Cyrsiau Uwchraddedig
Canllawiau ar gyfer cynigion am PhD
Dylai cynigion am PhD gynnwys y wybodaeth ganlynol:
Astudiaethau Llenyddol (c. 3,000 o eiriau)
- Crynodeb o’r prosiect (prif syniadau/amcanion ymchwil eich prosiect, testunau allweddol, a safbwyntiau damcaniaethol) (250 o eiriau)
- Cyfraniad at wybodaeth/dealltwriaeth (yr hyn y bydd eich gwaith yn ei gyfrannu i’r maes astudio perthnasol) (250 o eiriau)
- Cwestiynau ymchwil (amlinellwch y ddau brif gwestiwn ymchwil a fydd yn sail i’ch prosiect, ac esbonio’n gryno sut y bydd eich ymchwil yn mynd i’r afael â hwy) (250 o eiriau)
- Cynnig ymchwil llawn (disgrifiad manwl o’r ymchwil y bwriadwch ei gwneud, gan gynnwys cynllun amlinellol o rannau arfaethedig y traethawd ymchwil) (2,000 o eiriau)
- Eich gwaith hyd yma yn y maes hwn neu feysydd cysylltiedig (250 o eiriau)
Dylech hefyd gyflwyno sampl o’ch gwaith beirniadol, tua 5,000 o eiriau
Ysgrifennu Creadigol (c.3,000 o eiriau)
- Crynodeb o’r prosiect (amlinelliad o syniadau creadigol canolog eich prosiect, ymdriniaethau arddulliol arfaethedig, ymdriniaethau beirniadol allweddol, a safbwyntiau damcaniaethol) (250 o eiriau)
- Cyfraniad at ymarfer creadigol a beirniadol (yr hyn y bydd eich gwaith yn ei gyfrannu i’r meysydd creadigol a beirniadol perthnasol) (250 o eiriau)
- Amcanion creadigol (amlinellwch y ddau brif amcan creadigol a fydd yn sail i’ch prosiect, ac esbonio sut y bydd eich gwaith yn mynd i’r afael â hwy) (250 o eiriau)
- Cynnig llawn (disgrifiad manwl o’r gwaith y bwriadwch ei wneud, gan gynnwys cynlluniau amlinellol o’r elfennau creadigol a beirniadol) (2,000 o eiriau)
- Eich gwaith hyd yma yn y maes hwn neu feysydd cysylltiedig (250 o eiriau)
Dylech hefyd gyflwyno sampl o’ch gwaith creadigol, tua 5,000 o eiriau o ryddiaith neu 100 llinell o farddoniaeth