Symud i mewn

Mae dechrau mewn Prifysgol yn gyfnod cyffrous ac rydym am sicrhau eich bod yn dod o hyd i’r lle iawn i fyw. Mae yma gyfle i wneud ffrindiau newydd, lleoedd newydd i’w darganfod a chyfle i ddatblygu nifer o ddiddordebau newydd. O fyw yn llety’r Brifysgol byddwch yn cwrdd â phob math o bobl o wahanol gefndiroedd a diwylliant, sy’n dilyn cyrsiau amrywiol a gallwch wneud ffrindiau yn syth.

Cyn i chi gyrraedd

1. Gwnewch yn siŵr eich bod wedi cwblhau cais ar-lein am lety

2. Rhowch eich cyfrif IT Prifysgol Aberystwyth ar waith (myfyrwyr newydd)

Bydd cyfarwyddiadau ar sut i wneud hyn yn cael eu hanfon i'ch cyfeiriad e-bost personol

3.  Cwblhewch eich pecyn contract meddiannaeth sy’n cynnwys eich rhaglen gyflwyno cyn cyrraedd

4. Trefnwch taliad eich ffioedd llety wrth gwblhau eich pecyn contract meddiannaeth

Mae hyn yn rhan o'ch pecyn contract meddiannaeth

5. Darllenwch eich llawlyfr preswylwyr am wybodaeth ac awgrymiadau ychwanegol defnyddiol

6. Llwythwch ffotograff ar gyfer eich Cerdyn Aber (myfyrwyr newydd).

6.1 - Myfyrwyr Presennol - Gwnewch yn siŵr eich bod chi’n dod â'ch cerdyn Aber gyda chi gan fod mynediad i ran fwyaf o'n preswylfeydd yn cael ei chaniatáu drwy ddefnyddio cardiau Aber.

7. Ymunwch â ni ar Facebook

8. Sicrhewch bod eich cyllid myfyrwyr yn cael ei gymeradwyo

9. Sicrhewch bod gennych chi bopeth sydd ei angen arnoch; gallwch chi wirio gyda'n rhestr cyn cyrraedd neu prynu eitemau o Unpacked

Pryd gaf i symud i mewn?

Bydd Llety'r Brifysgol ar gael i chi symud i mewn o ddechrau eich Contract Meddiannaeth.

Byddwch yn gallu archebu dyddiad ac amser cyrraedd wrth gwblhau eich rhaglen gyflwyno cyn-gyrraedd ar-lein. Os bydd angen i chi newid eich dyddiad ac amser cyrraedd yna gallwch chi wneud hyn trwy logio yn ôl mewn i'r Porth Llety ac ail-ddewis.  Bydd y staff ar gael 24/7 felly peidiwch â phoeni os ydych yn cyrraedd yn hwyr yn y nos, byddwch yn dal i allu casglu'ch allwedd a mewngofrestru.

Bydd eich ystafell yn cael ei gadw i chi tan ddyddiad penodol a nodir yn eich Contract Meddiannaeth. Fodd bynnag, os ydych chi'n bwriadu cyrraedd AR ÔL y dyddiad hwn, yna gwnewch yn siŵr eich bod chi'n llenwi'r ffurflen gais Cyrraedd yn Hwyr wrth gwblhau'ch rhaglen gyflwyno ar-lein. Os na fyddwch yn rhoi gwybod i ni efallai na fydd eich ystafell ar gael i chi.

O ble ddylwn i nôl fy allwedd?

I gasglu eich allwedd, ewch i'r man priodol o restrir isod ar y dyddiadau a'r amseroedd a nodir.

Cyn dydd Gwener 20 Medi 2023:

Y Sgubor, Fferm Penglais, SY23 3FH [Lleoliad

Dydd Gwener 20 - Dydd Sadwrn 21 Medi 2023:

Fferm Penglais:  Y Sgubor, Fferm Penglais, SY23 3FH [Lleoliad

Pentre Jane Morgan:  Lolfa Pentre Jane Morgan, SY23 3TG [Lleoliad]

Cwrt Mawr, Rosser a Trefloyne:  Cwrt Mawr Amenity SY23 3LH [Lleoliad]

Pantycelyn: Derbynfa Pantycelyn, SY23 3BX 10yb-4yp yn unig [Lleoliad]

Dydd Sul 22 Medi 2024:

Swyddfa Llety: 10yb-4.00yp, SY23 3FH

O ddydd Llun 23 Medi 2024 8.30yb-5.00yp:

Y Sugbor, Fferm Penglais [Lleoliad

Dydd Llun 23 Medi 2024 ar ôl 5.00yp:

Derbynfa Campus Penglais [Lleoliad]

Sylwch fod yn rhaid i chi, y preswylydd, gasglu a llofnodi pob allwedd.  Yn anffodus ni allwn roi allwedd i aelod o'r teulu new ffrind.

Parcio

Yn ystod cyfnod y Croeso Mawr bydd modd i chi barcio ar y campws, heb drwydded parcio, i ddadlwytho. Bydd aelodau o staff ar y safle i’ch helpu i barcio. Gellir prynu trwyddedau parcio ar gyfer cyfnod llawn eich cytundeb llety os hoffech gadw cerbyd ar y safle. Ewch i’n Siop Ar-leino flaen llaw neu pan fyddwch yn cyrraedd.

Helpwch ni i’ch helpu chi, nifer cyfyngedig o leoedd parcio sydd ar gael wrth ymyl y llety ac felly yn ystod y penwythnos cyrraedd rydym yn cyfyngu’r amser parcio yn yr ardaloedd hyn i uchafswm o 20 munud i wneud yn siŵr y gall yr holl fyfyrwyr ddefnyddio’r gwasanaeth hwn. Ar ôl i chi ddadbacio’r car symudwch y car i un o’r meysydd parcio arhosiad hir dynodedig.

I gael rhagor o wybodaeth am Barcio, ewch i'r dudalen Parcio