10.3 Dull Gweithredu Strategol a Strwythurau Mewnol

1. Cymeradwyir targedau cofrestru israddedigion gan Weithrediaeth y Brifysgol.

2. Llunnir targedau blynyddol ar gyfer ceisiadau israddedigion gan yr Adran Gynllunio. Pennir y targedau hyn yn rhan o’r contract rhwng Gweithrediaeth y Brifysgol a’r Cyfadrannau Academaidd, a chânt eu hadrodd i’r Bwrdd Recriwtio a Marchnata.

3. Mae’r Bwrdd Marchnata a Denu a Derbyn Myfyrwyr, sy’n adrodd i’r Senedd, yn gyfrifol am oruchwylio a monitro datblygiad a gweithrediad strategaethau recriwtio a marchnata’r Brifysgol,  hybu’r gwaith o recriwtio derbyn myfyrwyr i’r Brifysgol. Mae’r Bwrdd hefyd yn gyfrifol am sicrhau bod y Brifysgol yn bodloni disgwyliadau’r Adran Derbyn Myfyrwyr, Recriwtio ac Ehangu Mynediad yng Nghod Ansawdd y DU.