Cyflogadwyedd
Dydy hi byth yn rhy gynnar (nac yn rhy hwyr) i ddechrau cynllunio eich gyrfa ac yma yn Aber rydyn ni’n gwybod pa mor bwysig yw eich dyfodol chi.
Mae ein cyrsiau gradd wedi eu cynllunio i sicrhau bod eich doniau’n cael eu meithrin a’u hyrwyddo trwy gydol eich cyfnod yn Aber ac ar ôl hynny. Yn ogystal â chyflwyno addysg o ansawdd eithriadol yn ein pynciau rydym hefyd yn gweithio gyda’n myfyrwyr i sicrhau bod y sgiliau, yr wybodaeth a’r hyder ganddynt i lwyddo yn y byd gwaith ar ôl graddio.
Gradd mewn Llenyddiaeth Saesneg neu Ysgrifennu Creadigol yw’r ‘safon aur’ yn unrhyw fan gwaith lle rhoddir gwerth ar gyfathrebu. Mae ein cynlluniau gradd cyffrous yn berthnasol i’r gweithle ac mae cyflogwyr yn eu parchu’n fawr. Bydd yr addysg yn rhoi’r sgiliau allweddol i chi allu creu CV cynhwysfawr sy’n disgrifio eich cymwyseddau amrywiol – y cyfan gyda chefnogaeth ac arbenigedd ein Gwasanaethau Gyrfa. Ar ben hynny, rydym yn gweithio gyda’n myfyrwyr i sicrhau eu bod yn trosglwyddo’n esmwyth o’r campws i yrfa – mae 96% o’n graddedigion mewn gwaith neu astudiaethau pellach o fewn 6 mis ar ôl graddio – 2% yn fwy na chyfartaledd cenedlaethol y pwnc (HESA 2018), a does dim yn well gennym ni na chlywed am eu llwyddiant.
Mae ein myfyrwyr wedi mynd ymlaen i ddatblygu gyrfaoedd mewn pob math o feysydd sydd â galw mawr amdanynt. Yn ddiweddar aeth graddedigion yn eu blaen i gael eu cynrychioli gan rai o brif asiantau llenyddol Prydain a chafodd eu gwaith ei gyhoeddi gan rai o’r cyhoeddwyr uchaf eu bri yn y byd, gan gynnwys Faber & Faber a Penguin. Nid bod yn awdur clodfawr yw eich unig opsiwn gyda gradd yn un o’n pynciau. Mae ein graddedigion yn mynd ymlaen i bron bob sector, o lywodraeth leol i gyllid, o addysg i newyddiaduriaeth ar gyfer y cyfryngau newydd – does dim terfyn i ble gall gradd mewn Saesneg neu Ysgrifennu Creadigol fynd â chi.
Beth am i ni weld beth mae graddedigion Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol Aber yn ei wneud nawr, sut y bu iddynt gyrraedd yno, a pham fod eu graddau wedi bod yn rhan mor bwysig o’r daith honno.