Cylch Cyfrannu'r Is-Ganghellor
Mae Cylch Cyfrannu'r Is-Ganghellor yn ffordd o ddangos ein gwerthfawrogiad ac i gydnabod yr effaith trawsnewidiol y gall £1,000 ei gael – yn gyfunol ac yn unigol.
"Cafodd Prifysgol Aberystwyth ei sefydlu drwy haelioni’r rhai oedd yn credu yng ngrym addysg i weddnewid bywydau, ac ag awydd i wneud gwahaniaeth.
Mae fy Nghylch Cyfrannu yn cofleidio’r fath haelioni a’r awydd hwnnw drwy adeiladu ar egwyddorion dyngarol y gorffennol er mwyn sicrhau bod y myfyrwyr, ein hacademyddion a’r gymuned ehangach yn cael y cyfleoedd i wneud gwahaniaeth a rhagori ym mhopeth a wnânt.”
Yr Athro Jon Timmis, Is-Ganghellor
Croesewir rhoddwyr sy’n arwain y ffordd o ran dyngarwch ac sy’n rhoi rhoddion blynyddol neilltuol o £1,000 neu fwy o fewn blwyddyn academaidd i Gylch Cyfrannu'r Is-Ganghellor.
Ysbrydolwyd gan y cymwynaswyr lu sydd wedi rhoi cefnogaeth hael i'r Brifysgol ers y sefydlwyd hi yn 1872, mae Cylch Cyfrannu'r Is-Ganghellor wedi'i sefydlu i gydnabod ein rhoddwyr ledled y byd a diolch iddynt am eu cymorth parhaol.
Mae pob rhodd yn gwneud gwahaniaeth ac yn cael dylanwad mawr ar fywydau ein myfyrwyr a dyfodol y Brifysgol.
Fel aelod o’r Cylch Cyfrannu byddwch:
- Yn cael bathodyn aelodaeth arbennig y Cylch Cyfrannu
- Llythyr croeso o’r Is-Ganghellor
- Cydnabyddiaeth arbennig ar y Rhestr Rhoddwyr
- Cerdyn Nadolig o’r Is-Ganghellor
- Gwahoddiad i ddigwyddiad blynyddol y Cylch Cyfrannu a gynhelir gan yr Is-Ganghellor yn yr haf
Gallwch roi drwy amrywiaeth o ddulliau yn cynnwys:
Ar-lein
Rhowch ar-lein drwy rodd unigol
Rhowch drwy rodd reolaidd ar sail fisol neu flynyddol
Post
Rhowch drwy anfon Ffurflen Roi drwy’r post i drefnu rhodd reolaidd neu unigol.