Y Ganolfan Farddoniaeth Gyfoes (ContemPo)
ContemPo, a sefydlwyd yn 2006, yw’r enw bob dydd neu deitl ‘gwaith’ y Ganolfan Farddoniaeth Gyfoes, sydd yn ganolfan ymchwil gydweithredol a gydlynir gan Adrannau Saesneg Prifysgol Aberystwyth, Prifysgol Bangor, Prifysgol Plymouth a Phrifysgolion Brighton a Surrey. Grŵp ‘beirniadol/creadigol’ yw ContemPo sy’n ymroi i fuddiannau beirdd sydd hefyd yn academyddion, academyddion sydd hefyd yn feirdd, a’r rhai sy’n ‘ddim ond’ y naill neu’r llall. Mae gan ContemPo ddiddordeb arbennig (ymhlith diddordebau eraill) mewn ymchwilio i farddoniaeth arbrofol a barddoniaeth berfformio a’u prydyddiaeth. Gweithgaredd craidd y Ganolfan yw rhaglen o bapurau, seminarau a pherfformiadau a rennir trwy fideo-gynadledda rhwng academyddion, myfyrwyr uwchraddedig a gwahoddedigion o’r tri sefydliad sy’n aelodau llawn. I gael mwy o wybodaeth ewch i wefan ContemPo.
Canolfan David Jones
Mae Canolfan David Jones yn cefnogi ymchwil ar hanes ac effaith Moderniaeth yng Nghymru ac, yn fwy eang, ar ryngweithiad creadigol gair a delwedd, y testunol a’r gweledol. Cynhelir cynhadledd a seminar flynyddol gan y Ganolfan, ac mae’n ceisio hyrwyddo’r posibiliadau cyffrous ar gyfer ymchwil newydd a gynigir gan yr archifau llenyddol ac artistig yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Os hoffech gael mwy o wybodaeth, cysylltwch â Luke Thurston.
Y Sefydliad Astudiaethau Canoloesol a Modern Cynnar (SACMC)
Mae’r Sefydliad Astudiaethau Canoloesol a Modern Cynnar (SACMC) yn rhan o’r bartneriaeth ymchwil a menter rhwng Prifysgolion Aberystwyth a Bangor. Fe’i lansiwyd yn 2006 ac mae’n sefydliad ymchwil rhyngddisgyblaethol cydweithredol. Daw SACMC ag ymchwilwyr a myfyrwyr uwchraddedig o’r ddwy Brifysgol ynghyd, myfyrwyr sy’n gweithio ym maes hanes, llenyddiaeth, cerddoriaeth, diwinyddiaeth ac astudiaethau Celtaidd, yn y cyfnod 500-1800.
Un o’i weithgareddau craidd yw seminar ymchwil a gynhelir dros fideo-gynhadledd a’i darlledu’n fyw dros Gymru bob pythefnos. Mae SACMC hefyd yn trefnu cynadleddau, gweithdai a chynulliadau a fynychir gan ysgolheigion o bob cwr o’r byd. Sicrheir amgylchedd ymchwil bywiog i fyfyrwyr uwchraddedig ar lefel Meistr neu PhD. Gyda’r rhaglen reolaidd o seminarau ymchwil, gweithdai dan arweiniad myfyrwyr a sesiynau hyfforddi uwchraddedig, mae SACMC yn rhoi cyd-destun cefnogol ac ysgogol i waith uwchraddedig mewn astudiaethau canoloesol a modern cynnar. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan SACMC.
Canolfan Creadigrwydd a Lles
Canolfan ymchwil yw’r Ganolfan Creadigrwydd a Lles sy’n rhan o’r Adran Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol. Cafodd ei sefydlu i hyrwyddo ac ymchwilio i’r rhan sydd i ymarfer creadigol mewn amrywiaeth o gyd-destunau lles.
Mae'r Ganolfan yn dwyn ynghyd ymchwilwyr sy'n gweithio mewn meysydd cysylltiedig er mwyn datblygu prosiectau hirdymor o ymchwil cydweithrediadol. Rydym wedi meithrin partneriaethau â sefydliadau ac elusennau cyhoeddus, gan gynnwys Iechyd Cyhoeddus Cymru, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda GIG, Ymddiriedolaeth Fathom, Ymddiriedolaeth y Gofalwyr, a Sefydliad Shaw. Trwy hynny rydym wedi gallu cynnal amrywiaeth o brosiectau. Mae llwyddiannau diweddar yn cynnwys:
- Diwrnod i Awduron Ymylol Gymryd Drosodd
- ‘Narratives of Personal Renewal’ - dyddiau lles i staff y GIG
- ‘Writing and Making for West Wales Carers’
- ‘Imaginary Homelands’ gyda chymunedau ffoaduriaid
- Ysgrifennu archaeoleg yn Ystrad Fflur
- Cynhaeaf Barddoniaeth gydag Amaethyddiaeth Gymunedol Organig Cae-rhys, Sir Benfro
Dathlodd y Ganolfan nifer o gyhoeddiadau sylweddol yn ddiweddar:
- Unreal City: Depersonalization and Creative Writing, Matthew Francis, Routledge, 2022.
- Night Terrors: Dreams, Sleepwalking and Unconsciousness, Alice Vernon, Gwasg Icon, 2022.
- Creativity and Anxiety: An Uncertain Relationship, Gavin Goodwin, Palgrave MacMillan, 2023.
- Plus Ultra, Sarah Fletcher, Cheerio, 2023
- Dream Latin, blodeugerdd a olygwyd gan Jacqueline Yallop, Broken Sleep Books, 2023.
- Into the Dark: What Darkness is and Why it Matters, Jacqueline Yallop, Llyfrau Icon, 2024
Mae croeso bob amser i ddarpar bartneriaid anfon ymholiadau, neu rai sy’n dymuno cynnal gweithgareddau a allai ategu gwaith y Ganolfan. Rydym hefyd yn hapus i drafod cyfleoedd i ddarpar fyfyrwyr PhD. Cysylltwch â Jacqueline Yallop yn y lle cyntaf, jay4@aber.ac.uk.