Cyfleoedd Allgyrsiol
Encil Ysgrifennu Gregynog
Yn eich blwyddyn olaf cewch elwa o’r encil ysgrifennu blynyddol gyda chymhorthdal llawn, a gynhelir mewn maenordy hardd yng nghefn gwlad gorllewin Cymru: Encil Ysgrifennu Gregynog. Mae’r digwyddiad hynod boblogaidd hwn yn gyfle ichi fwynhau heddwch o hwrlibwrli bywyd y campws, wrth ddatblygu traethawd hir eich blwyddyn olaf a phrosiectau ysgrifennu creadigol. Mae staff a myfyrwyr yr adran yn mwynhau'r cyfnod yng Ngregynog yn fawr iawn. Mae'n gyfle i eistedd yn ôl ac ymlacio tra'n cael eich meddwl yn barod ar gyfer mater difrifol blwyddyn olaf y cwrs.
Yn ogystal ag Encil Ysgrifennu Gregynog, mae sawl cyfle ichi ymwneud â’r diwylliant lenyddol. Mae teithiau am ddim (a thocynnau am ddim!) i’r enwog Ŵyl y Gelli yn nodweddion blynyddol yn ein calendr, a byddwch hefyd yn cael gostyngiad ym mhrisiau perfformiadau yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth. Ceir hefyd Taith Lenyddol Dulyn, sy'n daith boblogaidd lle gall myfyrwyr y flwyddyn gyntaf a'r ail archwilio rhai o berlau'r ddinas gyda staff. Cewch ymweld â Thŵr Joyce, darganfod Oscar Wilde, neu archwilio'r Book of Kells. Yn agosach at adre, cewch ymuno ag un o'n grwpiau darllen (y Medieval Reading Group, neu'r Ulysses Reading Group, neu'r Romantics Reading Group). Ymunwch yn un o'r digwyddiadau a drefnir gan y Gymdeithas Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol megis y Book and Cake Club sy'n cwrdd yn gyson, neu'r dathliadau bob tymor a enwir Victorian Women's Wednesdays, neu gallwch fynychu un o seminarau staff a myfyrwyr yr adran a gynhelir yn rheolaidd a chanfod mwy am y prosiectau ymchwil y mae'r darlithwyr yn gweithio arnynt.
Mae ein myfyrwyr yn cyhoeddi blodeugerdd o’u gwaith creadigol a beirniadol bob blwyddyn. Mae Aberlink, sy’n cael ei ysgrifennu, ei ddylunio a’i olygu gan fyfyrwyr, yn gyfle i chi arddangos nid yn unig eich ysgrifennu ond hefyd eich sgiliau ar draws ystod eang o weithgareddau rheoli prosiect, o weithio gyda therfynau amser a rheoli cyllid, i ddigwyddiadau hyrwyddo a'r tu hwnt.