10.21 Ffioedd Dysgu

1. Bwrdd Gweithredol y Brifysgol sy’n cytuno ar y ffioedd ar gyfer pob cwrs israddedig a dysgu o bell, yn dilyn argymhellion gan Grŵp Ffioedd ac Ysgoloriaethau Prifysgol Aberystwyth. Yn ogystal, mae angen i Bwyllgor Adnoddau a Pherfformiad y Brifysgol gymeradwyo ffioedd mawr. Oni nodir yn wahanol, mae’n rhaid ffioedd dysgu yn flynyddol ac maent yn amodol ar adolygiad blynyddol. Gweler https://www.aber.ac.uk/cy/undergrad/before-you-apply/fees-finance/tuition-fees/ am restr lawn o ffioedd dysgu.

2. Mae Llywodraeth Cymru’n cynnal adolygiad blynyddol i benderfynu a gaiff prifysgolion yng Nghymru ganiatâd i gynyddu Ffioedd rhaglen ar gyfer myfyrwyr sydd â statws ffioedd ‘Cartref’. Pe bai'r Brifysgol yn caniatáu ac yn gweithredu cynnydd chwyddiant, byddai'r rhain yn berthnasol i fyfyrwyr israddedig newydd a’r rhai sy’n parhau sydd â statws ffioedd 'Cartref'. Byddai’r cynnydd hefyd yn berthnasol ar gyfer y ffioedd cyfraneddol a godir am Flwyddyn Dramor a Blwyddyn mewn Diwydiant. Bydd y Brifysgol yn cadarnhau unrhyw gynnydd cysylltiedig â chwyddiant i ffioedd dysgu ar sail flynyddol cyn gynted ag y cânt eu cadarnhau gan Lywodraeth Cymru.

3. Mae Ffioedd Dysgu a godir ar y gyfradd ffioedd ‘Ryngwladol’ yn disgyn y tu allan i reoliad Llywodraeth Cymru, ac ni fydd myfyrwyr yn agored i gynnydd blynyddol sy'n gysylltiedig â chwyddiant mewn ffioedd dysgu wrth ddilyn eu rhaglen astudio. Mae'r diogelwch cohort hwn yn golygu y bydd y Ffi Ryngwladol a godir ar fyfyriwr ym mlwyddyn un yn aros ar yr un lefel ar gyfer pob un o flynyddoedd dilynol eu rhaglen astudio.

4. Bydd Ffioedd Dysgu a godir ar gyfer cyrsiau dysgu o bell yn amodol ar gynnydd chwyddiant blynyddol, a gaiff ei bennu gan y Brifysgol a’i gymhwyso i fyfyrwyr newydd a myfyrwyr sy’n parhau â’u hastudiaethau. Bydd y Brifysgol yn cadarnhau unrhyw gynnydd cysylltiedig â chwyddiant i ffioedd dysgu ar sail flynyddol.

5. Caiff statws ffioedd ymgeisydd (pa un ai eu bod yn cael eu dosbarthu yn y categori Cartref neu Ryngwladol) ei bennu gan y staff Derbyn yn unol â chanllawiau UKCISA. Os nad yw’r statws ffioedd yn glir o’r ffurflen gais a gyflwynwyd, gofynnir am ragor o wybodaeth gan yr ymgeisydd.

6. Ceir hyd i wybodaeth ynghylch y dewisiadau talu gwahanol ar gyfer ffioedd dysgu ar: https://www.aber.ac.uk/cy/study-with-us/fees/student-fees/how-to-pay/

7. Mae'n rhaid i ymgeiswyr rhyngwladol dalu blaendal na ellir ei ad-dalu er mwyn cadarnhau eu lle, neu ddarparu tystiolaeth o nawdd i dalu ffioedd dysgu. Mae manylion y blaendal sy'n daladwy gan ymgeiswyr rhyngwladol i'w gweld yn: https://www.aber.ac.uk/cy/study-with-us/fees/undergrad/tuition-fees/

8. Mae cyrsiau dysgu o bell yn amodol ar ffi gofrestru y mae'n rhaid ei thalu pan fydd ymgeisydd yn cadarnhau ei fod yn derbyn ei le ar y cwrs. Yn dilyn hyn, gall myfyrwyr dysgu o bell ddewis talu ffioedd cwrs naill ai bob blwyddyn neu fesul modiwl.