Sut i wneud cais

Llywodraeth Cymru sy’n pennu nifer y llefydd sydd ar gael ar gyfer rhaglenni Addysg Gychwynnol i Athrawon (TAR) yn yr Ysgol Addysg bob blwyddyn. 

O ganlyniad, gall y nifer amrywio a gall fod cystadleuaeth frwd amdanynt. Fe’ch cynghorir yn gryf i wneud cais yn gynnar er mwyn sicrhau’r cyfle gorau am le.

  1. Dylech wneud cais am eich rhaglen TAR ar-lein trwy borth hyfforddiant athrawon UCAS.
  2. Mae’r drefn ymgeisio yn dechrau rhwng canol a diwedd mis Hydref (Cyfnod Ymgeisio 1) bob blwyddyn. Yn ystod Cyfnod Ymgeisio 1 gallwch wneud cais am hyd at dri gwahanol gwrs/darparwr. Bydd Cyfnod Ymgeisio 1 yn cau ym mis Ionawr fel arfer (er gall rhai darparwyr gau cyn hynny) a dyna pryd y cewch gyfle i wneud cais trwy ‘Gyfnod Ymgeisio 2’.
  3. Yn ystod ‘Cyfnod Ymgeisio 2’, ni chewch wneud cais am fwy nag un cwrs/darparwr ar y tro.

Wrth i chi baratoi eich cais, cofiwch y canlynol:

  • Cymerwch amser dros y cais a pheidiwch â rhuthro. Gan eich bod yn gwneud cais i fod yn athro/athrawes, mae’n bwysig sicrhau bod pob dim yn cael ei gwblhau’n gywir. Gallwch gadw eich gwaith wrth ichi fynd trwy’r ffurflen gais a dychwelyd ato unrhyw bryd.
  • Cysylltwch â’ch canolwyr ymlaen llaw er mwyn iddynt gael cyfle i baratoi geirda – ni all UCAS anfon eich cais atom tan iddynt dderbyn eich geirdâu.
  • Yn eich datganiad personol, ceisiwch ddangos eich ymrwymiad i fod yn athro/athrawes, eich brwdfrydedd am eich pwnc, a’ch gwybodaeth a’ch dealltwriaeth am addysg trwy unrhyw brofiad a gawsoch mewn ystafell ddosbarth.
  • Mae rhai cyrsiau, yn enwedig TAR Cynradd yn boblogaidd iawn a gellir llenwi’r llefydd yn gyflym – yn aml yn ystod ffenestr Cyfnod Ymgeisio 1. Fe’ch cynghorwn felly i wneud cais cyn gynted â phosibl.
  • Ar ôl ichi gyflwyno eich cais, bydd y broses yn symud yn gyflym. Rhaid i bob darparwr ymateb gyda phenderfyniad o fewn 40 diwrnod gwaith ac os cynigir lle i chi cewch ddeg diwrnod gwaith i ystyried y cynnig a dod i benderfyniad.
  • Yna fe’ch gwahoddir i gyfweliad lle gofynnir ichi sefyll prawf byr ar lythrennedd a rhifedd a chael cyfweliad personol. Mae diwrnod y cyfweliad yn gyfle hefyd i gwrdd â thiwtoriaid, gweld y mannau addysgu, a dysgu mwy am y rhaglen. Yn yr Ysgol Addysg, rydym yn cynnal ein cyfweliadau gyda’r ysgolion partner, a bydd hynny'n gyfle da i chi gwrdd â’ch darpar fentoriaid.

Cynllun Recriwtio Addysg Gychwynnol i Athrawon Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig