Ymchwil

Yma yn yr Ysgol Addysg ym Mhrifysgol Aberystwyth, mae gennym hanes hir o weithio ar flaen y gad o ran ymchwil ym maes addysg.

Mae ein holl ddarlithwyr yn ymchwilwyr gweithgar ac yn defnyddio'u hymchwil yn eu dysgu. Golyga hyn eich bod chi, ein myfyrwyr, yn gallu elwa o'r syniadau diweddaraf ym maes addysg.

Cewch ganfod mwy am ymchwil ein staff yn yr adran Proffiliau Staff.

Mae ymchwil yr Ysgol Addysg yn canolbwyntio ar dri maes allweddol. Cliciwch y tabiau i ganfod mwy.

Ymchwil ym maes addysgu, dysgu ac addysgeg

Mae'r ymchwil hon yn archwilio'r meysydd canlynol:

  • sut mae dysgwyr yn dysgu
  • gwybodaeth a dealltwriaeth o bynciau
  • TGCh a dysgu
  • athrawon a dysgu proffesiynol
  • datblygu'r cwricwlwm
  • asesu ar gyfer dysgu
  • addysg ddwyieithog.

Astudiaethau Plentyndod

Mae'r ymchwil hon yn archwilio'r meysydd canlynol:

  • sut mae plant yn datblygu ac yn dysgu
  • astudiaethau rhywedd
  • caffael iaith a datblygu iaith
  • iechyd a llesiant
  • ysgolion iach
  • anghenion dysgu ychwanegol

Polisi addysgol

Mae'r ymchwil hon yn archwilio'r meysydd canlynol:

  • partneriaeth a chydweithredu mewn addysg
  • addysg wledig
  • datblygu'r gweithlu mewn addysg
  • arweinyddiaeth mewn addysg
  • addysg gymunedol
  • polisi addysg cenedlaethol a lleol a'r effaith ar ysgolion bach.