Os ydych wedi cael cynnig Cadarn Diamod gallwch barhau gyda'r cais.
Eich Manylion Personol
Gwnewch yn siŵr bod eich manylion yn gywir.
Ar ôl i'ch lle astudio ym Mhrifysgol Aberystwyth gael ei gadarnhau, bydd y Gwasanaethau Gwybodaeth yn anfon cyfarwyddiadau atoch er mwyn ichi roi eich cyfri TG ar waith o fis Gorffennaf ymlaen.
Dylech roi eich cyfri TG ar waith cyn gynted ag y cewch eich gwahodd i wneud hynny, a hynny fel na fydd oedi wrth i'r Brifysgol drefnu llety ar eich cyfer.
Ar ôl ichi roi eich cyfri TG ar waith, byddwch yn gallu mewngofnodi trwy ddefnyddio'r linc ar gyfer Myfyrwyr ABER. Bydd pob gohebiaeth yn cael ei hanfon i'r cyfeiriad e-bost hwn, felly mae'n bwysig eich bod yn agor eich e-byst yn rheolaidd.
Hygyrchedd, Anableddau ac Iechyd
Os oes gennych ofynion penodol o ran cael mynediad i adeiladau, rhowch wybod.
Bydd gofyn ichi gysylltu â'r Tîm Gwasanaethau Hygyrchedd a darparu tystiolaeth briodol i gefnogi'ch cais.
Efallai y byddwch yn cael eich symud i ystafell fwy priodol os argymhellir hynny yn eich asesiad hygyrchedd.
Manylion eich archeb
Gwnewch yn siŵr bod manylion eich archeb yn gywir a dewiswch eich cynllun talu, os oes angen.
Contract Meddiannaeth
Mae'r Contract Meddiannaeth yn gontract cyfreithiol rhyngoch chi a'r Brifysgol sy'n gosod eich rhwymedigaethau a rhwymedigaethau'r Brifysgol. Gwnewch yn siŵr eich bod yn darllen ac yn deall y telerau ac amodau.
Ffi Dderbyn
Gwnewch yn siŵr fod gennych gerdyn credyd neu ddebyd yn barod i dalu'r ffi dderbyn sy'n cyfateb â rhent 7 noson.
Cerdyn Aber
Os ydych yn Fyfyriwr Newydd, gofynnir i chi wneud cais am eich Cerdyn Aber ar lein er mwyn iddo fod yn barod erbyn i chi gyrraedd.
Os ydych yn dychwelyd i'r Brifysgol ac wedi colli eich Cerdyn Aber, eich cyfrifoldeb chi yw rhoi gwybod i'r adran Gwasanaethau Gwybodaeth drwy ebosto is@aber.ac.uk neu ffoniwch 01970 622400.
Mae Llyfrgell Huw Owen yn gallu dosbarthu Cardiau Aber newydd.
Cysylltu gyda'ch Cyd-letywyr
Os hoffech gysylltu gyda'ch ffrindiau fflat newydd, bydd cyfle i chi rannu eich manylion ar y cyfryngau cymdeithasol fel y gallwch wneud cysylltiadau cyn i chi gyrraedd.
Dim ond gyda'ch cyd-letywyr y bydd eich manylion yn cael eu gweld a'u rhannu. Does dim rhaid i chi rannu eich manylion os nad ydych chi eisiau, a gallwch eu diweddaru neu eu dileu ar unrhyw adeg.
Manylion Talu
Byddwch yn cael eich trosglwyddo i'n darparwr taliadau i drefnu amserlen dalu ar gyfer eich rhandaliadau. Gwnewch yn siŵr bod gennych gerdyn credyd neu ddebyd dilys.
Crynodeb o'r Archeb
Gwnewch yn siŵr bod cadarnhad eich archeb yn gywir. Bydd e-bost awtomatig yn cael ei anfon atoch yn cadarnhau manylion eich archeb.
Gallwch fewngofnodi i'r porth unrhyw bryd i weld eich archeb.
Rhaglen Gyflwyno
Cyn i chi gyrraedd, bydd angen i chi gwblhau'r Rhaglen Gyflwyno a fydd yn rhoi gwybodaeth ddefnyddiol i chi am fyw mewn llety Prifysgol.
Bydd ebost yn cysylltu â chi pan fydd y Rhaglen Gyflwyno ar gael i chi ei chwblhau.
Canslo eich archeb
Gallwch ganslo eich archeb ar unrhyw adeg cyn symud i mewn drwy fewngofnodi i'r Porth Llety.
Bydd eich ffi dderbyn yn cael ei ad-dalu cyn belled â'ch bod yn canslo cyn y dyddiad cau a roddir ar y dudalen Crynodeb o'r Archeb.