Ms Tanya Rogers

BSc(Anrhydedd Gyfun) Seicoleg a Chymdeithaseg; TAR Addysg Oedolion ac Uwchradd; MSc Dulliau Ymchwil Seicolegol (Rhagoriaeth); Cymrodoriaeth yr Academi Addysg Uwch

Ms Tanya Rogers

Development Officer/Executive Producer

Manylion Cyswllt

Proffil

  • Rwy’n athro cymwys a phrofiadol ym meysydd Addysg Uwch, Addysg Bellach, ac Addysg Uwchradd.
  • Fy arbenigedd proffesiynol yw dylunio dysgu, yn enwedig ar gyfer dysgu o bell. Fel Swyddog Datblygu: Cynhyrchydd Gweithredol mewn dysgu agored a dysgu o bell yn AAG, rwy’n gweithio gyda thîm arbenigol o gydweithwyr i:
    • Reoli’r gwaith o ddatblygu, dylunio a darparu deunydd dysgu o bell
    • Cydlynu’r gwaith o ddatblygu a darparu cyrsiau DPP (Datblygu Proffesiynol Parhaus)
    • Darparu cyngor ac ymgynghori ar ddylunio dysgu, polisi, cymorth i fyfyrwyr, cymorth systemau, a strategaeth ar gyfer dysgu o bell
  • … ac rwy’n:
    • Diwtor personol i fyfyrwyr dysgu o bell (israddedig ac uwchraddedig)
    • Dysgu (moeseg ymchwil; dulliau ymchwil meintiol; dylunio dysgu; llythrennedd gwybodaeth; sgiliau academaidd; … )
    • Mentora a hyfforddi staff, ac Athro GDSYA
    • Cynnig gwasanaeth ymgynghori a hyfforddiant (yn y DU ac yn rhyngwladol) mewn dylunio a datblygu cyrsiau dysgu o bell, e.e.: Ford Motor Company a Phrifysgol East Anglia; ATP IBERS; The Britten Pears Foundation gyda’r Music Libraries Trust ac IAML;  Antiquarian Booksellers Association; Gwasanaeth Cymorth Ar-lein i Fusnesau Canolbarth Cymru, a ariennir gan KEF; Hyfforddiant TGCh Cymru a ariennir gan y Gronfa Cyfleoedd Newydd; …ayyb.

Gwybodaeth Ychwanegol

  • Bywgraffiad byr:
    • Graddiais o Brifysgol Bryste â gradd BSc Anrhydedd Gyfun mewn Seicoleg a Chymdeithaseg
    • Cymhwysais fel athro ym Mhrifysgol Caerlŷr, TAR Saesneg a Chyfathrebu ar gyfer Addysg Uwchradd ac Addysg i Oedolion
    • Dilynais yrfa ym maes dysgu, yn cynnwys: addysg bellach, addysg i oedolion, troseddwyr ifanc
    • Yn 1993 deuthum yn aelod sylfaen a Swyddog Datblygu Uned Dysgu Agored (OLU) yr AAG – uned addysgol arbenigol ar gyfer dysgu agored, dysgu o bell ac e-ddysgu. Sefydlwyd yr Uned i ddatblygu, cefnogi a hyrwyddo addysg o ansawdd uchel trwy ddysgu agored a dysgu o bell – yn seiliedig ar egwyddorion dysgu hyblyg sy’n canolbwyntio ar y myfyriwr.
    • Yn 2001 cefais radd MSc gyda rhagoriaeth mewn Dulliau Ymchwil Seicolegol (trwy’r Brifysgol Agored).
  • Gwaith yn y Brifysgol: Rwy’n parhau (ar sail rhan amser) i ddatblygu polisïau, cynnwys, a systemau cymorth ar gyfer dysgu o bell; ehangu darpariaeth DPP; a gweithio gyda’r rhai sydd â diddordeb mewn datblygu dysgu o bell. Rwy’n aelod o gyrff proffesiynol perthnasol e.e.: EDEN (European Distance and E-Learning Network); ac yn Gymrawd yr Academi Addysg Uwch (HEA).
  • Ffermio: Y tu allan i fy ngwaith rhan-amser yn y Brifysgol, rwy’n ffermiwr tenant ar fferm fynydd yng Nghwm Elan. Mae hon yn fferm weithredol; bob blwyddyn rydym yn cyflogi 30+ o staff tymhorol, ynghyd â myfyrwyr ar leoliad. Ein nod yw ffermio yn gynhyrchiol ac mewn partneriaeth â natur, gan ddiogelu a gwella cynefin ac amgylchedd arbennig y fferm. Rydym yn geidwaid ar:
    • y da byw cynhenid, gwydn (e.e. defaid mynydd Cymreig, cŵn defaid, a merlod bugeilio), a
    • chynefin ac amgylchedd y Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig sy’n cynnwys y fferm gyfan
  • Mae fy ngwaith ffermio yn cynnwys bod yn aelod o’r grwpiau ffermio ac amgylcheddol perthnasol e.e. FWAG; NFFN, TFA, ac rwy’n stiward ac yn aelod o bwyllgor da byw Sioe Frenhinol Cymru.

Dysgu

Aspire Admin
Lecturer
Tutor
Course Builder
Assistant
  • Israddedig ac Uwchraddedig:
    • Dylunio Dysgu
    • Moeseg Ymchwil
    • Dulliau Ymchwil
    • Llythrennedd a Dysgu
    • Sgiliau Academaidd a Sgiliau Cyflwyno
    • Cloriannu Dylunio Dysgu

Ymchwil

  • Mae fy niddordebau ymchwil proffesiynol yn cynnwys: Dylunio dysgu; dadansoddi dysgu; modelau o gymorth i ddysgwyr o bell; Dulliau asesu ar gyfer ymarfer myfyriol yn y gweithle
  • Ymarfer sy’n seiliedig ar dystiolaeth (llenyddiaeth lwyd): dadansoddi data ar gyfer ymarfer sy’n seiliedig ar dystiolaeth yn y gweithle e.e.:
    • Rogers, T., & Nelson, J. (2014) Data analysis of distance learner tracking database - Intakes 2009-2013 for all UG & PG distance learning courses, Aberystwyth, Uned Dysgu Agored, Adran Astudiaethau Gwybodaeth, Prifysgol Aberystwyth.
    • Rogers, T, Jenkins, J., Lithgow, S., Nelson, J., Spittle, M., Taylor, M. (2014) ‘Distance learners are different, so what makes for successful distance learning?’, cylch trafod a phapur ar y cyd gan OLU ac ATP, HEA Future Directions Conference, Aberystwyth, 2il Ebrill 2014.
  • Rhai cyhoeddiadau cynharach:
    • Rogers, T., a Nelson, J. ‘Supporting open and distance learners with computer conferencing: potential benefits and barriers.’ Psychology Learning and Teaching, 2(2), Rhagfyr 2002: 127-133.
    • Rogers, T. a Roberts, H. ‘Supporting distance learners: the Aberystwyth model’, Proceedings of Current Issues in Distance Learning, Loughborough, 15th-16th January 1998. Flexible Learning Initiative, UK.
    • Urquhart, C., Hornby, S., Rogers, T., a Bawden, D. ‘The health information practitioner as learner and educator’, Education for Information, 16(1), Gwanwyn 1998.
    • Barber, J. a Rogers, T. ‘Aberystwyth at a distance’. Flexibility in course provision in higher education news, Ionawr 1994.

Cyfrifoldebau

  • Rheoli’r gwaith o ddatblygu, dylunio a darparu deunydd ac adnoddau dysgu o bell
  • Sicrhau ansawdd, cysondeb a safon deunydd dysgu o bell
  • Cydlynu Cyrsiau DPP (Datblygu Proffesiynol Parhaus) Byr
  • Cynnig cyngor ac ymgynghori ar ddylunio dysgu/hyfforddiant, a strategaeth, polisi, cymorth a darparu gwasanaeth dysgu o bell
  • Tiwtor personol (myfyrwyr dysgu o bell)
  • Dysgu (moeseg ymchwil; dulliau ymchwil meintiol; dylunio dysgu; llythrennedd gwybodaeth; sgiliau academaidd; … )

Oriau Swydda (Amseroedd Cyswllt Myfyrwyr)

  • Dydd Iau 14:00-16:00
  • Dydd Gwener 10:00-12:00