1. Sicrwydd Ansawdd yn Aberystwyth
Mae copi pdf o'r adran hon ar gael i'w lawrlwytho: Adran 1 PDF
-
1.1 Ynglŷn â’r Llawlyfr
1. Mae’r Llawlyfr Ansawdd Academaidd (LlAA) yn ffynhonnell hwylus ar gyfer y polisïau, y rheoliadau a’r gweithdrefnau sy’n cefnogi rheolaeth Prifysgol Aberystwyth dros safonau ac ansawdd academaidd. Fe’i bwriedir i’w ddefnyddio gan aelodau staff y Brifysgol, arholwyr allanol, adolygwyr allanol a phartneriaid cydweithredol. Cyhoeddir y Llawlyfr ar-lein ond gellir hefyd lawrlwytho ei adrannau unigol ar ffurf pdf a’u hargraffu. Mae’r Llawlyfr hefyd yn cynnwys dolen i Reolau a Rheoliadau a Chonfensiynau Arholiadau’r Brifysgol.
2. Mae pob aelod o staff yn gyfrifol am sicrhau bod enw da Prifysgol Aberystwyth yn cael ei gynnal a’i wella lle bynnag y bo hynny’n bosibl, a bod ein trefniadau sicrhau ansawdd yn parhau i fod yn drwyadl ac yn eglur.
3. Gellir lawrlwytho gwybodaeth ychwanegol a chopïau electronig o ffurflenni a thempledau (yn cynnwys ffurflenni ar gyfer arholwyr allanol) o’r adran berthnasol o’r Llawlyfr Ansawdd Academaidd. Gan fod ffurflenni’n cael eu diweddaru’n gyson, dylid eu cyrchu o’r Llawlyfr ym mhob achos, yn hytrach na chadw ac ailddefnyddio fersiynau’r blynyddoedd cynt.
-
1.2 Systemau Sicrwydd Ansawdd
1. Mae Prifysgol Aberystwyth yn ymfalchïo yn safon uchel y cyfleoedd dysgu ac addysgu y mae’n eu cynnig i’w myfyrwyr. Yn sail iddynt ceir systemau sicrhau ansawdd effeithiol a ddatblygwyd dros flynyddoedd lawer ac a fireiniwyd ar sail canllawiau a fframweithiau yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd (ASA). Mae pedair prif swyddogaeth i systemau sicrhau ansawdd y Brifysgol:
(i) Sicrhau safon ac ansawdd ein cynlluniau astudio, eu bod yn ddilys ac yn gyfredol, a’u bod yn cael eu cynllunio, eu dysgu, eu haddasu a’u monitro mewn modd priodol
(ii) Cynnal y safonau uchaf mewn ansawdd academaidd a gwelliant parhaus, gan gydymffurfio â’r disgwyliadau a amlinellir yng Nghod Ansawdd y DU ar gyfer Addysg Uwch
(iii) Gwella ansawdd trwy annog hunanfyfyrio beirniadol yn barhaus, fel ein bod yn chwilio o hyd am ffyrdd o wella ansawdd y profiad a gynigiwn i fyfyrwyr
(iv) Bod yn sail i ddatblygiad strategol y cynlluniau a’r disgyblaethau academaidd yr ydym yn eu cynnig.
2. Mae Cod Ansawdd y DU ar gyfer Addysg Uwch yn rhoi man cychwyn cyffredin i’r holl ddarparwyr addysg uwch o ran gosod, disgrifio a sicrhau safonau academaidd eu dyfarniadau a’u rhaglenni addysg uwch, ynghyd ag ansawdd y cyfleoedd dysgu y maent yn eu darparu. Y Cod yw’r cyfeirbwynt craidd a ddefnyddir yn holl weithgarwch adolygu’r ASA: https://www.qaa.ac.uk/quality-code
3. Mae’r Fframweithiau ar gyfer Cymwysterau Addysg Uwch Cyrff Dyfarnu Graddau yn y DU yn darparu cyfeirbwyntiau pwysig ar gyfer darparwyr addysg uwch, ac yn eu cynorthwyo wrth iddynt osod a chynnal safonau academaidd. Mae’r fframweithiau yn ganolog i’r Disgwyliad ym Mhennod A1, ‘The National Level’, o God Ansawdd y DU ar gyfer Addysg Uwch fod cyrff dyfarnu graddau yn defnyddio cyfeirbwyntiau allanol ar lefel y DU ac yn Ewropeaidd er mwyn sicrhau safonau academaidd trothwy ledled y sector addysg uwch: https://www.qaa.ac.uk/docs/qaa/quality-code/qualifications-frameworks.pdf
4. Mae Datganiadau Meincnodi Pwnc yn rhan o’r Cod Ansawdd. Maent yn amlinellu disgwyliadau o ran safonau graddau mewn amrywiaeth o feysydd pwnc. Maent yn disgrifio’r hyn sy’n rhoi unoliaeth a hunaniaeth i ddisgyblaeth, ac yn diffinio’r hyn y gellir ei ddisgwyl gan raddedigion o ran y medrau a’r sgiliau sydd eu hangen er mwyn meithrin dealltwriaeth neu allu yn y pwnc: https://www.qaa.ac.uk/quality-code/subject-benchmark-statements
5. Mae’r ASA hefyd yn darparu nifer o ganllawiau eraill, er enghraifft yn ymdrin â meysydd megis dyfarnu credydau academaidd, cyfwerthedd cymwysterau ym mhob un o wledydd y DU, a sut mae oriau cyswllt ac asesu yn cyfrannu tuag at ansawdd eich addysg.
-
1.3 Pwyllgorau Academaidd
1. Yn unol â Siarter Frenhinol Atodol Prifysgol Aberystwyth, y Senedd yw awdurdod academaidd y Brifysgol a bydd yn atebol i’r Cyngor am swyddogaethau academaidd y Brifysgol mewn addysgu ac ymchwil ac am reoli buddiannau academaidd y myfyrwyr. Mae’r Ordinhadau yn amlinellu cyfansoddiad, pwerau a swyddogaethau’r Senedd. Ceir mwy o wybodaeth am gyfrifoldebau, aelodaeth a phenderfyniadau’r Senedd ar yr is-dudalennau perthnasol.
2. Y Senedd sydd â’r cyfrifoldeb cyffredinol dros sicrhau bod y Brifysgol yn glynu at God Ansawdd y DU, ac mae’n dirprwyo’r cyfrifoldeb am adrannau unigol i’r byrddau canlynol: y Bwrdd Academaidd, y Bwrdd Marchnata, Recriwtio a Mynediadau, y Bwrdd Ymchwil, a’r Bwrdd Darpariaeth Gydweithredol. Mae cylch gorchwyl ac aelodaeth y cyrff hyn yn cael eu cyhoeddi ar-lein, ynghyd â siart o strwythurau’r pwyllgorau academaidd: https://www.aber.ac.uk/cy/governance/sub-committees/ Gall staff yn Aberystwyth hefyd gael mynediad i gylch gorchwyl y pwyllgorau, templedau ar gyfer cofnodion a phapurau pwyllgor, a manylion cyfarfodydd pwyllgor trwy dudalennau gwe’r Gofrestrfa Academaidd.
-
1.4 Swyddogion y Brifysgol gyda chyfrifoldebau Sicrwydd Ansawdd
1. Yr Is-Ganghellor yw prif swyddog academaidd a gweinyddol y Brifysgol ac mae’n gyfrifol am berfformiad cyffredinol y Brifysgol. Yr Is-Ganghellor yw Cadeirydd y Senedd.
2. Mae’r Dirprwy Is-Gangellorion, Dysgu ac Addysgu ac Ymchwil, yn aelodau allweddol o Grŵp Gweithredol y Brifysgol ac maent yn adrodd i’r Is-Ganghellor ar feysydd penodol eu cyfrifoldeb.
3. Dirprwy Is-Ganghellor pob Cyfadran sy’n gyfrifol am arwain y Gyfadran honno, ac mae’n atebol i’r Cyngor, trwy’r Is-Ganghellor. Mae’r Cyfadrannau yn hwyluso trefniadaeth a gwaith academaidd y Brifysgol.
Mae Dirprwy Is-Gangellorion y Cyfadrannau yn gwneud gwaith cydlynu allweddol rhwng yr adrannau sy’n gweithredu yn eu meysydd diddordeb penodol hwy. Mae ganddynt hefyd y grym i weithredu ar faterion sy’n peri pryder, ar yr amod eu bod yn adrodd ynghylch hynny i’w cyfadrannau, y Pwyllgor Materion Academaidd, y Dirprwy Is-Gangellorion Dysgu ac Addysgu ac Ymchwil, a’r Is-Ganghellor fel y bo’n briodol. Mae Dirprwy Is-Gangellorion y Cyfadrannau yn cydweithio’n agos yn eu meysydd cyfrifoldeb ac yn trefnu, trwy gyfrwng y Gofrestrfa Academaidd, i drafod a gwneud argymhellion ar eitemau sy’n gyffredin i’r cyfadrannau. Yn hyn o beth cânt lawer o gymorth gan aelodau allweddol o staff cymorth y Gofrestrfa. Maent hefyd yn cwrdd yn rheolaidd i sicrhau bod y cyfadrannau’n ymdrin â materion sy’n ymwneud â myfyrwyr mewn modd cyson. Maent yn cael eu cefnogi yn eu swyddi gan Ddeoniaid Cyswllt, sydd â chyfrifoldebau penodol am Ddysgu ac Addysgu, Ymchwil a darpariaeth Gymraeg.
Bydd gan bob adran academaidd o fewn cyfadran Bennaeth sydd â swyddogaethau a chyfrifoldebau penodol, gan gynnwys goruchwylio rhaglenni a strwythurau academaidd. Mae Dirprwy Is-Ganghellor y Gyfadran a Deon Cyswllt y Gyfadran yn cael cymorth Rheolwr Cyfadran ac yn cael eu cynghori gan Bwyllgor Gweithredol, sy’n cynnwys aelodau o staff sy’n gyfrifol am feysydd allweddol megis Dysgu ac Addysgu, a Sicrhau a Gwella Ansawdd. Mae’n ofynnol i bob cyfadran gael Pwyllgor Materion Academaidd. Amlinellir hyn yn Ordinhadau a Rheoliadau’r Brifysgol.
Penaethiaid Adrannau sy’n gyfrifol am reoli’r addysgu a’r ymchwil yn eu hadrannau o ddydd i ddydd, o fewn y canllawiau a bennwyd ar lefel y Brifysgol, gan gynnwys y Llawlyfr Ansawdd Academaidd. Mae gan yr Adrannau Gyfarwyddwyr Dysgu ac Addysgu a Chyfarwyddwyr Ymchwil penodedig sy’n adrodd i Bennaeth yr Adran ar y materion hyn. Mae’n ofynnol i bob adran gynnal cyfarfodydd adrannol sy’n cynnwys yr holl staff academaidd o leiaf unwaith y tymor i drafod materion academaidd. Ymhlith dibenion y cyfarfod mae:
(i) Bod yn gyfrwng ymgynghori â, a chynghori, Pennaeth yr Adran ar y modd y gweinyddir materion yr adran
(ii) Trafod y materion canlynol er mwyn hybu’r uchod:
- i’w gilydd natur a chynnwys cyrsiau
- dyrannu dyletswyddau addysgu a dyletswyddau eraill o fewn yr adran
- dyrannu arian ac ystafelloedd o fewn yr adran
- y defnydd o gymorth ysgrifenyddol, ymchwil a thechnegol.
Yn rhan o’r uchod, maent yn cael adroddiadau gan Bwyllgor Dysgu ac Addysgu yr Adran ac adroddiadau ar y monitro ffurfiol ar raglenni a gynhelir yn yr adran yn flynyddol, ac maent hefyd yn cofnodi’n ffurfiol adroddiadau Pwyllgor Ymgynghorol Staff a Myfyrwyr yr adran, sy’n fodd defnyddiol i’r staff a’r myfyrwyr roi adborth i’w gilydd.
4. Mae Pennaeth Ysgol y Graddedigion yn gyfrifol am ddarparu hyfforddiant Datblygu Ymchwilwyr trwy’r Brifysgol gyfan; y mae hefyd yn cydlynu’r gwaith o ddatblygu polisi ar faterion uwchraddedig, darparu cyfleusterau ar gyfer uwchraddedigion, a monitro recriwtio a chynnydd academaidd myfyrwyr uwchraddedig. Mae Pennaeth Ysgol y Graddedigion hefyd yn cymeradwyo enwebiadau ar gyfer arholwyr allanol ar raddau ymchwil.
5. Mae nifer o aelodau staff hŷn y Gofrestrfa Academaidd yn ymwneud â chynnal y gweithdrefnau sicrhau ansawdd, gan adrodd i’r Cofrestrydd Academaidd. Mae’r Gofrestrfa Academaidd hefyd yn darparu cymorth ar lefel cyfadrannau.
-
1.5 Lefelau cyfrifoldeb ar lefel Prifysgol ac Athrofa
1. Er mwyn adlewyrchu strwythur y Brifysgol, ac i gydnabod swyddogaeth y cyfadrannau o ran sicrhau a gwella ansawdd, dirprwyir rhai swyddogaethau ansawdd i’r cyfadrannau, tra bod eraill yn cael eu cadw ar lefel y Brifysgol.
Prosesau ar lefel y Brifysgol
2. Mae Senedd y Brifysgol, y Bwrdd Academaidd ac is-bwyllgorau eraill yn cadw’r cyfrifoldeb am y prosesau a’r gweithdrefnau sicrhau ansawdd canlynol:
(i) Datblygu a chymeradwyo fframweithiau, rheoliadau a gweithdrefnau academaidd
(ii) Adolygiad adrannol cyfnodol, gan gynnwys ailddilysu cyfnodol ar y ddarpariaeth
(iii) Adolygiadau cyfnodol o gynlluniau
(iv) Cymeradwyo penodiadau arholwyr allanol.
Prosesau ansawdd ar lefel y Cyfadrannau
3. Dirprwyir y cyfrifoldeb am y gweithdrefnau a’r prosesau canlynol i gyfadrannau, a’i gyflawni trwy strwythurau pwyllgor y cyfadrannau:
(i) Gweithredu polisïau a gweithdrefnau ar gyfer sicrhau a gwella ansawdd o fewn cynlluniau astudio, gan gynnwys eu cynllunio, eu cymeradwyo, eu monitro a’u hadolygu
(ii) Ystyried y Monitro Blynyddol ar Gynlluniau trwy Gwrs
(iii) Atal cynlluniau, eu tynnu’n ôl a newid eu teitlau
(iv) Cymeradwyo modiwlau (goruchwylir y broses gan y Bwrdd Academaidd)
(v) Ystyried adborth gan fyfyrwyr (trwy brosesau adborth a chynrychiolaeth myfyrwyr)
(vi) Achredu cynlluniau gan Gyrff Proffesiynol, Statudol a Rheoleiddiol (PSRB).
-
1.6 Perthynas Deuluol a Phersonol a/neu Broffesiynol
1. Mae'r polisi hwn yn berthnasol i unrhyw berthynas bersonol a/neu broffesiynol a allai effeithio, neu y gellid credu ei bod yn effeithio, ar uniondeb cysylltiadau gwaith yn y Brifysgol.
2. Pan fo myfyriwr neu ymgeisydd:
(i) Yn frawd neu’n chwaer, yn rhiant, yn blentyn neu yn perthyn mewn ffordd arall i aelod o'r staff
neu
(ii) Yn bartner i neu mewn perthynas gydag aelod o'r staff
Ni chaiff yr aelod o'r staff fod yn unrhyw ran o’r dasg o dderbyn, goruchwylio nac asesu'r ymgeisydd/myfyriwr hwnnw. Y rheswm pennaf am hyn yw er mwyn sicrhau bod yr ymgeisydd/myfyriwr yn cael ei drin yn ddiduedd, gan gynnwys y posibilrwydd y byddai'r ymgeisydd/myfyriwr yn cael ei asesu yn fwy llym er mwyn pwysleisio'r bwriad o beidio â dangos ffafriaeth. Mae'n ffordd hefyd o amddiffyn aelodau o’r staff rhag cael eu cyhuddo o ddangos ffafriaeth ac yn osgoi unrhyw amheuaeth o ffafriaeth gan drydydd parti.
3. Rhaid i aelodau o staff ddatgan unrhyw berthynas o'r fath wrth eu rheolwr llinell cyn gynted ag y daw gwrthdaro posibl i'r amlwg, fel y gellir gwneud trefniadau i sicrhau nad ydynt yn ymwneud ag unrhyw weithgareddau lle ceir gwrthdaro buddiannau. Yn y cyd-destun hwn, mae 'aelodau o'r staff' yn cynnwys unrhyw un sydd dan gontract i wneud gwaith dysgu a gweithgareddau cysylltiedig, gan gynnwys myfyrwyr sydd â chytundebau rhan-amser, ac mae 'ymgeiswyr/myfyrwyr' yn cynnwys pob lefel astudiaeth hyd at, ac yn cynnwys, myfyrwyr ymchwil.
4. Caiff aelodau o'r staff hefyd ymgynghori â'r Rheolwyr ynglŷn â Pholisi Rheoli Gwrthdaro Buddiannau yn y Gweithle https://www.aber.ac.uk/cy/hr/policy-and-procedure/managingofconflict/
-
1.7 Monitro ac Adolygu
1. Y Bwrdd Academaidd sydd â’r awdurdod cyffredinol dros adolygu effeithiolrwydd prosesau sicrhau a gwella ansawdd y Brifysgol yn unol â’r hyn a amlinellir yng Nghod Ansawdd yr ASA. Mae’n bosibl y bydd y Bwrdd yn dirprwyo’r cyfrifoldeb dros gynnal ystyriaeth fanwl o’r prosesau hyn i’w is-bwyllgorau fel y bo’n briodol. Bydd hefyd yn cyhoeddi fersiwn diwygiedig o’r Llawlyfr Ansawdd Academaidd ar ddechrau pob sesiwn academaidd.
2. Mae’r Gofrestrfa Academaidd yn croesawu sylwadau gan bob defnyddiwr ar gynnwys a diwyg y Llawlyfr hwn, a hynny er mwyn ei wella’n barhaus a datblygu fersiynau i’r dyfodol. Dylid anfon unrhyw sylwadau at: sicrhau-ansawdd@aber.ac.uk
-
1.8 Llawlyfr Ansawdd Academaidd 2024/2025: Crynodeb o’r Newidiadau Allweddol
Mae’r tabl canlynol yn rhestru’r newidiadau a wnaed ers cyhoeddi fersiwn 2023/24 o’r Llawlyfr Ansawdd Academaidd ym mis Medi 2023.
Adran
Newid
Dyddiad
2.2 Cymeradwyo Modiwlau
Geirfa canlyniadau
28. Yr eirfa yn y tabl sgiliau wedi’i diweddaru gan y Gwasanaeth Gyrfaoedd
Medi 2024
2.12 Archwiliad Ansawdd Adrannol Holiadur wedi’i ddileu
Medi 2024
Ffurflenni 2.4.7, 2.5.3, SDF 1.1, SDF2 a SDF4 wedi’u diweddaru i gynnwys ymgynghori ag Adrannau Gwasanaethau
Pwyllgor Cynllunio’r Portffolio
Ionawr 2024
3.2 Polisi a Gweithdrefnau Asesu
Polisi dwyieithrwydd ar gyfer asesiadau
27. Mae gan Brifysgol Aberystwyth bolisi dwyieithrwydd ar gyfer pob asesiad ysgrifenedig,
gan gynnwys traethodau gwaith cwrs ac arholiadau. Caiff myfyrwyr, p’un ai Cymraeg neu
Saesneg yw prif iaith asesu’r modiwl dan sylw, ddewis cyflwyno sgriptiau arholiadau ac asesiadau
gwaith cwrs naill ai yn Gymraeg neu yn Saesneg (ac eithrio asesiadau lle mae asesu iaith yn rhan o
ddeilliannau dysgu’r modiwl). Bydd myfyrwyr sy’n dilyn modiwlau drwy gyfrwng y Gymraeg yn
cael eu harholi yn yr iaith honno; mae gan fyfyrwyr sy’n dilyn modiwlau drwy gyfrwng y Saesneg
hawl i gael eu hasesu yn Gymraeg. Fodd bynnag, er mwyn caniatáu amser i baratoi papurau
arholiad Cymraeg ar gyfer modiwlau cyfrwng Saesneg, gofynnir i fyfyrwyr hysbysu Canolfan Gwasanaethau'r Gymraeg erbyn y dyddiadau a gyhoeddir gan y Ganolfan 1af Tachwedd ar gyfer arholiadau Semester 1, ac 1af Mawrth ar gyfer arholiadau Semester 2.
Bwrdd Academaidd
Gorffennaf 2024
3.2 Polisi a Gweithdrefnau Asesu
30. Bydd yr holl arholiadau sydd ar yr amserlen ganolog yn y prif leoliadau naill ai’n 1.5, 2 neu 3 awr o hyd. Mae’n bosib i arholiadau ar-lein sydd ar yr amserlen ganolog ac sydd yn gofyn am oruchwlio ar y campws fod o 1 awr o hyd.
Bwrdd Academaidd
Mehefin2024
3.2 Polisi a Gweithdrefnau Asesu
40. Yn Rhan Un, bydd myfyrwyr israddedig sy’n methu â chwblhau’r flwyddyn yn foddhaol, fel y diffinnir hynny yn y confensiynau, fel arfer yn cael ail-wneud rhan o’r flwyddyn neu’r flwyddyn gyfan fel myfyrwyr llawn amser, rhan amser neu ran amser allanol. Mae'r Brifysgol yn gweithredu polisi 'camgychwyn' i fyfyrwyr yn Rhan Un yn unig. Mae 'camgychwyn' yn caniatáu i'r myfyriwr ddechrau Rhan Un eto o'r newydd, gan ildio'r HOLL farciau blaenorol. Dim ond ar UN achlysur y gall myfyriwr 'gamgychwyn' a rhaid iddo ddilyn yr ymgais gyntaf gychwynnol yn Rhan Un. Rhaid i fyfyrwyr sy'n 'camgychwyn' barhau i gwblhau'r radd o fewn y terfyn amser uchaf ar gyfer ennill gradd (gweler Rheolau a Rheoliadau Rhan B).
Yn Rhan Dau, sy’n cynnwys y flwyddyn olaf, ni chaniateir i fyfyrwyr israddedig ailsefyll unrhyw fodiwl lle maent eisoes wedi cyrraedd marc llwyddo. Bydd myfyrwyr sy’n methu â chwblhau’r flwyddyn yn foddhaol fel y diffinnir hynny yn y confensiynau, fel arfer yn cael ailsefyll y credydau a fethwyd. Dylai myfyrwyr sy’n dechrau eu hastudiaethau yn Rhan Un neu Ran Dau o fis Medi 2018 ymlaen gyfeirio at y Rheoliadau ar gyfer Graddau Cychwynnol Modiwlar: Pwynt 17, os ydynt yn ystyried newid cynllun astudio, i gael cyngor ynglŷn â nifer y cynigion a ganiateir er mwyn pasio modiwl (pa un ai yw’n fodiwl wedi ei ddewis o’r newydd neu wedi ei astudio o’r blaen).
Medi 2024
3.4 Monitro Cynnydd Academaidd & 3.13 Templedau
Diweddarwyd y bennod gan ddileu'r gofyniad i anfon llythyrau templed ar ffurf copi caled,ac adolygwyd y derminoleg i adlewyrchu dull sy'n ystyriol o drawma.
Ebrill 2024
(Deoniaid CyswlltDysgu ac Addysgu)
– Mawrth 2024)3.6 Ymddygiad Academaidd & 3.13 Templedau
3. Bydd yr holl fyfyrwyr sydd wedi’u cyfeirio at y broses YAA yn cael eu cyfarwyddo gan
ganllaw cyffredinol ac adnoddau’r Brifysgol a dylid cynnwys y ddolen i’r canllaw cyfeirnodi ac ymwybyddiaeth ynghylch llên-ladrad yn y cofnodion YAA.
15. Bydd pob achos lle mae YAA wedi’i brofi yn cael ei gyfeirio at https://libguides.aber.ac.uk/cyfeirnodi.
Adolygwyd y bennod gan ddiweddaru’r llythyrau templed YAA i adlewyrchu dull sy’n ystyriol o
drawma gan ychwanegi cyfeiriad at geisio cymorth.
Medi 2024
3.7 Arholiadau a Byrddau Arholi
Terfynau amser ar gyfer cyflwyno traethodau hir/prosiectau ar gyrsiau uwchraddedig a
Ddysgir
Terfynau amser penodol wedi’u dileu a'u disodli gan y datganiad:
26. Ar gyfer ymgeiswyr amser llawn, y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno elfen olaf, 60 neu 120
credyd, yr asesiad (y traethawd ymchwil neu gyfatebol gan ddibynnu ar ofynion y cynllun
gradd unigol) yw 50 wythnos o ddyddiad dechrau’r cynllun (i’r dydd Gwener agosaf).
Dylai'r adran academaidd benderfynu ar derfynau amser cyflwyno ar gyfer cynlluniau
uwchraddedig a addysgir sydd â hydoedd sy'n wahanol i'r 12 mis safonol, yn unol â'r Rheoliadau
ar gyfer Gwobrau Modiwlaidd Uwchraddedig a Addysgir (gweler Cyfnodau Cofrestru a Therfynau Amser).
Medi 2024
3.7 Arholiadau a Byrddau Arholi
32 (ii) Bydd Bwrdd Arholi’r Senedd yn ystyried ac yn cadarnhau holl ganlyniadau’r cynlluniau
a ddysgir drwy gwrs. Bydd y Brifysgol yn penodi Adolygydd Allanol, sy’n aelod profiadol o staff Cofrestrfa prifysgol arall, i oruchwylio dull gweithredu'r Byrddau. Cadeirir Bwrdd Arholi
Dyfarniadau’r Senedd gan Ddirprwy Is-Ganghellor oni bai fod y Dirprwy Is-Ganghellor yn
dirprwyo’r cyfrifoldeb hwn i aelod o’r Bwrdd Academaidd. Cadeirir Byrddau Arholi Cynnydd y
Senedd gan y Cofrestrydd Academaidd (oni ddirprwyir y cyfrifoldeb i aelod uwch arall o staff y Gofrestrfa).
Cylch Gorchwyl Bwrdd Arholi'r Senedd wedi’i diweddaru (para 32 & 38)
Medi 2024
3.8 Amgylchiadau Arbennig ac Addasiadau Rhesymol
7. O Semester 2, 2023-24, nid yw'n ofynnol i fyfyrwyr â salwch sy'n para pythefnos neu lai
gyflwyno nodyn meddyg i gefnogi eu cais, ond yn hytrach gallant hunan-ardystio eu salwch.
Dylai eu datganiad effaith nodi dyddiadau’r salwch ochr yn ochr â'r effaith y mae'r salwch
hwn wedi'i chael.
8. Ar gyfer salwch sy'n hwy na 2 wythnos, neu ar gyfer amgylchiadau arbennig eraill, dylai
myfyrwyr gyflwyno tystiolaeth ddogfennol annibynnol pan fo’n bosibl.
Mai 2024
3.12 Adolygwyr Mewnol
Y bennod wedi’i diweddaru i adlewyrchu arfer presennol adolygwyr mewnol y bwrdd arholi
Medi 2024
3.14 Geirfa Asesu
Rhestr o Dermau Asesu wedi’i hychwanegu.
Bwrdd Academaidd
Tachwedd 2024
4.4 BVSc Gwyddor Filfeddygol (blynyddoedd 1 a 2): Rheolau Cynnydd
Ar gyfer myfyrwyr a ddechreuodd cyn mis Medi 2024
6.1 I symud ymlaen i Flwyddyn 2. Yn ogystal â phasio'n gyffredinol, rhaid i fyfyrwyr fod wedi
cwblhau o leiaf 6 wythnos o Efrydiau Allanol Hwsmonaeth Anifeiliaid (AHEMS) (yn unol â'r
canllawiau AHEMS sy'n berthnasol i'w blwyddyn astudio) cyn dechrau Blwyddyn 2 y cwrs BVSc.
Fel arfer, bydd angen i fyfyrwyr nad ydynt wedi cwblhau'r 6 wythnos ohirio symud ymlaen i'r
flwyddyn nesaf.
6.2 I symud ymlaen i Flwyddyn 3. Yn ogystal â phasio'n gyffredinol, rhaid i fyfyrwyr fod wedi
cwblhau o leiaf 12 wythnos o Efrydiau Allanol Hwsmonaeth Anifeiliaid (AHEMS) (yn unol â'r canllawiau AHEMS sy'n berthnasol i'w blwyddyn astudio) cyn dechrau Blwyddyn 3 y cwrs BVSc.
Fel arfer, bydd angen i fyfyrwyr nad ydynt wedi cwblhau'r 12 wythnos ohirio symud ymlaen i'r flwyddyn nesaf.
Ar gyfer myfyrwyr a ddechreuodd ers mis Medi 2024
6.3 I symud ymlaen i Flwyddyn 2. Yn ogystal â phasio'n gyffredinol, rhaid i fyfyrwyr fod wedi
cwblhau o leiaf 5 wythnos o Efrydiau Allanol Hwsmonaeth Anifeiliaid (AHEMS) (yn unol â'r
canllawiau AHEMS sy'n berthnasol i'w blwyddyn astudio) cyn dechrau Blwyddyn 2 y cwrs BVSc.
Fel arfer, bydd angen i fyfyrwyr nad ydynt wedi cwblhau'r 5 wythnos ohirio symud ymlaen i'r flwyddyn nesaf.
6.4 I symud ymlaen i Flwyddyn 3. Yn ogystal â phasio'n gyffredinol, rhaid i fyfyrwyr fod wedi cwblhau o leiaf 10 wythnos o Efrydiau Allanol Hwsmonaeth Anifeiliaid (AHEMS) (yn unol â'r canllawiau AHEMS sy'n berthnasol i'w blwyddyn astudio) cyn dechrau Blwyddyn 3 y cwrs BVSc.
Fel arfer, bydd angen i fyfyrwyr nad ydynt wedi cwblhau'r 10 wythnos ohirio symud ymlaen i'r
flwyddyn nesaf.
Medi 2024
4.5 Cynlluniau Gradd gyda Blwyddyn Ryng-gwrs, neu gynlluniau nad ydynt yn rhai ieithyddol
ond sy'n cynnwys blwyddyn yn Astudio Dramor Cynlluniau.
4. Mewn achosion lle bydd myfyrwyr yn dychwelyd o raglenni cyfnewid neu flwyddyn astudio dramor heb gredyd digonol neu/ynghyd â methiannau, dylai byrddau arholi adrannol gyflwyno argymhellion cynnydd i Fwrdd Arholi’r Senedd. Ystyrir pob argymhelliad gan banel
amgylchiadau arbennig yn adrodd i Fwrdd Arholi’r Senedd, yn unol â’i gylch gorchwyl.
Medi 2024
4.8 BSc Nyrsio (Oedolion) a BSc Nyrsio (Iechyd Meddwl)
Addaswyd trefniadau ailsefyll i gyd-fynd â chynlluniau safonol PA (dylai myfyrwyr ailsefyll unrhyw elfennau/modiwlau a fethwyd yng nghyfnod ailsefyll yr haf, nid ailsefyll o fewn y semester).
Eglurhad bod yn rhaid i fyfyrwyr basio holl elfennau pob modiwl ar draws Rhan Un a Rhan
Dau, yn ogystal â theori ag oriau ar leoliad.
Cyflwyno BSc mewn Astudiaethau Gofal Iechyd yn gymhwyster ymadael ar gyfer myfyrwyr nad
ydynt wedi llwyddo i fodloni gofynion y Cyrff Proffesiynol, Statudol a Rheoleiddiol (PSRB) ond sy’n bodloni gofynion Gradd Gychwynnol Modiwlar PA.
Bwrdd Academaidd
Gorffennaf 2024
4.12 Confensiynau Pennu Dosbarth Graddau Modiwlar
12. Cynlluniau Atodol Un Flwyddyn: cyfrifir y rhaeadr ar sail y marciau a ddyfarnwyd gan PA
yn unig, a chaiff ei llenwi o'r band uchaf i lawr, gan roi’r 80 credyd gorau ar y lefel uchaf yn y
band uchaf yn gyntaf, ac yna'r 40 credyd sy'n weddill yn y band isaf.
Bwrdd Academaidd
Mehefin 2024
4.13 Y Trothwy (Confensiynau Graddau Anrhydedd)
1. Mae’r rheolau a ganlyn yn berthnasol wrth weithredu’r Trothwy:
Pwysau Marciau
2. Pan fydd cyfartaledd rhaeadr myfyrwyr o fewn 1%* i unrhyw ffin, RHAID eu codi i’r dosbarth
uwch, ar yr amod eu bod yn bodloni un o’r gofynion hyn:
NAILL AI mae o leiaf 50% o gredydau Rhan Dau yn eu crynswth, ac eithrio Blwyddyn Ryng-gwrs
neu Flwyddyn Dramor, yn y dosbarth uwch neu drosodd
NEU
mae o leiaf 80 credyd o blith 120 credyd olaf Rhan Dau yn y dosbarth uwch neu drosodd.
* caiff cyfartaleddau rhaeadr a ddangosir hyd at un pwynt degol er gwybodaeth i’r byrddau
arholi eu talgrynnu i fyny (0.5 ac yn uwch) neu i lawr (<0.5) i’r cyfanrif agosaf.
AC
Mae’n berthnasol yn unig i fyfyrwyr sy'n dechrau Rhan Dau cyn mis Medi 2024 (h.y.
gweithrediad Trothwy 2%)
Bwrdd Academaidd
Mehefin 2024
4.16 Tystysgrif Addysg Uwch: Addysg Gofal Iechyd
Cywiro methiant2. Bydd angen i fyfyrwyr ailsefyll ac/neu ailgyflwyno'r elfen neu’r elfennau a fethwyd ym mhob semester. Bydd myfyrwyr yn cael DAU gyfle i ailsefyll cydran neu fodiwl theori a fethwyd. Daw’r
cyfle cyntaf i ailsefyll yn ystod y semester flwyddyn. Os methir y cyfle i ailsefyll yn ystod y
semester flwyddyn, bydd y cyllid yn cael ei atal am flwyddyn a bydd gan fyfyrwyr un cyfle olaf i ailsefyll yn allanol o fewn 12 mis. Ar ôl ailsefyll yn allanol bydd myfyrwyr yn ailymuno â'r brif
garfan yn ystod y sesiwn academaidd nesaf.
Mawrth 2024
(Bwrdd Academaidd– Mehefin 2024)
4.19.3 Myfyrwyr sydd wedi dechrau Gradd Meistr ERS mis Medi 2024
Y cyfeiriad at Ddrws Trugaredd wedi'i ddileu
Bwrdd Academaidd
Mehefin 2024
Adolygwyd y bennod, gan gynnwys y meini prawf ar gyfer penodi (Ni chaniateir i adran ymdrin â mwy nag un Arholwr Allanol o'r un adran mewn unrhyw sefydliad), cyhoeddi enwau'r Arholwyr Allanol, diweddarwyd y dogfennau a’r broses ofynnol ar gyfer Gwiriad Hawl i Weithio, dylid gwneud ceisiadau am ymweliadau wyneb yn wyneb i qaestaff@aber.ac.uk, eglurwyd amser cychwyn a hyd penodiadau Arholwr Allanol ar gyfer rhaglenni uwchraddedig a ddysgir, y cyfeiriad at TAR wedi’i ddileu, rhoddwyd eglurhad o rôl yr Arholwyr Allanol yn Semester Un, eu presenoldeb ar y Bwrdd Arholi yn Semester 3 ac amserlen cyflwyno’r adroddiad blynyddol gan Arholwyr Allanol Addysg Iechyd.
Medi 2024
Diweddarwyd Pennod 6 gan y Gwasanaethau i Fyfyrwyr i adlewyrchu arferion presennol a dull sy'n ystyriol o drawma.
6.7 Cynrychiolaeth Myfyrwyr
7.Cwynion a Disgyblu
(viii) Ymdrinnir â chwynion am Gynrychiolwyr Academaidd a'u gweithgareddau cysylltiedig yn
unol â Gweithdrefn Gwynion Undeb y Myfyrwyr.
(ix) Ymdrinnir â'r holl faterion disgyblu yng nghyswllt Cynrychiolaeth Academaidd yn unol â Gweithdrefnau Disgyblu Undeb y Myfyrwyr.
Medi 2024
9.3 Cynllun Casglu a Throsglwyddo Credydau
Y cyfeiriad at Raddau Pasio (35-39%) wedi’i ddileu
Medi 2024
10. Derbyn Israddedigion
a
11. Derbyn Uwchraddedig
Penodau wedi'u tynnu o’r Llawlyfr Ansawdd Academaidd i dudalennau gwe Derbyn Myfyrwyr
Medi 2024
Diweddarwyd y bennod a’r Ffurflen Gais Adolygiad Terfynol i ychwanegu’r hawl i gael Adolygiad Terfynol o benderfyniadau a wnaed gan y Swyddfa Gyllid (ffioedd a thaliadau sydd heb eu talu)
Diweddarwyd y bennod i newid y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau am Adolygiad Terfynol Cymorth i Astudio a cheisiadau Adolygiad Terfynol Cyllid i 2 ddiwrnod gwaith.
(Bwrdd Academaidd
– Gorffennaf 2024)
Amrywiol
Y cyfeiriad at Holiaduron Cloriannu Modiwlau (HCM) wedi’i ddisodli gan Arolwg ar Brofiad Myfyrwyr
(ABM) ym Mhennod 2.2 Cymeradwyo Modiwlau, Pennod 2.10 Adolygiad Adrannol, yn cynnwys
ail-ddilysu cyfnodol o'r ddarpariaeth, a Phennod 6.4 & 6.7 Cymorth Myfyrwyr a Chynrychiolaeth Myfyrwyr.
Awst 2024
Amrywiol
Y cyfeiriad at Ffitrwydd i Fynychu wedi’i ddisodli gan Cymorth i Astudio yn Rhan A Pennod 6.1
Cymorth Myfyrwyr a Chynrychiolaeth Myfyrwyr, Pennod 12.4 Apeliadau Academaidd,
Pennod 14.1 & 14.8 Y Drefn Cwyno, Pennod 16.3 Addasrwydd i Ymarfer, a Rhan B Gwybodaeth
Bwysig i Fyfyrwyr (9.3)
Awst 2024
Amrywiol
TAR
Rhan B Rheoliadau ar gyfer y Dystysgrif Addysg i Raddedigion (TAR) wedi’i ddileu
Y cyfeiriad at TAR wedi’i ddileu o Ran A 16.1.4 Addasrwydd i Ymarfer a 16.4 Atodiad 1 wedi’i ddileu
Rhan A 4. Confensiynau Arholiadau - 4.20 Rheolau Dyfarnu ar gyfer y Dystysgrif Addysg i Raddedigion wedi’u dileu
Y cyfeiriad at TAR wedi’i ddileu o Ran A 5. Arholi Allanol
Medi 2024
BSc Nyrsio (Oedolion) a BSc Nyrsio (Iechyd Meddwl)
Clarification that students must pass all components of all modules across Part One and Part
Bwrdd Academaidd
Gorffennaf 2024
Diweddarwyd i egluro'r gofynion ar gyfer gradd ategol
Bwrdd Academaidd
Mehefin 2024
28. Eglurhad o derfynau amser ar gyfer cwblhau dyfarniadau (llawn amser, rhan-amser
a dysgu o bell)
Bwrdd Academaidd
Mehefin 2024
18. Eglurhad o derfynau amser ar gyfer cwblhau dyfarniadau (llawn amser, rhan-amser
a dysgu o bell)
Bwrdd Academaidd
Mehefin 2024
7 Eglurhad o derfynau amser ar gyfer cwblhau dyfarniadau (llawn amser, rhan-amser)
Bwrdd Academaidd
Mehefin 2024
Adolygwyd y derminoleg i adlewyrchu dull sy'n ystyriol o drawma
Medi 2024
Adolygwyd y derminoleg i adlewyrchu dull sy'n ystyriol o drawma
1.4 Mae’r Brifysgol yn cydnabod bod cael eich cyfeirio at y broses Ymddygiad Academaidd Annerbyniol yn aml yn cael ei ragflaenu gan, neu’n cyd-fynd ag, adfyd arall a dwysâd mewn
gofid. Felly, rydym yn eich annog i ofyn am gymorth cyfrinachol gan y Gwasanaeth Lles, nad
yw'n datgelu ei waith â’r brifysgol yn ehangach ac eithrio os oes risg diogelu difrifol. Efallai
yr hoffai myfyrwyr chwilio am gymorth gan Undeb y Myfyrwyr hefyd, a all helpu drwy eich
tywys drwy’r broses a’ch cefnogi drwy ddod i’r cyfarfod panel gyda chi.
Medi 2024
Diweddarwyd: Medi 2024