Astudio dramor
Canfod diwylliannau eraill
Mae Prifysgol Aberystwyth yn cynnig cyfle oes i chi astudio, gwirfoddoli neu weithio mewn gwlad arall, am flwyddyn academaidd, semester sengl neu ychydig wythnosau yn y gwyliau. Bachwch ar y cyfle i ganfod diwylliannau eraill, i herio eich hun a chasglu profiadau a fydd yn helpu gyda'ch gyrfa.
Gall astudio yn un o'n prifysgolion partner gynnig persbectif newydd i chi ar eich pwnc a'r cyfle i ddyfnhau ac ategu'ch astudiaethau yn Aberystwyth. Gall yr amser a dreulir yn archwilio gwlad a diwylliant newydd hogi'ch sgiliau rhyngbersonol, gwella'ch gallu iaith, ac ehangu eich meddylfryd rhyngwladol.
Canfod ble gallwch chi fynd yn fyfyriwr yn yr Adran Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol
Rydym hefyd yn cynnig ein cynllun gradd English Studies and TESOL gyda blwyddyn integredig yn astudio dramor neu mewn diwydiant, i roi cyfle i chi gael profiad o Ddysgu Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill, neu fyw ac astudio dramor am flwyddyn academaidd gyfan.
Beth am ddysgu mwy am y profiad o astudio dramor a sut mae ein myfyrwyr wedi elwa o’r rhaglen drwy glicio ar y tabiau: