Cwestiynau a Holir yn Aml

Beth yw Safonau'r Gymraeg?

Rhestr o ofynion statudol sy’n nodi ac egluro sut y mae disgwyl i Brifysgol Aberystwyth ddarparu gwasanaethau penodol drwy gyfrwng y Gymraeg gan sicrhau nad yw’r Gymraeg yn cael ei thrin yn llai ffafriol na’r Saesneg.

Mae’r gwasanaethau a gynigir yn cynnwys yr addysg a gyflwynir i fyfyrwyr a’r ddarpariaeth weinyddol a roddir i fyfyrwyr, staff a’r cyhoedd. Mae 182 o Safonau wedi’u gosod ar Brifysgol Aberystwyth ac mae pob Safon yn disgrifio sut mae cyflawni tasgau penodol yn Gymraeg.

Pwrpas y Safonau yw:

  • Rhoi eglurder i sefydliadau ar eu dyletswyddau o ran darparu gwasanaethau yn Gymraeg.
  • Rhoi eglurder i siaradwyr Cymraeg am y gwasanaethau y gallent ddisgwyl eu derbyn yn Gymraeg.
  • Sicrhau cysondeb o ran gwasanaethau Cymraeg a gwella eu hansawdd.

Pam fod y Brifysgol yn gweithredu Safonau’r Gymraeg?

Mae dros 120 o sefydliadau cyhoeddus yng Nghymru (e.e. Cynghorau Sir, Prifysgolion, Byrddau Iechyd) yn gweithredu Safonau’r Gymraeg. Mae gofyniad statudol ar Brifysgolion yng Nghymru i gydymffurfio â'r Safonau’r Gymraeg yn unol â Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011.

Mae Safonau’r Gymraeg yn disodli y Cynllun Iaith y bu Prifysgol Aberystwyth yn gweithredu yn unol â gofyniad Deddf yr Iaith Gymraeg 1993 hyd 1 Ebrill 2018.

Beth yw safbwynt y Brifysgol ar Safonau'r Gymraeg?

Mae’r Brifysgol yn anelu at greu sefyllfa lle y gall aelodau Cymraeg, Saesneg a dwyieithog y Brifysgol a'r gymuned deimlo’n gyfforddus wrth ddefnyddio eu dewis iaith wrth ymwneud â'r Brifysgol gan ddeall natur arbennig y gymdeithas ddwyieithog y maent yn byw ynddi. Mae’r egwyddorion a’r polisïau sy’n gysylltiedig â’r Gymraeg wedi eu hymgorffori yn y Safonau, yn Siarter y Brifysgol ac yn ei Chynllun Strategol.

Ble allaf weld copi o Safonau'r Gymraeg?

Ceir gopi o Safonau’r Gymraeg yma Hysbysiad Cydymffurfio - Adran 44 Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011. Mae'r ddogfen Safonau'r Gymraeg Prifysgol Aberystwyth yn egluro sut bydd y Brifysgol yn cydymffurfio â'r Safonau. Dyma grynodeb o ofynion y Safonau: Crynodeb Staff Safonau Iaith Prifysgol Aberystwyth.

Nid wyf yn siarad Cymraeg, yw Safonau'r Gymraeg yn berthnasol i mi?

Mae Safonau’r Gymraeg yn berthnasol i bob aelod o staff ac i drydydd partïon sydd yn cael eu contractio i ddarparu gwasanaethau ar ran y Brifysgol.

Mae Canolfan Gwasanaethau’r Gymraeg yn rhoi cyngor ar bob agwedd o Safonau'r Gymraeg. Cysylltwch â canolfangymraeg@aber.ac.uk os nad ydych yn siŵr.

Ydy Safonau'r Gymraeg yn berthnasol i bob un o weithgareddau’r Brifysgol?

Mae’r Safonau yn berthnasol i’r mwyafrif o wasanaethau a ddarperir gan y Brifysgol – rhestrir y rhain isod.

a) derbyn a dethol myfyrwyr;

b) gwybodaeth a ddarperir i fyfyrwyr a darpar fyfyrwyr am y corff;

c) lles myfyrwyr;

ch) cwynion;

d) achosion disgyblu mewn cysylltiad â myfyriwr;

dd) gwasanaeth gyrfaoedd;

e) mewnrwyd i fyfyrwyr, gwefannau rhith-ddysgu a gwefannau porth dysgu;

f) seremonïau graddio a gwobrwyo;

ff) asesu neu arholi myfyriwr;

g) dyfarnu grantiau a darparu cymorth ariannol;

ng) darlithoedd cyhoeddus;

h) cyfleoedd dysgu;

i) dyrannu tiwtor personol;

j) llety myfyrwyr, llyfrgelloedd a chanolfannau celfyddydau;

l) galwadau i brif rif (neu rifau) ffôn, rhifau llinell cymorth, rhifau canolfan alwadau a systemau ffôn wedi eu
awtomeiddio;

ll) arwyddion ar adeiladau’r corff.

(Rheoliadau Safonau’r Gymraeg (Rhif.6) 2017 – Rhan 3 Dehongli’r Safonau, paragraff 31, t. 43-44)

Nid yw’r Safonau fel arfer yn berthnasol i gynnwys dysgu cynlluniau academaidd, i waith ymchwil nac i weithgareddau tu allan i Gymru. Cysylltwch â canolfangymraeg@aber.ac.uk am fwy o wybodaeth.

Oes yna hyfforddiant ar gael i staff ynglŷn â gofynion Safonau'r Gymraeg?

Oes – mae Canolfan Gwasanaethau’r Gymraeg yn cynnig 8 sesiwn byr (4 Cymraeg, 4 Saesneg) bob blwyddyn i staff ar ofynion y Safonau. Ceir ddyddiadau a manylion cofrestru ar https://stafftraining.aber.ac.uk/sd/list_courses.php.

Sut allaf gwyno am fethiant i gydymffurfio â Safonau'r Gymraeg?

Os ydych yn tybio bod y Brifysgol wedi methu â chydymffurfio â'r Safonau gallwch gwyno am hyn drwy ddefnyddio'r ffurflen hon - Ffurflen Gwyno.  Gallwch weld ein gweithdrefn gwyno yma - Gweithdrefn Gwyno

A ydyw Safonau'r Gymraeg yn berthnasol i Drydydd Partion?

Os yw trydydd parti yn darparu gwasanaeth ar ran y Brifysgol mae'r Safonau yn berthnasol iddynt hwy hefyd. Gweler y canllaw ar drydydd partion - Contractau a Thendro.  Ceir rhestr wirio ar gyfer darparwyr trydydd parti sy'n rhoi esiamplau o weithgareddau posib a fyddai'n ddarostyngedig i'r Safonau - Rhestr Wirio ar gyfer Darparwyr Trydydd Parti.  Mae'r Comisiynydd Iaith hefyd wedi datblygu canllaw - Gwneud cais am Gontractiau a Grantiau : Ystyried y Gymraeg

Rwy’n aelod o staff sy’n gyfrifol am ddyfarnu grant/cymorth ariannol, oes angen i mi gynnal asesiad effaith ar y Gymraeg?

Oes – mae’r Brifysgol wedi cymeradwyo polisi newydd yn unol â gofynion safon 100 er mwyn asesu effaith cynlluniau grantiau a chymorth ariannol ar y Gymraeg: Dyfarnu Grantiau a Chymorth Ariannol - Polisi a Gweithdrefn ar gyfer ystyried y Gymraeg. Caiff asesiad ardrawiad effaith ar y Gymraeg ei gwblhau ar gyfer pob cynllun grant a ddyfernir gan Brifysgol Aberystwyth. Am wybodaeth bellach cysylltwch â canolfangymraeg@aber.ac.uk

A oes angen i mi gwblhau asesiad ardrawiad effaith wrth gyflwyno cynnig / polisi / strategaeth i’r Weithrediaeth?

Os ydych yn ansicr os oes angen cwblhau asesiad ardrawiad effaith ar y Gymraeg ar gyfer eich cynnig / polisi / papur, cwblhewch y siart lif yma a fydd yn rhoi penderfyniad / canllawiau pellach. Ni chaiff y ffurflen ei anfon i unrhyw un, a’i bwrpas yw cadarnhau os oes angen cwblhau asesiad effaith ai peidio.

Ble allaf gael gafael ar ffurflen Asesiad Ardrawiad Iaith Gymraeg?

Gallwch lawrlwytho copi o'r ffurflen yma - Ffurflen Ardrawiad Effaith ar y Gymraeg.  Dylid llenwi un o'r rhain wrth lunio neu addasu polisi.

Sut allaf anfon gwaith i’w gyfieithu / brawf ddarllen?

Ceir canllawiau ar sut i wneud hyn yma.

Sut ydw i'n trefnu cyfieithu ar y pryd?

Ceir canllawiau ar sut i wneud hyn yma.

Sut ydw i’n darganfod a yw rhywun yn dymuno derbyn gohebiaeth gan y Brifysgol yn Gymraeg neu’n ddwyieithog?

Myfyrwyr

  • Dylai gohebiaeth i grŵp o fyfyrwyr fod yn ddwyieithog. Ceir wybodaeth bellach o ran cyfathrebu â myfyrwyr a’r cyhoedd yn unol â gofynion y safonau yn y canllaw ‘gohebiaeth’.
  • Dylid ymateb i ohebiaeth gan fyfyrwyr yn yr un iaith (e.e. yn Gymraeg, yn Saesneg neu’n ddwyieithog)
  • O ran gohebu gyda myfyrwyr unigol, ceir gofnod o ddewis iaith myfyrwyr ar y gronfa ddata AStRA ac ar gofnod myfyriwr bob myfyriwr o dan ‘Manylion Personol (studentrecord.aber.ac.uk). Noder nad oes angen i ohebiaeth sy’n ymwneud â chynnwys academaidd, e.e. cynnwys modiwl penodol, fod yn ddwyieithog/Gymraeg oni bai fod y modiwl yn un cyfrwng Cymraeg neu’n ddwyieithog.
  • Lle nad yw cofnod dewis iaith y derbynnydd yn hysbys (e.e. darpar fyfyrwyr/ myfyrwyr / cyhoedd) dylid anfon yr ohebiaeth gychwynnol yn ddwyieithog.

Staff

  • Dylai gohebiaeth i grŵp o staff (e.e. e-bost gan Wasanaeth i staff, e-byst i holl staff, e-bost gan Bennaeth i’w adran) fod yn ddwyieithog yn unol â gofynion Polisi Defnydd Mewnol ar ddefnyddio'r Gymraeg yn y Brifysgol.
  • O ran gohebu gyda staff unigol, dylai staff nodi eu dewis iaith ar Pobl Aber – ceir ganllawiau yma. Bydd staff yna’n derbyn gohebiaeth sy’n ymwneud â’u cyflogaeth (e.e. gan Adnoddau Dynol) yn yr iaith honno. Lle bo dewis iaith derbynnydd unigol (aelod o staff) yn hysbys mae’n arfer da i anfon yr ohebiaeth yn yr iaith honno.  

Y Cyhoedd

Dylai gohebiaeth i grŵp o bobl (y cyhoedd) fod yn ddwyieithog. Ceir wybodaeth bellach o ran cyfathrebu â’r cyhoedd yn unol â gofynion y safonau yn y canllaw ‘gohebiaeth’.

  • Dylid ymateb i ohebiaeth gan y cyhoedd yn yr un iaith (e.e. yn Gymraeg, yn Saesneg neu’n ddwyieithog)
  • Lle nad yw dewis iaith y derbynnydd yn hysbys dylid anfon yr ohebiaeth gychwynnol yn ddwyieithog ar gyfer derbynwyr yng Nghymru.
  • Nid yw gofynion Safonau’r Gymraeg (gohebiaeth) yn berthnasol i waith ymchwil (e.e. gohebiaeth rhwng staff academaidd mewn sefydliadau gwahanol).

Oes rhaid i bopeth rwy’n ei ysgrifennu fod yn ddwyieithog?

Mae’n rhaid i ddogfennau a ddosberthir yn eang ymhlith aelodau’r adran, y Brifysgol neu’r cyhoedd yng Nghymru fod yn ddwyieithog. Gall y Ganolfan ddarparu cyngor a chefnogaeth ichi os nad ydych yn siŵr beth ddylech ei wneud. Ceir canllaw ar ohebiaeth yma - Gohebiaeth

Mae gennyf neges frys i’w hanfon at grŵp o bobl ar e-bost, a oes angen iddi fod yn ddwyieithog?

Dylai gohebiaeth at grŵp o bobl fod yn ddwyieithog bob tro, gyda’r Gymraeg yn uchaf neu ar y chwith i’r Saesneg. Mae’r Uned Gyfieithu yn rhoi blaenoriaeth i gyfieithu gohebiaeth ond os yw’r neges ar frys mawr dylid cysylltu â’r Ganolfan ar unwaith er mwyn egluro’r sefyllfa a threfnu cyfieithiad.

Oes rhaid i lofnodion e-bost a negeseuon allan o’r swyddfa fod yn ddwyieithog?

Oes – gall staff greu llofnod dwyieithog ym mrand y Brifysgol yma a cheir negeseuon templed allan o’r swyddfa yma.

Sut ydw i'n dangos ar fy mhroffil Outlook fy mod yn siarad Cymraeg?

Bellach mae modd nodi ar eich proffil e-bost mewnol eich bod yn siarad Cymraeg neu’n siarad rhywfaint o Gymraeg.

Drwy fynd i’r ap “Proffiliau Staff Ar-lein” sydd ar Apex (myadmin.aber.ac.uk) gellir nodi eich bod yn siarad Cymraeg neu’n siarad rhywfaint o Gymraeg. Cofiwch arbed y newidiadau.

Bydd y neges isod yn ymddangos ar eich proffil Outlook i ddefnyddwyr mewnol.

Mae gan Wasanaethau Gwybodaeth hefyd ganllawiau ar sut i osod y nodyn ‘MailTip’ ar eich cyfrif.  https://faqs.aber.ac.uk/cy/9448

Oes rhaid i mi ateb y ffôn yn ddwyieithog?

Dylai pawb sy’n bwynt cyswllt cyntaf mewn adran neu swyddfa ateb y ffôn yn ddwyieithog p'un ai ydynt yn siarad Cymraeg ai peidio. Dylid cyfarch a rhoi enw’r adran/swyddfa yn Gymraeg yn gyntaf ac yna’n Saesneg. Mae’r canllaw 'Ateb y ffôn' yn esbonio’r drefn y dylech ei dilyn os nad ydych yn medru ymdrin â galwad yn Gymraeg.

Beth yw’r drefn ynghylch hysbysebu yn y wasg?

Dylai pob hysbyseb sy’n cael ei gynhyrchu gan y Brifysgol ac sy’n ymddangos yn y wasg yng Nghymru fod yn ddwyieithog, gyda’r Gymraeg ar yr ochr chwith i’r Saesneg, neu yn uchaf. Mewn cyhoeddiadau Cymraeg dylai’r hysbyseb ymddangos yn Gymraeg yn unig.

Oes rhaid i mi bostio ar y cyfryngau cymdeithasol yn ddwyieithog?

Rhaid sicrhau fod negeseuon gan gyfrifon corfforaethol, adrannol neu Wasanaethau’r Brifysgol yn ddwyieithog. Ceir safonau penodol ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol. Ceir canllawiau yma: Cyfryngau Cymdeithasol sydd yn egluro pryd a sut y dylid ystyried yr iaith Gymraeg wrth drydar neu ddefnyddio cyfrwng cymdeithasol arall.

Oes yna wybodaeth ar gael ynglŷn â’r Iaith Gymraeg yn fwy cyffredinol ar gyfer myfyrwyr newydd?

Oes, ceir gwybodaeth ar y dudalen hon https://www.aber.ac.uk/cy/new-students/welsh-language/.

Pa hawl sydd gan fyfyrwyr i gael cyfarfodydd yn Gymraeg?

Mae'r canllaw Cyfarfodydd - myfyrwyr a'r cyhoedd yn disgrifio hawliau ieithyddol myfyrwyr parthed cyfarfodydd. Mae'n dibynnu ar faint o bobl sy'n mynychu'r cyfarfod, ac ar bwnc y cyfarfod.

Ble allaf i gael manylion am wersi Cymraeg?

Mae manylion am wersi Cymraeg i’w cael yma.

Oes cymorth ar gael i wella fy Nghymraeg ysgrifenedig?

Mae manylion am wersi Cymraeg i’w cael yma.

Ceir fanylion am Dystysgrif Sgiliau Iaith y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yma.

Rwy’n aelod o staff ac am fynychu gwersi Cymraeg. A fydd rhaid i mi dalu?

Mae’r Brifysgol yn cefnogi staff i ddilyn cyrsiau yn ystod oriau gwaith neu fin nos, drwy ddosbarthiadau rhithiol, wyneb yn wyneb neu gwrs cyfunol.

Bydd y Brifysgol yn talu ffioedd staff sy’n mynychu dosbarthiadau Cymraeg a drefnir gan Dysgu Cymraeg, a chefnogir staff i fynychu cyrsiau.

Rhaid llenwi Ffurflen Hawlio Ffioedd Dysgu Cymraeg a'i hanfon at Ganolfan Gwasanaethau'r Gymraeg er mwyn i'r ffioedd gael eu talu.

Ceir manylion llawn y rhaglen ar Dysgu Cymraeg Ceredigion-Powys-Sir Gâr  yma.

Sut allaf i gael gafael ar gortyn gwddf/bathodyn Iaith Gwaith sy’n dangos fy mod yn medru, neu’n dysgu, siarad Cymraeg?

  • Mae cortynnau gwddf Iaith Gwaith ar gael wrth Ddesg Wybodaeth Llyfrgell Hugh Owen.
  • Mae bathodynnau Iaith Gwaith ar gael gan Ganolfan Gwasanaethau'r Gymraeg.
  • Cofiwch wisgo eich cortyn gwddf/bathodyn, yn enwedig yn ystod diwrnodau agored ac ymweld y Brifysgol ac os ydych yn gweithio mewn derbynfa.

Sut allaf i gael gafael ar gopi o’r feddalwedd sillafu a gramadeg Cysgliad?

Ceir ganllawiau ar wefan Gwasanaethau Gwybodaeth

Sut mae gosod rhyngwyneb Cymraeg ar fy nghyfrifiadur?

Ceir canllawiau ar wefan Gwasanaethau Gwybodaeth.

Ble allaf i gael help wrth ddefnyddio fy nghyfrifiadur yn Gymraeg?

Mae gan Gwasanaethau Gwybodaeth dudalen sy'n ateb nifer o gwestiynau am ddefnyddio eich cyfrifiadur yn Gymraeg. Cliciwch yma.