegol (mecaneg hylif) cyfryngau glud-elastig polymerig ac union fecanweithiau ac esblygiad amser crisialu o dan lif croeswasgiad. Bydd cyfuno dull arbrofol a damcaniaethol yn cydgordio rheometreg manwl gyda modelu efelychiad a dysgu peirianyddol (mewn cydweithrediad â'r Adran Fathemateg). Gyda chymwysiadau mewn golwg; bydd uwchraddio ffotoneg ffilm denau i brosesu fesul rhol, a'r goddefiannau a rheoli ansawdd cysylltiedig, yn cael eu harchwilio gan ddefnyddio technegau delweddu goniometreg a gor-sbectrol mewnol o'r radd flaenaf.
Teitl: Astudio is-strwythur ffilamentaidd cymylau sy'n ffurfio sêr yn ein Galaeth
Goruchwyliwr: Dr Gwenllian Williams (gww16@aber.ac.uk), Ffiseg
Crynodeb: Yn gynnar yn y 2010au, sbardunwyd oes newydd o ymchwil i ffurfiant sêr pan ddatgelodd arsylwadau gan Arsyllfa Gofod Herschel fod cymylau moleciwlaidd Galaethog yn cael eu hathreiddio yn gyffredinol gan strwythurau ffilamentaidd hirgul. Mae'r ffilamentau hyn yn gweithredu fel afonydd o ddeunydd, gan gyfeirio nwy i lawr i safleoedd lle mae sêr yn ffurfio. Mae arsylwadau diweddar dros y 5 mlynedd diwethaf wedi datgelu bod cymylau moleciwlaidd ffilamentaidd eu hunain yn cynnwys strwythurau is-ffilamentaidd , a elwir yn aml yn ffibrau. Ers hynny gwelwyd ffibrau o fewn ystod o gymylau moleciwlaidd, o rai màs isel i rai màs uchel. Er ei bod yn hysbys bod ffurfiant sêr màs isel a sêr màs uchel yn digwydd trwy wahanol fecanweithiau, mae arsylwi ffibrau yn y ddau fath o gwmwl moleciwlaidd yn awgrymu efallai mai dyma'r cynhwysyn coll sy'n uno ffurfiant y sêr ar draws y ddau fàs eithaf. Felly mae'r drafodaeth yn rhemp o ran rôl ffibrau yn ffurfiant y sêr ar draws graddfeydd màs. Bydd y prosiect hwn yn profi'r ddamcaniaeth hon drwy ymchwilio i gynnwys ffibr mewn cymylau moleciwlaidd ffilamentaidd gan ddefnyddio arsylwadau newydd o'r radd flaenaf o delesgop Atacama Milimeter/submillimeter Array (ALMA), gan ddefnyddio'r data sydd eisoes ar gael a data o archif gyhoeddus ALMA. Mae gan y gwaith hwn y potensial i bontio rhaniad hirsefydlog yn ein dealltwriaeth o sut mae sêr ar draws gwahanol gyfundrefnau màs yn ffurfio, a helpu i lywio cynigion yn y dyfodol ar gyfer arsylwi cymylau moleciwlaidd sy'n ffurfio sêr yn ein Galaeth.
Teitl: Dull Systemau Agored Cwantwm o Ymdrin â Thermodynameg Twll Du
Goruchwyliwr: Yr Athro John Gough (jug@aber.ac.uk), Ffiseg
Crynodeb: Mae astudio meysydd cwantwm mewn gofod-amser crwm wedi arwain at nodweddion annisgwyl a newydd fel effaith Fulling-Davies-Unruh a chyfreithiau ymbelydredd twll du Hawking. Yma, mae nodweddion thermodynamig yn codi oherwydd cyflymiad neu ddisgyrchiant. Mae'r dadansoddiad o effeithiau cwantwm wedi tueddu i ymwneud â chymwysiadau safonol damcaniaeth cwantwm, fodd bynnag, mae yna ddull systemau agored hefyd sydd wedi'i ddefnyddio'n helaeth i fodelu a rheoli systemau cwantwm anghildroadwy ynghyd â bath gwres ac sydd wedi bod yn cael eu cymhwyso'n ddiweddar ym maes thermodynameg gwantwm sy'n datblygu. Bydd y prosiect hwn yn datblygu dull systemau agored o ymdrin â meysydd cwantwm mewn gofodau-amser crwm: elfennau newydd rydym yn bwriadu edrych arnynt yn y prosiect Doethuriaeth fydd fformiwleiddiad modelau Markov cwantwm, modelau anghildroadwy o thermodynameg Twll Du, a'r broblem ganfod a wireddwyd fel rhaglen hidlo cwantwm wedi'i chyflwyno'n dda i roi cyfrif cywir o "gwymp y swyddogaeth tonnau”.
Teitl: Na Anghofier Algorithmau Esblygiadol
Goruchwyliwr: Maxim Buzdalov (mab168@aber.ac.uk), Cyfrifiadureg
Mae algorithmau esblygiadol yn ddosbarth o optimeiddwyr sy'n ceisio datrys problemau anodd mewn lleoliadau blwch du. Mae'r rhan fwyaf yn seiliedig ar boblogaeth, sydd yn golygu eu bod yn cynnal mwy nag un datrysiad posibl. Mae sawl rheswm pam mae hyn yn helpu, gan gynnwys y gallu i gynnal amrywiaeth o ddatrysiadau ac olrhain nifer o barthau addawol ar yr un pryd. Ond yn ymarferol, mae cyfyngiad ar faint poblogaethau, ac mae angen penderfynu pa ddatrysiadau i'w cadw, a pha rai i'w hepgor. Mae algorithmau esblygiadol anelitaidd yn enwedig yn caniatáu hepgor yr unigolion gorau, yn gyfnewid am well gallu cyffredinol i chwilio. Ond pan fydd datrysiad wedi diflannu, mae'n cael ei anghofio'n llwyr. A yw hynny'n wirioneddol angenrheidiol?
Yn y prosiect hwn, byddwn yn ymchwilio i'r posibiliadau sy'n codi wrth beidio ag anghofio datrysiadau. Mae sawl agwedd ar hynny, gan gynnwys datblygu dulliau ymarferol i storio cymaint o ddatrysiadau ac i gynhyrchu rhai newydd, gan ddylunio algorithmau newydd sy'n elwa ar hynny, eu cymhwyso i broblemau optimeiddio mewn gwahanol feysydd, deall a phrofi graddfa'r gwelliannau a chwmpasu'r dulliau presennol. O ran rhai o'r agweddau hyn, mae canlyniadau rhagarweiniol addawol ar gael [1]. Gan fod y cwmpas yn eang a'r dulliau'n amrywiol, byddwn yn gallu teilwra’ch prosiect i gyd-fynd â'ch cefndir a'ch dymuniadau.
[1] M. Buzdalov (2023): Improving Time and Memory Efficiency of Genetic Algorithms by Storing Populations as Minimum Spanning Trees of Patches. Yn Proceedings of Genetic and Evolutionary Conference Companion (GECCO 2023), ACM, tudalennau 1873-1881. https://doi.org/10.1145/3583133.3596388
Teitl: Nanoddeimyntau fel Platfformau ar gyfer Cyflenwi Cyffuriau yn Well
Goruchwylwyr: Dr Rachel Cross (rac21@aber.ac.uk), Ffiseg / Dr Amanda Gibson (amg39@aber.ac.uk), IBERS
Mae canser yn broblem iechyd cyhoeddus ddifrifol ac ystyrir therapiwteg nanoronynnau yn ddatblygiad mawr posibl yn nyfodol gofal iechyd wedi'i deilwra. Mae'r math o gell a phriodweddau arwyneb y nanoddefnydd yn dylanwadu'n fawr ar gymeriant nanoronynnau. Mae'r gallu i fanteisio ar briodweddau unigryw diemwnt ar raddfeydd biolegol berthnasol yn dangos addewid o ran defnyddio nanoddeimyntau ym maes nanotherapiwteg. Fodd bynnag, mae trosi'r dechnoleg at ei defnyddio mewn treialon clinigol yn profi'n anodd, ac mae deall y rhyngweithio sylfaenol rhwng y nanoronynnau a system fiolegol yn dal i fod yn her sylweddol.
Mae'r prosiect rhyngddisgyblaethol hwn yn ceisio nodweddu effaith wenwynig terfyniad a maint arwyneb nanoddeimyntau ar gyfer gwella un o'r cyffuriau cemotherapi mwyaf cyffredin, Fluorouracil (5-FU), ar linach celloedd canser dynol. Mae ein gwaith ymchwil hyd yma yn dangos nad yw nanoddeimyntau o 5 nm yn unig yn niweidio hyfywedd celloedd wrth gynyddu effeithiolrwydd 5-FU. Drwy archwilio effaith maint nanoddeimyntau ar y rhyngweithio rhwng celloedd a chyffuriau, y gobaith yw cynyddu'r terfyn maint i ganiatáu defnydd deuol o nanoddeimyntau i gyflawni manteision lleihau dos a chymwysiadau synhwyro.
Ein prif amcan yw datgelu a deall buddion clinigol gwell trwy ragweld a rheoli llwybrau mewnoli'r nanoronynnau, yn dibynnu ar gemeg a maint arwyneb.
Teitl y prosiect: Dadansoddi Unrhyw Adeg ar gyfer Problemau Optimeiddio Dynamig
Goruchwylwyr: Thomas Jansen (thj10@aber.ac.uk) a Christine Zarges (chz8@aber.ac.uk), Cyfrifiadureg
Mae llawer o broblemau optimeiddio yn rhy anodd i'w datrys yn effeithlon gan algorithmau safonol. Mae dulliau optimeiddio hewristig fel algorithmau esblygiadol yn cael eu defnyddio'n aml mewn sefyllfaoedd fel hyn. Mae'r pwyslais damcaniaethol ar ddadansoddi amser rhedeg, ond mae hynny'n groes i'r defnydd ymarferol o hewristeg. Mae'r prosiect yma'n mynd i'r afael â'r bwlch hwn trwy ganolbwyntio ar ddadansoddi unrhyw adeg i dargedu problemau dynamig sy'n newid dros amser.
Gan adeiladu ar ganlyniadau dadansoddi unrhyw adeg cyfredol (enw arall ar y rhain yw ‘fixed budget results’ [2]) yn ogystal â chanlyniadau diweddar o waith dadansoddi targed sefydlog [1], mae'r prosiect yn astudiaeth systematig o optimeiddio dynamig. Y man cychwyn yw meincnodau unfodd ac amlfodd statig syml [3] ac offer gwahanol syml i lunio problemau optimeiddio dynamig o rai statig. Gan ddechrau gyda hewristeg syml fel hapsamplu a chwilio lleol, mae'r offer a'r dulliau yn cael eu datblygu i gymharu'r dulliau sylfaenol hyn â dulliau mwy datblygedig, gan ddefnyddio poblogaethau, trawsgroesi a gwahanol ddulliau i ddelio â phroblemau optimeiddio dynamig fel dulliau ‘hall of fame’ neu ddiploidi.
[1] M. Buzdalov, B. Doerr, C. Doerr, D. Vinokurov (2022): Fixed-Target Runtime Analysis. Algorithmica 84(6), tudalennau 1762-1793. https://doi.org/10.1007/s00453-021-00881-0
[2] T. Jansen (2020): Analysing stochastic search heuristics operating on a fixed budget. Yn B. Doerr, F. Neumann (goln): Theory of Evolutionary Computation. Springer, tudalennau 249-270. https://doi.org/10.1007/978-3-030-29414-4_5
[3] T. Jansen, C. Zarges (2016): Example landscapes to support analysis of multimodal optimisation. Yn Proceedings of the 14th International Conference on Parallel Problem Solving From Nature (PPSN XIV). Springer, tudalennau 792-802. https://doi.org/10.1007/978-3-319-45823-6_74
Teitl: Astudio Fflachiadau Ardrawiad ar y Lleuad a Chanfod Craterau Ffres
Goruchwyliwr Dr Tony Cook (atc@aber.ac.uk), Ffiseg
Crynodeb: Mae fflach fer o olau yn ymddangos bob tro y mae meteoroid yn taro yn erbyn wyneb y Lleuad. Mae'r rhain wedi cael eu cipio ar fideo o delesgopau daearol, ond o 2028 ymlaen byddant hefyd yn cael eu canfod o gyrch gofod LUMIO yr Asiantaeth Ofod Ewropeaidd, prosiect y mae'r adran yn rhan ohono. Mae meddalwedd i ganfod fflachiadau ardrawiad ar ochr dywyll y lleuad gyda thelesgop yn gweithio, ond nid yw'n gadarn iawn. Mae cawodydd aer o belydrau cosmig, a fflacheniad atmosfferig ar gopaon yng ngolau'r haul, a sêr ar yr ymylon, i gyd yn creu canfyddiadau ffug. Problem arall i'w datrys yw'r fflachiadau ardrawiad llachar iawn ar ochr olau'r lleuad, sydd yn ôl bob tebyg yn brin iawn, ond nid oes unrhyw feddalwedd yn ddigon dibynadwy i'w canfod oherwydd sbardunau ffug o ochrau cyferbyniol craterau. Mae angen algorithmau newydd sy'n gyflym ac yn ddibynadwy, gan ddefnyddio deallusrwydd artiffisial o bosibl i wahaniaethu rhwng fflachiadau ardrawiad ffug a rhai go iawn. Bydd modd mwy dibynadwy o'u canfod yn arwain at welliant sylweddol yn ein hystadegau ar fflachiadau ardrawiad ar y lleuad. Ail dasg y PhD yw addasu, gwella ac awtomeiddio meddalwedd sy'n bodoli eisoes i nodi craterau sydd newydd eu creu ar y Lleuad gan ddefnyddio delweddau amserol NASA LROC. Bydd amser arsylwi trwy delesgop, yn y donfedd fer isgoch weladwy, ac isgoch thermol, ar gael i'r myfyriwr PhD.
Mathemateg
Mae Ysgoloriaeth PhD Ann Robertson ar gael i ariannu unrhyw brosiect a gynigir gan yr Adran Fathemateg. Ewch i dudalen Prosiectau PhD Mathemateg am ddisgrifiadau o brosiectau PhD nodweddiadol sydd ar gael a thudalennau Ymchwil Mathemateg i gael rhagor o wybodaeth am ymchwil yr Adran.
Ysgoloriaethau AberDoc
Mae Ysgoloriaethau AberDoc yn rhan o gronfa fawreddog ar gyfer Ôl-raddedigion Ymchwil.
Mae’r ysgoloriaethau hyn wedi’u teilwra i alluogi myfyrwyr i ddatblygu’r sgiliau angenrheidiol i gyflawni eu dewis o yrfa a chynnig amrywiaeth o gyfleoedd datblygu i wella’u sgiliau ymchwil â’u sgiliau trosglwyddadwy.
Am ragor o wybodaeth, edrychwch ar y dudalen bwrpasol ar gyfer Ysgoloriaethau AberDoc.
Ysgoloriaeth YGGCC
Mae Prifysgol Aberystwyth yn aelod o Ysgol Graddedigion Gwyddorau Cymdeithasol Cymru (YGGCC) yr ESRC sy'n cefnogi nifer o ysgoloriaethau a gyllidir yn llawn yn y gwyddorau cymdeithasol. Gall myfyrwyr wneud cais am ysgoloriaethau mewn pedwar maes ymchwil neu 'lwybrau': (1) Cynllunio Amgylcheddol, (2) Iechyd, Lles a Gwyddor Data, (3) Daearyddiaeth Ddynol a (4) Gwleidyddiaeth, Cysylltiadau Rhyngwladol, ac Astudiaethau Ardal. Mae gwybodaeth am bob llwybr yn cael ei darparu yn y dolenni isod.
Dylai ymgeiswyr ystyried mynd at oruchwylwyr posibl cyn cyflwyno eu cais i gadarnhau bod capasiti goruchwylio priodol ac i drafod eu cais drafft.
Beth fydd yr ysgoloriaeth ymchwil yn ei chynnwys:
Mae dyfarniadau ysgoloriaeth yn talu eich ffioedd dysgu yn ogystal â grant cynhaliaeth ac yn cynnwys mynediad at gyllid ychwanegol drwy Grantiau Cynnal Hyfforddiant Ymchwil (RTSG). Mae cyfleoedd a manteision eraill ar gael i ddeiliaid ysgoloriaethau, gan gynnwys lwfans gwaith maes tramor (os yw'n berthnasol), cyfleoedd am interniaeth, ymweliadau sefydliadol tramor a grantiau bach eraill.
Cymhwysedd
Mae ysgoloriaethau YGGCC yn gystadleuol iawn. Dylai ceisiadau ddod gan ymgeiswyr eithriadol sydd â gradd anrhydedd dosbarth cyntaf neu radd anrhydedd ail ddosbarth uwch cryf, neu radd Meistr briodol. Mae'r Brifysgol yn gwerthfawrogi amrywioldeb a chydraddoldeb ar bob lefel ac yn annog ceisiadau o bob rhan o'r gymuned, waeth beth fo'u hoedran, anabledd, rhyw, hunaniaeth rhywedd, statws priodasol neu bartneriaeth sifil, beichiogrwydd neu famolaeth, hil, crefydd neu gred a chyfeiriadedd rhywiol. Yn unol â'n hymrwymiad i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb, amrywioldeb a chynhwysiant, ac i recriwtio mwy o grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol ar hyn o bryd, anogir a chroesewir ceisiadau yn benodol gan ymgeiswyr Du Prydeinig, Asiaidd Prydeinig, ethnig lleiafrifol Prydeinig a hil gymysg Prydeinig. Rydym yn croesawu ceisiadau ar gyfer astudio'n llawn amser ac yn rhan-amser.
Llwybrau:
Gellir dod o hyd i wybodaeth fanwl am gymhwysedd, meysydd pwnc a'r broses ymgeisio yn y dolenni isod.
Iechyd, Lles a Gwyddor DataIechyd, Lles a Gwyddor DataI
Yn ddiweddar, cynhaliodd Ysgol Graddedigion Gwyddorau Cymdeithasol Cymru (YGGCC) ddwy weminar; 'Sut i wneud cais am ysgoloriaeth YGGCC' a 'Sut i ysgrifennu cynnig ymchwil'. Cynlluniwyd y gweminarau i wneud y gystadleuaeth yn fwy hygyrch i'r rhai sy'n ystyried gwneud cais yng nghystadleuaeth ysgoloriaeth YGGCC 2024. Roedd y gweminarau yn ymdrin â phynciau megis; sut i ddod o hyd i oruchwyliwr, sut i baratoi ar gyfer cyfweliad, a sut i strwythuro eich cynnig. Mae recordiadau o'r gweminarau ar gael ar dudalen ysgoloriaethau YGGCC.
Mae YGGCC yn croesawu ceisiadau gan fyfyrwyr o bob cefndir. Rydym yn gwerthfawrogi rhagoriaeth academaidd a sgiliau bywyd, yn ogystal â'r gallu i gwrdd â heriau a gallu'r myfyrwyr i gyfoethogi bywyd ein cymuned. Mae ehangu cyfranogiad yn nod allweddol i YGGCC ac rydym yn awyddus i dderbyn ceisiadau gan fyfyrwyr abl ac uchelgeisiol. Rydym yn gydweithrediad rhwng Prifysgol Caerdydd (y sefydliad arweiniol), Prifysgol Aberystwyth, Prifysgol Bangor, Prifysgol Metropolitan Caerdydd, Prifysgol Swydd Gaerloyw, Prifysgol De Cymru a Phrifysgol Abertawe.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yn y Gystadleuaeth Gyffredinol yw 12 Ionawr 2024 (Gall sefydliadau gael terfynau amser cynharach, bydd manylion y rhain yn hysbysebion y Gystadleuaeth Gyffredinol), bydd y Gystadleuaeth Gydweithredol yn lansio ym mis Mawrth 2024.
Ysgoloriaethau AHRC
---------------------------------------------------------------------------------------------
Partneriaeth Hyfforddiant Doethurol De, Gorllewin a Chymru
Mae Prifysgol Aberystwyth yn un o nifer o sefydliadau ym M phartneriaeth Hyfforddiant Doethurol De, Gorllewin a Chymru ac mae wedi llwyddo i sicrhau cyllid ar gyfer ysgoloriaethau PhD yn y celfyddydau a'r dyniaethau. Gall myfyrwyr llwyddiannus elwa o gyfleoedd goruchwylio a hyfforddi posibl sydd ar gael mewn mwy nag un brifysgol o fewn y DTP.
Sylwer mai dim ond i fyfyrwyr y DU y mae'r gwobrau hyn ar gael a'u bod ar gyfer myfyrwyr PhD newydd yn hytrach na myfyrwyr PhD cyfredol.
Ewch i wefan Partneriaeth Hyfforddiant Doethurol De, Gorllewin a Chymru i gael rhagor o wybodaeth.
Arian arall
Mae cyfleoedd ariannu eraill ar gael. Am fwy o wybodaeth edrychwch ar y dudalen berthnasol.