Myfyrwyr Uwchraddedig Presennol
Pam byw gyda ni?
Rydym yn cynnig opsiynau eang o lety hunan-ddarpar gyda naill ai ystafelloedd en-suite, neu fflatiau gyda chyfleusterau a rhannir ynghyd â'n stiwdios hunangynhwysol. Am brisiau, gweler ein ffioedd llety. Beth bynnag yw eich gofynion, ein nod yw darparu opsiwn a fydd yn addas i chi.
Rydym yn cydnadbod fod rhai o'n cyrsiau Uwchraddedig yn rhedeg am 52 wythnos ac felly, rydym yn cynnig amrywiaeth o hydoedd trwydded addad i chi, Er hynny, os gwelwch yn dda byddwch yn ymwybodol mai 50 wythnos yw'r cyfnod contract hiraf gallwn cynnig lle y gallwch aros yn yr un lle.
Mae'r opsiynnau llety ar gael ar ein tudalen Cymharu Llety.
Pam aros gydd ni?
- Hyd yn oed os byddwch yn gwneud cais nawr, nid ydych chi'n rhwymedig â Chontract nes byddwch chi'n cadarnhau eich lle yn nes ymlaen.
- Yr holl filiau ynni yn gynwysedig
- Rhyngrwyd grifredig a di-wifr cyflymder uchel yn gynwysedig
- Aelodaeth blatinwm rad ac am ddim yn y Ganolfan Chwaraeon er budd eich iechyd a'ch lles
- Myfyrwyr Presennol yn cael eu clustnodi i fflatiau gyda'i gilydd- ddim wedi'u cymysgu â myfyrwyr y flwyddyn gyntaf!
- Lleoliad cyfleus yn agos i'r adnoddau academaidd ac adnoddau'r campws, yn ogystal â chanol y dref- Opsiynau llety
- Adnoddau golchi dillad ar y safle
- Help a chymorth 24/7- gan gynnwys derbynfa wedi'i staffio
- Canolfannau dysgu 24/7 o fewn cyrraedd yn hawdd i'ch llety
- Yswiriant yn gynwysedig
- Cynlluniau talu ar gael ar gyfer ffioedd llety
- Cytundebau Contract Sengl - nid cyd ac unigol (felly nid ydych chi'n gyfrifol am dalu rhent pobl eraill) ac nid oes angen 'Gwarantwyr'
- Amrywiaeth o hydoedd Contract a llety haf y Brifysgol ar gael
Dewisiaday Llety Arall
Efallai yr hoffech fyw mewn Llety yn y Sector Preifat ac rydym yn cynnig cyngor a chymorth ynglŷn â hyn hefyd. Mae gennym gronfa ddata o dai rhent preifat y gallwch chwilio trwyddynt yn gyfleus ar-lein, os ydych chi angen unrhyw gymorth i chwilio cysylltwch â ni.