Estyn allan
Rydym yn ymroddedig i ddarparu digwyddiadau estyn allan ac ymgysylltiad cyhoeddus i ysgolion a cholegau ar draws y DU.
Mae gennym raglen gynhwysfawr o ran cyswllt ag ysgolion a cholegau sydd wedi’i chynllunio i gyfoethogi’r cwricwla TGAU a Safon Uwch, gan ddarparu amrywiaeth o adnoddau i fyfyrwyr Daearyddiaeth, Daeareg, Astudiaethau Amgylcheddol a Chymdeithaseg.
Dyma rai o’r pynciau yr ydym yn eu cynnig:
- Newid hinsawdd
- SGD a Synhwyro o Bell
- Cylchrediad atmosfferaidd
- Prosesau afonol
- Tectoneg platiau
- Peryglon naturiol
- Tirweddau rhewlifol
- Daearyddiaeth drefol a gwledig
- Newid yn y boblogaeth
- Globaleiddio a datblygu
- Cynaliadwyedd.
Byddai ein staff o ymchwilwyr o’r radd flaenaf yn y gwyddorau ffisegol a chymdeithasol yn barod iawn i weithio gyda chi a’ch staff i greu cyflwyniadau pwrpasol yn ôl y gofyn hefyd.
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â’r Athro Mark Whitehead ar msw@aber.ac.uk.
Hwb Cwrs Maes Daearyddiaeth a Daeareg Aberystwyth
Gwybodaeth leol ddiddorol
Get into Geosciences Wales - cy
Meddwl astudio am radd yn y geowyddorau (daearyddiaeth ffisegol, gwyddor yr amgylchedd a daeareg)? Ystyried y rhagolygon am yrfa? Ddim yn siwr beth yw’r geowyddorau? Ymunwch â ni i ddarganfod mwy! Mae Geowyddorau inni i Gyd Cymru yn fenter dwyieithog sy’n cyflwyno disgyblion blwyddyn 12-13 i’r geowyddorau, gan arddangos y dewis eang o yrfaoedd sydd ar gael i raddedigion, a chynnig blas ar astudio am radd yn y maes. Mae'r digwyddiad hwn yn agored i bob menyw cis a thraws a phobl anneuaidd sy'n gyfforddus mewn gofod sy'n hyrwyddo menywod.
Darganfyddwch fwy a gwnewch gais ar dudalen we Geowyddorau inni i Gyd.