Ffioedd, costau eraill, a ffyrdd o ariannu'ch astudio

 

Ffioedd

Ffioedd

Costau eraill: dysgu o bell

Gwanwyn 2025 (Mawrth / Ebrill) - ysgol astudio ar-lein. Mae ffi ysgol astudio sef tua £50 ar gyfer yr ysgol astudio ar-lein hon.

Medi 2025  - ysgol astudio breswyl yn Aberystwyth. Nid yw manylion a chostau llety'r ysgol hon wedi'u cadarnhau eto. Bydd manylion yn cael eu hanfon atoch pan fyddwch wedi cofrestru ar y cwrs. Os oes gennych unrhyw gwestiynau am yr ysgol hon, cysylltwch â’r adran ar dis-dept@aber.ac.uk.

Medi 2025: Nid yw ffioedd cwrs yn cynnwys costau'r ysgolion astudio preswyl. Mae hyn yn golygu y bydd angen i chi gyllidebu ar gyfer costau teithio a llety, yn ogystal â ffi’r ysgol astudio, sef tua £50. Rydym hefyd yn cynnig pecyn aros ar y campws ar gyfer ysgolion astudio preswyl sy'n cynnwys yr holl lety, bwyd a digwyddiadau cymdeithasol.  Mae hyn yn costio oddeutu £250-£300, gan ddibynnu ar nifer y nosweithiau a arhosir. Gallwch hefyd wneud eich trefniadau llety eich hun a thalu'r ffi ysgol astudio’n unig.

Mae'r rhaglen BSc Astudiaethau Gwybodaeth a Llyfrgellyddiaeth israddedig yn gofyn eich bod yn cymryd rhan mewn tair ysgol astudio.

Mae rhaglenni uwchraddedig yn gofyn eich bod yn cymryd rhan yn yr ysgol gyntaf o leiaf (preswyl neu ar-lein). Mae ysgolion pellach yn dibynnu ar y cymhwyster / rhaglen rydych yn ei dilyn. Rhaid i bob myfyriwr uwchraddedig sy'n symud ymlaen i'r cam Traethawd Hir gymryd rhan mewn Ysgol Traethawd Hir.

Ffyrdd o ariannu'ch astudio

  • Uwchraddedig amser llawn (a rhan-amser)
  • Israddedig amser llawn (a rhan-amser)
  • Dysgu o bell (israddedig ac uwchraddedig). Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig (DU) yn darparu benthyciadau i fyfyrwyr uwchraddedig dysgu o bell sy'n byw yn y DU (rhaid i chi fod wedi cofrestru ar raglen dwy flynedd). Gall myfyrwyr israddedig dysgu o bell sy'n byw yn y DU wneud cais am fenthyciad (ar sail cyflymder eich cynnydd). I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â'r Adran, neu dilynwch y dolenni ar dudalen Cyllid Arall y Brifysgol. Os ydych yn ariannu'r cwrs eich hun, cewch dalu am y modiwlau dros dwy i bum mlynedd trwy brynu'r modiwlau ar siop ar-lein y Brifysgol. Noddir rhai dysgwyr dysgu o bell gan sefydliad.