Cydraddoldeb ac amrywiaeth

Myfyriwr benywaidd yn cysylltu gwifrau

Mae’r Adran Gyfrifiadureg wedi ymrwymo i ddatblygu a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ein holl arferion a’n gweithgareddau.

Mae Chyfrifiadureg yn dal gwobr Efydd Athena SWAN, sydd wedi'i adnewyddu tan 31 Gorffennaf 2029 a rydym yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb rhyw ar draws ein hadran, yn hyrwyddo gyrfaoedd menywod mewn gwyddoniaeth a thechnoleg. Mae nifer o’n darlithwyr yn rhan o Dîm Hunanasesu Athena SWAN sefydliadol y Brifysgol.

Ein nod yw darparu diwylliant cynhwysol i’n holl staff a’n myfyrwyr, yn rhydd o gamwahaniaethu ac sy’n cynnal gwerthoedd parch, urddas a chwrteisi. Mae gan bawb yr hawl i gael eu trin yn unol â’r gwerthoedd hyn.

Rydym yn sicrhau bod ein myfyrwyr benywaidd yn cael tiwtoriaid personol benywaidd.

Rydym yn ymwneud yn weithredol ag allgymorth mewn ysgolion a chymryd rhan mewn digwyddiadau i feithrin cysylltiadau â’r cyhoedd ledled y wlad, gan roi cyfle i bawb ddysgu am gyfrifiadureg.

Hefyd:

  • Rydym wedi sefydlu blog cynhwysiant i gyfleu gwaith yr adran ar gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant. Fe’i defnyddiwyd gyntaf i ddathlu llwyddiant gwyddonwyr cyfrifiadurol benywaidd ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod 2021
  • Yn 2018, gwnaethom gynnal cynhadledd flynyddol gyntaf Merched mewn Technoleg yng Nghymru
  • Ers 2017 rydym yn croesawu ymwelwyr ar raglen diwrnodau ymweld â phrifysgolion yn rhan o brosiect Merched i Beirianneg EESW;
  • Ers 2016, rydym yn cynnal digwyddiadau i nodi Diwrnod Rhyngwladol y Menywod
  • Mi wnaethom gynnal Colocwiwm Lovelace Menywod y BCS, cynhadledd undydd genedlaethol i fenywod israddedig mewn cyfrifiadureg, am dros 10 mlynedd ac mae ganddynt ddau aelod o staff ar y tîm trefnu cynadleddau o hyd.

Cysylltiadau

  • Aber Comp Sci Women: mae gennym grŵp Facebook preifat, gweinydd Discord a rhestr bostio y gwahoddir pob menyw yn yr adran i ymuno â nhw; rydym yn cynnal digwyddiadau cymdeithasol a chyfarfodydd trwy gydol y flwyddyn
  • Mae gennym Hyrwyddwyr Cydraddoldeb yn ein hadran: Christine Zarges, Angharad Shaw, ac Emmanuel Isibor.
  • Cyswllt Athena Swan i’r Adran Gyfrifiadureg yw Hannah Dee, sydd hefyd yn gadeirydd y pwyllgor Gydraddoldeb, Amrywioldeb a Chynhwysiant.