Beth sydd wedi’i gynnwys yn y Ffioedd Llety?
Mae’r adnoddau a’r gwasanaethau canlynol wedi’u cynnwys yn y ffioedd llety:
Costau Ynni
Mae gwres, dŵr, trydan a golau wedi’u cynnwys yn y ffioedd llety.
Yswiriant Eiddo Personol
Yn rhan o’r Ffioedd Llety mae swm anghyfyngedig o yswiriant eiddo personol ar gyfer eitemau yn eich ystafell wely wedi’i gynnwys, caiff hwn ei ddarparu i chi gan gwmni yswiriant Endsleigh.
Cysylltiad Rhwydwaith a Wi-Fi
Edrychwch ar dudalennau gwe’r Gwasanaethau Gwybodaeth i gael y manylion llawn am y Rhwydwaith Myfyrwyr.
AM DDIM-Aelodaeth Platinwm y Ganolfan Chwaraeon
Mae’n aelodaeth Platinwm yn cynnwys mynediad diderfyn i’r gampfa, y pwll nofio, y saunariwm, y wal ddringo a phob dosbarth ymarfer corff, iechyd a llesiant ar gyfer grwpiau.
Canolfannau Dysgu
Edrychwch ar ein tudalen Canolfannau Dysgu i gael y manylion llawn.
Cymorth
Mae gennym dderbynfa, llinell gymorth a phatrolau 24/7 i gynorthwyo â phob problem sy’n ymwneud â Chynnal a Chadw, Diogelwch a Lles. Ewch i’n tudalen Cymorth i gael rhagor o fanylion.
Storfa Feiciau Ddiogel
Mae gennym ddwy storfa feiciau dan do wedi’u lleoli o fewn ein llety. I gael rhagor o fanylion a gwybodaeth am sut i wneud cais ewch i’r dudalen Storfa Feiciau.
Lwfans bwyd ar gyfer y Llety Arlwyo a Rhan-Arlwyo
Os ydych chi’n byw mewn llety arlwyo neu rhan-arlwyo mae’r ffioedd llety blynyddol yn cynnwys lwfans bwyd rhagdaledig. Bydd hwn yn cael ei roi ar eich Cerdyn Aber mewn rhandaliadau tymhorol. Mae’r telerau a’r amodau llawn wedi’u cynnwys yn eich Pecyn Trwydded Llety.
Trwy ddefnyddio eich Cerdyn Aber gallwch fwynhau’r hyblygrwydd o benderfynu ble a phryd i fwyta yn y lleoedd bwyta sy’n eiddo i’r Brifysgol ac a reolir ganddi.