Estyn allan
Mae Adran Cyfrifiadureg yn gweithio’n gydweithredol yn rhan o’i hymdrech barhaus i ddwyn cyfrifiadureg i’r gymuned ehangach, rhoi llwyfan i’n hymchwil blaengar, ac ysbrydoli pobl ifanc i ddatblygu diddordeb mewn cyfrifiadureg.
Yr ydym yn gweithio, er enghraifft, gyda sefydliadau a phobl academaidd eraill, ysgolion lleol, a mudiadau datblygu meddalwedd. O robotiaid ar y traeth i gerddorfa robotaidd ar y BBC a’n “iCub AI” sy’n dawnsio ac yn dwlu ar yr Arctic Monkeys, mae ein gweithgareddau estyn allan yn anadlu anadl einioes i gyfrifiadureg ac yn swyno cynulleidfaoedd o bob oed.