Amdanom ni

Sefydlwyd ein Hysgol yn 1892, ac mae ymhlith yr adrannau Addysg hynaf yn y Deyrnas Unedig.

Ein nod yw cyfuno'r gorau o'n traddodiad ni am ragoriaeth academaidd â'r dulliau diweddaraf oll o ddysgu, cysylltu â'r myfyrwyr ac ymchwilio. 

P'un a ydych yn penderfynu astudio gyda ni ar sail amser llawn neu'n rhan-amser, gallwch fod yn hyderus y byddwch yn magu sylfaen gadarn i'ch gwybodaeth a'ch dealltwriaeth ynghyd â'r sgiliau trosglwyddadwy a werthfawrogir gan gyflogwyr. 

Rydym yn cynnig ystod eang o gyrsiau, megis astudiaethau Plentyndod, Addysg, hyfforddiant TAR i ddarpar athrawon ysgolion cynradd ac uwchradd, cyrsiau datblygu proffesiynol parhaus i athrawon ar lefel gradd Meistr, a graddau ymchwil mewn Addysg.

Wrth addysgu a gwneud gwaith ymchwil, rydym wedi ymrwymo i wasanaethu anghenion addysgol, diwylliannol, ieithyddol a chymdeithasol Cymru, ac ystyriwn fod cyfrannu i'r gymuned leol yn bwysig iawn. Wrth wneud hynny, gwerthfawrogwn yn fawr y gallu i gydweithio â darparwyr annibynnol yn y gymuned, ysgolion, awdurdodau unedol a sefydliadau addysgol eraill, yn lleol ac yn genedlaethol, yn ogystal â phartneriaid a sefydliadau eraill yn y Deyrnas Unedig, Ewrop a'r byd ehangach. Drwy'r partneriaethau hyn, rydym yn mynd ati i wneud ymchwil ym maes addysg a lles, datblygu rhyngwladol, polisïau addysg, addysg cyfrwng Cymraeg ac addysg i deuluoedd y lluoedd arfog.

Drwy ddarllen y tudalennau hyn, cewch flas ar yr hyn y gallwn ei gynnig i chi, ac rydym yn eich annog i ddod i ymweld â ni i ganfod mwy. Archebwch le ar un o'n Diwrnodau Agored, a dewch i gwrdd â'n cymuned fywiog o fyfyrwyr a staff. Fe gewch groeso cynnes.

Ein cymuned

Mae Aberystwyth yn dref brifysgol ddwyieithog, eangfrydig a bywiog, rhwng bryniau tirion y Canolbarth a glannau prydferth Bae Ceredigion.

Byddwch yn rhan o brifysgol gampws sydd â'i chanolfan chwaraeon ei hun a Chanolfan Gelfyddydau brysur, ac fe fyddwch ddrws nesaf i Lyfrgell Genedlaethol Cymru - un o ddim ond pum llyfrgell hawlfraint yn y Deyrnas Unedig.

Mae'r Brifysgol yn rhan fawr o'r dref, ac fe welwch chi bod myfyrwyr a staff y brifysgol ynghyd â'r bobl yn y gymuned leol yn gyfeillgar ac yn groesawgar.

Ein myfyrwyr sydd wrth galon yr Ysgol Addysg, ac maen nhw'n dweud wrthym ni eu bod wrth eu bodd â'r awyrgylch cyfeillgar a chefnogol rydym wedi'i greu yma.  Mae Canllaw Prifysgolion Da y Times a’r Sunday Times 2024 wedi gosod yr Ysgol Addysg ar y brig yn y Deyrnas Unedig am Brofiad Myfyrwyr ac yn 2il yn y Deyrnas Unedig am Ansawdd y Dysgu ym mhwnc Addysg. Cawsom hefyd ein gosod ar y brig yng Nghymru ac yn ail yn y Deyrnas Unedig am Fodlonrwydd Myfyrwyr ym maes Addysg yn yr Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr 2022. Heb os, fe fydd eich amser gyda ni yma ym Mhrifysgol Aberystwyth yn brofiad anhygoel a fydd yn aros yn y cof.

Ein cyrsiau

Yma yn yr Ysgol Addysg, rydym yn cynnig ystod eang o raddau israddedig ac ôl-raddedig. Rydym yn cynnig graddau mewn Astudiaethau Plentyndod ac Addysg - pob un yn gwarantu cyfweliad ar gyfer ein cyrsiau TAR - a hefyd nifer uchel o raddau cyfun a phrif/is-bwnc. Golyga hyn y gallwch chi astudio Addysg ochr yn ochr â phwnc academaidd arall.

Ers mis Medi 2019, rydym wedi bod yn darparu hyfforddiant TAR Cynradd ac Uwchradd hefyd. Mae'r cyrsiau Addysg Gychwynol i Athrawon yn arloesol ac yn rhoi pwyslais fawr ar leoliadau mewn ysgolion cynradd ac uwchradd. Ewch i'r dudalen TAR yn y brif ddewislen i ganfod mwy.

Rydym yn cynnig Doethuriaeth Broffesiynol (DProf) ar gyfer myfyrwyr sy'n awyddus i barhau â'u hastudiaethau. Mae'r radd hon yn addas i bobl sydd â gradd israddedig berthnasol neu brofiad proffesiynol cyfatebol. Canfod mwy am y DProf.

Mae ein cynlluniau gradd cyffrous, sy'n berthnasol i'r gweithle, yn uchel eu parch ymhlith myfyrwyr a chyflogwyr fel ei gilydd. Yn ôl y wybodaeth ddiweddaraf, roedd canran anhygoel, 98%, o'n graddedigion mewn gwaith neu'n astudio ymhellach 6 mis ar ôl graddio (HESA 2018). Mae hynny'n dangos bod ein dysgu arloesol ni yn eich paratoi chi i drosglwyddo'n ddidrafferth o'r campws i'r gweithle.

Dyma wybodaeth am ein cyrsiau gradd Anrhydedd Sengl.

BA Addysg (3 blynedd)
Nod y radd hon yw datblygu eich gwybodaeth a'ch dealltwriaeth o'r rôl y mae addysg yn ei chwarae mewn gwahanol gyd-destunau ac amrywiaeth o ysgolion, lleoliadau addysgol a chyflenwyr addysg ôl-16. Mae Addysg yn bwnc rhyngddisgybledig sy'n rhoi boddhad, ac fe fydd yn eich cynorthwyo i ddysgu am sut mae pobl o bob oedran yn dysgu, ynghyd â'r ffactorau sy'n dylanwadau ar p'un y mae'r profiad hwnnw'n un bositif neu negyddol. Bydd y radd hon yn cynnig gwybodaeth bynciol berthnasol a sgiliau proffesiynol, ynghyd ag amrywiaeth o brofiadau addysgol, a fydd yn rhoi'r cyfle i chi gael profiad o weithio mewn ystod o rolau proffesiynol sy'n gysylltiedig ag addysg. Mae'r radd BA Addysg yn canolbwyntio ar gefnogi dysgwyr, anghenion addysgol arbennig, ac arfer yn y dosbarth, a cheir amrywiaeth o fodiwlau arbenigol yn y meysydd hyn. Os yw gyrfa addysgu a'r cyfle i ddylanwadu ar genedlaethau'r dyfodol yn apelio i chi, gallwch fod yn hyderus bod y radd hon yn cynnig llwybr i'r rhaglenni hyfforddiant i athrawon cynradd (Tystysgrif Addysg i Raddedigion, TAR) yn ogystal.

BA Addysg (4 blynedd)
Mae Addysg yn bwnc rhyngddisgybledig sy'n rhoi boddhad, ac fe fydd yn eich cynorthwyo i ddysgu am sut mae pobl o bob oedran yn dysgu, ynghyd â'r ffactorau sy'n dylanwadau ar p'un y mae'r profiad hwnnw'n un bositif neu negyddol.
Mae'r cwrs gyda blwyddyn sylfaen integredig, ar gyfer darpar fyfyrwyr nad oes ganddynt gefndir academaidd perthnasol neu ddigonol, yn ddewis perffaith i gael mynediad i'r cwrs gradd hwn. Yn ystod y flwyddyn sylfaen, cewch ddatblygu sylfaen gadarn i'ch galluogi i fynd ymlaen i astudio'r radd lawn.
Bydd y radd hon yn cynnig gwybodaeth bynciol berthnasol a sgiliau proffesiynol, ynghyd ag amrywiaeth o brofiadau addysgol, a fydd yn rhoi'r cyfle i chi 
gael profiad o weithio mewn ystod o rolau proffesiynol sy'n gysylltiedig ag addysg. Mae'r radd BA Addysg yn canolbwyntio ar gefnogi dysgwyr, anghenion addysgol arbennig, ac arfer yn y dosbarth, a cheir amrywiaeth o fodiwlau arbenigol yn y meysydd hyn.
Os yw gyrfa addysgu a'r cyfle i ddylanwadu ar genedlaethau'r dyfodol yn apelio i chi, gallwch fod yn hyderus bod y radd hon yn cynnig llwybr i'r rhaglenni hyfforddiant i athrawon cynradd (Tystysgrif Addysg i Raddedigion, TAR) yn ogystal.

BA Astudiaethau Plentyndod (3 blynedd)
Bydd y radd mewn Astudiaethau Plentyndod yn eich galluogi i archwilio ystod eang o feysydd sy'n hanfodol i fywydau plant, a bydd yn eich paratoi chi gyda'r sgiliau a'r arbenigedd sy'n angenrheidiol er mwyn gweithio mewn ystod o swyddi'n ymwneud â phlant. Pa bynnag yrfa y byddwch yn ei dewis, bydd y radd hon yn rhoi sylfaen gadarn i chi o'r wybodaeth a'r ddealltwriaeth y mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt, ynghyd â sgiliau beirniadol a gwerthuso. Hefyd, cyn belled â'ch bod yn bodloni'r gofynion mynediad, gallwn roi sicrwydd y cewch gyfweliad ar gyfer astudio TAR Cynradd yn Aberystwyth.

BA Astudiaethau Plentyndod Cynnar gyda Statws Ymarferydd Blynyddoedd Cynnar (3 blynedd)
Ydych chi â diddordeb mewn ymchwilio i sut mae plant yn y blynyddoedd cynnar yn datblygu, ac astudio'r wybodaeth ddamcaniaethol a'r ymchwil sy'n dylanwadu ar y dulliau a ddefnyddir heddiw? Os ydych, ymunwch â ni ar y cwrs hwn. Gan ddefnyddio agweddau ar seicoleg, cymdeithaseg, astudiaethau plentyndod ac addysg, bydd y radd hon yn cyfuno theori ac ymarfer ac yn caniatáu i chi ddatblygu dealltwriaeth glir am y cyfnod hwn ym mywydau plant. Gan weithio o fewn y cyfnod lle mae datblygu'n digwydd yn gyflym iawn, byddwch yn dysgu am sut mae ymarferwyr yn cadw cofnod o'r datblygiad hwn, i'w galluogi i gynllunio'n ofalus ac mewn modd addas ar gyfer camau nesaf pob plentyn.
Gan dreulio dros 700 o oriau mewn lleoliadau gyda phlant ifanc, byddwch yn datblygu'r sgiliau proffesiynol ac academaidd sydd eu hangen arnoch i lwyddo mewn gyrfa ym maes plentyndod cynnar.

I gael rhagor o wybodaeth am ein holl gyrsiau, ewch i'n tudalen  a phorwch y cyrsiau yr ydym yn eu cynnig. Os oes gennych gwestiynau, da chi cysylltwch â ni - gweler yr adran 'Cysylltu â ni' yn y brif ddewislen.