11.18 Ffioedd Dysgu

1. Bwrdd Gweithredol y Brifysgol sy’n cytuno ar y ffioedd ar gyfer pob cwrs uwchraddedig a dysgu o bell, yn dilyn argymhellion gan Grŵp Ffioedd ac Ysgoloriaethau Prifysgol Aberystwyth. Yn ogystal, mae angen i Bwyllgor Adnoddau a Pherfformiad y Brifysgol gymeradwyo ffioedd mawr. Oni nodir yn wahanol, mae’n rhaid ffioedd dysgu yn flynyddol ac maent yn amodol ar adolygiad blynyddol. Gweler https://www.aber.ac.uk/cy/undergrad/before-you-apply/fees-finance/tuition-fees/ am restr lawn o ffioedd dysgu.

2. Ni fydd Ffioedd Rhaglen a godir ar gyfer cyrsiau Uwchraddedig a addysgir (ar gyfer myfyrwyr ‘Cartref’ a ‘Rhyngwladol’), yn amodol ar gynnydd cysylltiedig â chwyddiant blynyddol. Golyga hyn bod y Ffioedd Rhaglen a godir ym mlwyddyn un yn aros ar yr un lefel ar gyfer pob un o flynyddoedd dilynol y rhaglen astudio (pan fo’n berthnasol).

3. Bydd Ffioedd Rhaglen a godir ar fyfyrwyr ‘Cartref’ ar gyfer cyrsiau Ymchwil Uwchraddedig yn amodol ar gynnydd cysylltiedig â chwyddiant blynyddol a gaiff ei bennu gan y Brifysgol.

4. Ni fydd Ffioedd Rhaglen a godir ar fyfyrwyr ‘Rhyngwladol’ ar gyfer cyrsiau ymchwil Uwchraddedig yn amodol ar gynnydd cysylltiedig â chwyddiant blynyddol. Golyga hyn bod y Ffioedd Rhaglen a godir ym mlwyddyn un yn aros ar yr un lefel ar gyfer pob un o flynyddoedd dilynol y rhaglen astudio (pan fo’n berthnasol).

5. Bydd Ffioedd Rhaglen a godir ar gyfer cyrsiau dysgu o bell yn amodol ar gynnydd cysylltiedig â chwyddiant blynyddol a gaiff ei bennu gan y Brifysgol.

6. Caiff statws ffioedd ymgeisydd (pa un ai eu bod yn cael eu dosbarthu yn y categori Cartref neu Ryngwladol) ei bennu gan y staff Derbyn Uwchraddedigion yn unol â chanllawiau UKCISA. Os nad yw’r statws ffioedd yn glir o’r ffurflen gais a gyflwynwyd, gofynnir am ragor o wybodaeth gan yr ymgeisydd.

7. Ceir hyd i wybodaeth ynghylch y dewisiadau talu gwahanol ar gyfer ffioedd dysgu ar: https://www.aber.ac.uk/cy/student-finance/postgraduates/tuition-fees/how-to-pay/

Mae'n rhaid i ymgeiswyr rhyngwladol ar gyfer rhaglenni ymchwil uwchraddedig a rhaglenni uwchraddedig a addysgir dalu blaendal na ellir ei ad-dalu er mwyn cadarnhau eu lle, neu ddarparu tystiolaeth o nawdd i dalu ffioedd dysgu.

Mae cyrsiau dysgu o bell yn amodol ar ffi gofrestru y mae'n rhaid ei thalu pan fydd ymgeisydd yn cadarnhau ei fod yn derbyn ei le ar y cwrs. Yn dilyn hyn, gall myfyrwyr dysgu o bell ddewis talu ffioedd cwrs naill ai bob blwyddyn neu fesul modiwl.