Cyfleusterau a Chyfleoedd

Gallwch fanteisio ar amrywiaeth o gyfleoedd cyfoethog pan fyddwch yn astudio gyda ni, gan gynnwys encil ysgrifennu blynyddol, cydweithio â sefydliadau llenyddol o fri, a chael profiadau diwylliannol megis ymweld â Gŵyl y Gelli. Mae myfyrwyr yn cymryd rhan weithredol wrth lunio'r Antholeg MA, yn ffurfio grwpiau darllen arbenigol, ac yn meithrin cyswllt â chanolfannau ymchwil rhyngddisgyblaethol. Yn ogystal, mae ein myfyrwyr yn elwa o gynadleddau i uwchraddedigion ac adnoddau llyfrgell helaeth, gan feithrin amgylchedd ymchwil deinamig a chefnogol. Mae’r elfennau amrywiol hyn gyda’i gilydd yn cyfrannu at ddiwylliant ymchwil bywiog a chefnogol yn yr adran, gan annog twf deallusol a chyflawniad academaidd i fyfyrwyr uwchraddedig.  

Antholeg MA

Gallwch hefyd wireddu eich potensial creadigol gyda'r Antholeg MA. Bob blwyddyn, mae myfyrwyr yn cael y cyfle cyffrous i gyfrannu, dylunio a golygu antholeg sy'n arddangos eu gwaith creadigol a beirniadol arbennig.  

Mae ein hantholeg MA bellach yn cael ei chefnogi, gyda balchder, gan gyllid o'r prosiect 'Imaginary Homelands', sef menter gydweithredol gyda'r Ganolfan Llesiant Creadigol. Mae'r cyllid hwn yn rhan o gytundeb dwy flynedd gyda ‘Broken Sleep Books’ i gyhoeddi'r Antholeg MA Ysgrifennu Creadigol, sy’n nodwedd ganolog yn y modiwl ‘Writer as Professional’ yn yr adran Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol. Mae'r fenter hon yn rhoi cyfle i'n myfyrwyr ymdrwytho yn y broses o greu, dylunio a golygu antholeg sydd nid yn unig yn arddangos eu gwaith creadigol a beirniadol, ond hefyd yn rhoi cyfle iddynt gyhoeddi am y tro cyntaf.

Mae thema'r antholeg yn ymdrin â chysyniadau yn ymwneud â chartref, dadleoli, newid, lle a hunaniaeth ac fe reolir y gwaith yn gyfan gwbl gan y myfyrwyr MA Ysgrifennu Creadigol. I lawer ohonynt, efallai mai hwn fydd eu cyfle cyntaf i gyhoeddi eu gwaith.

I gael rhagor o fanylion am brosiect Imaginary Homelands, cysylltwch â Dr Naji Bakhti ar anb106@aber.ac.uk

 

Hiraeth: Home. Belonging, A Creative Anthology

Encil Ysgrifennu 

Cewch gyfle i ymuno â'n hencil ysgrifennu blynyddol a gynlluniwyd i ysgogi eich ymdrechion ymchwil ac ysgrifennu.  

Lleoliadau cyhoeddi  

Mae myfyrwyr uwchraddedig yr adran hefyd yn cael cyfle i weithio gyda sefydliadau llenyddol a diwylliannol blaenllaw megis New Welsh Review — cylchgrawn llenyddol mwyaf blaenllaw Cymru — a Gwasg Honno.  

Grwpiau Darllen Arbenigol  

Rydym yn cynnig cymorth i sefydlu eich grwpiau darllen arbenigol eich hun, er mwyn sicrhau bod myfyrwyr uwchraddedig yn cael cyfle i chwarae rhan weithredol wrth ddatblygu diwylliant ymchwil cyffredinol yr Adran. Anogir cyfraniadau sy'n adeiladu ar feysydd ymchwil sylfaenol yr Adran sef 'Lles Creadigol', 'Lle a Pherthyn', a 'Bywydau Emosiynol'.  

Canolfannau Ymchwil     

Mae myfyrwyr ymchwil yn cael cyfle i gymryd rhan mewn gwaith a gaiff ei feithrin gan ganolfannau ymchwil arbenigol, megis Canolfan Lles Creadigol yr Adran, a chanolfannau ymchwil cytras eraill o fewn y Brifysgol, megis y Ganolfan Astudio Symudedd Pobl, y Ganolfan Meddwl yn Faterol, a Chanolfan Gwleidyddiaeth a Chymdeithas Cymru.  

Cynhadledd i Uwchraddedigion  

Mae myfyrwyr ymchwil yn cael cyfle i weithio fel tîm i gynllunio cynhadledd flynyddol yr Adran i uwchraddedigion – er mwyn arddangos gwaith, diddordebau a chyflawniadau eich cymuned gradd ymchwil mewn unrhyw flwyddyn benodol.  

Y Celfyddydau a Diwylliant  

Nodwedd flynyddol yn ein calendr yw’r tripiau i ŵyl fyd-enwog y Gelli, a byddwch hefyd yn cael gostyngiad ym mhrisiau perfformiadau yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth. 

 

 

Dysgu  

Ar gyfer myfyrwyr ymchwil yn ddiweddarach yn eu graddau, rydym yn cynnig cyfleoedd i ennill profiad cyflogedig o addysgu ar lefel prifysgol, gan gynnwys gweithdai, seminarau, darlithoedd, a marcio gwaith myfyrwyr israddedig. (Mae'r cyfleoedd hyn yn amrywio yn ôl yr hyn sydd ar gael, flwyddyn ar ôl blwyddyn.) Yn ogystal, gall myfyrwyr ymchwil sy'n ymwneud ag addysgu gymryd rhan yn y rhaglen Addysgu i Uwchraddedigion ym Mhrifysgol Aberystwyth (TPAU), sydd wedi'i hachredu gan AU Ymlaen ar lefel Cymrodoriaeth Gysylltiol. 

Seminarau Ymchwil i Uwchraddedigion/Staff  

Gallwch fod yn rhan o gyfres o seminarau rhyngweithiol lle mae staff, myfyrwyr a siaradwyr gwadd yn dod at ei gilydd i rannu ac arddangos eu hymchwil.   

Adnoddau’r Llyfrgell 

Lleolir yr Adran yn Adeilad Hugh Owen, sydd hefyd yn gartref i brif lyfrgell y Brifysgol, sef Llyfrgell Hugh Owen. Yn ogystal â chasgliad eclectig o lyfrau prin a Chasgliad Horton (dros 800 o eitemau yn ymwneud â llenyddiaeth plant y ddeunawfed ganrif a'r bedwaredd ganrif ar bymtheg), cefnogir ymchwil yn Aberystwyth gan adnoddau helaeth, gan gynnwys mynediad at ystod eang o ddeunyddiau electronig. 

Mae’r Brifysgol yn ffodus iawn bod Llyfrgell Genedlaethol Cymru – un o ddim ond pum llyfrgell hawlfraint yn y DU - ond pum munud ar droed o’r campws. Mae hwn yn adnodd arbennig ar gyfer astudiaethau uwchraddedig: mae’r Llyfrgell Genedlaethol yn dal tua 6 miliwn o lyfrau yn ogystal â chasgliadau helaeth o gyfnodolion a phapurau newydd, ac mae'r nifer yn tyfu'n gyson. Mae ganddi gasgliadau heb eu hail o destunau cynradd, gan gynnwys llawysgrif Hengwrt o Chwedlau Caergaint gan Chaucer, casgliad o fri rhyngwladol o lenyddiaeth Saesneg Cymru, a stoc helaeth o lenyddiaeth o gyfnod y Dadeni, y ddeunawfed ganrif, y bedwaredd ganrif ar bymtheg, a'r ugeinfed ganrif. Yn ogystal, mae ganddi archifau hanesyddol helaeth - sy'n cynnwys papurau personol unigolion cyhoeddus a sefydliadau, cofnodion eglwysi, data'r cyfrifiadau, cofnodion cyfreithiol a dinesig, deunydd print, recordiadau sain a chofnodion electronig – sy'n amrywio o ran dyddiad o'r Oesoedd Canol hyd heddiw.