11.1 Cyflwyniad

1. Mae’r adran hon yn rhoi canllawiau i bawb sy’n ymwneud â dewis uwchraddedigion. Mae’n amlinellu polisïau ynghylch dewis uwchraddedigion ynghyd â gweithdrefnau ar gyfer ymdrin â cheisiadau. Mae’r adran hon hefyd yn bwynt cyfeirio i ymgeiswyr.

2. Bydd adran y Llawlyfr Ansawdd Academaidd yn cael ei hadolygu ar ddiwedd pob cylch derbyn uwchraddedigion a’i diweddaru yn sgil datblygiadau o ran polisi a/neu weithdrefnau.

3. Mae’r Swyddfa Derbyn Uwchraddedigion yn rhan o’r Gofrestrfa Academaidd ac mae ar lawr cyntaf Adeilad Cledwyn.

Swyddfa Derbyn Uwchraddedigion
y Gofrestrfa Academaidd
Adeilad Cledwyn
Prifysgol Aberystwyth
Campws Penglais
Aberystwyth
Ceredigion SY23 3DD

Manylion cyswllt cyffredinol:
Ffôn: 01970 622023
Ebost: pg-admissions@aber.ac.uk

4. Mae’r Swyddfa Derbyn Uwchraddedigion ar agor 9yb – 5yp o ddydd Llun i ddydd Iau a 9yb – 4yp ar ddydd Gwener (ac eithrio gwyliau cyhoeddus a dyddiau cau’r brifysgol). Gellir gwneud ymholiadau’n bersonol, dros y ffôn neu drwy ebost. Nid oes gan y swyddfa ei llwyfannau cyfryngau cymdeithasol ei hun.

5. Mae’r Swyddfa Derbyn Uwchraddedigion yn prosesu ceisiadau ar gyfer astudiaethau uwchraddedig (gan gynnwys dysgu o bell a TAR).

6. Mae’r Swyddfa Derbyn Uwchraddedigion hefyd yn datblygu a chynnal meincnodi ar gyfer cymharu cymwysterau rhyngwladol, a gweithdrefnau ar gyfer gwirio cymwysterau a statws ffioedd ymgeiswyr.

7. Ffocws y Swyddfa Derbyn Uwchraddedigion yw ymgeiswyr uwchraddedig, ac yn benodol, y broses derbyn myfyrwyr. Dylai ymholiadau ynghylch cynnwys y cwrs, rhestrau darllen ac ati gael eu cyfeirio at yr adran academaidd berthnasol, sydd yn y sefyllfa orau i ymateb. Dylai ymholiadau mwy penodol ynghylch prosiectau ymchwil a chynigion gael eu cyfeirio at arweinwyr ymchwil adrannol neu oruchwylwyr posibl.