Dulliau Dysgu ac Addysgu

Dulliau Dysgu ac Addysgu
Am ein bod ni’n Adran gymharol fach, mae gan y myfyrwyr gyswllt agos â darlithwyr sy’n arbenigwyr yn eu meysydd, ac yn gyson mae Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd yn sgorio’n rhagorol o ran Bodlonrwydd Myfyrwyr.
Rydym yn cyfoethogi ein darlithoedd, ein seminarau a’n gweithdai â’r gweithgareddau canlynol:
- technegau dysgu arloesol
- gwaith grŵp
- adnoddau electronig
- tiwtorialau bychain
- recordio darlithoedd
- sleidiau, taflenni a deunyddiau atodol ar y Bwrdd Du, sef ein porth adnoddau dysgu ar-lein
- teithiau maes
- lleoliadau profiad gwaith.