11.2 Egwyddorion Cyffredinol

1. Mae Prifysgol Aberystwyth, yn unol â diben cyffredinol ei Siarter, yn cadarnhau ei hymrwymiad i bolisi cynhwysfawr o roi ystyriaeth gyfartal i bob ymgeisydd i’r Brifysgol.

2. Ni ddylai’r un ymgeisydd ar lefel israddedig nac uwchraddedig gael triniaeth lai ffafriol ar sail oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, beichiogrwydd, mamolaeth, neu statws rhieniol, hil, crefydd neu gred, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol, nac am unrhyw resymau tebyg.

3.Mae’r Brifysgol yn ymdrechu bob amser i ddarparu cyfleoedd i ddarpar fyfyrwyr a all elwa ar gynllun gradd neu gynllun arall, a’i gwblhau’n llwyddiannus, waeth beth fo’u cefndir.

4. Mae’r Brifysgol wedi ymrwymo i gynnal gweithdrefnau derbyn myfyrwyr canolog effeithlon ac effeithiol yn unol â gofynion deddfwriaethol ac arferion gorau cenedlaethol.

5. Mae’r Brifysgol wedi ymrwymo i bum egwyddor graidd ar gyfer derbyniadau teg fel y’u diffinnir yn Adroddiad Schwartz (2014): System dderbyn sy’n seiliedig ar dryloywder, dewis ar sail yr hyn y mae ymgeiswyr wedi’i gyflawni a’u potensial, mabwysiadu dulliau asesu sy’n ddibynadwy ac yn ddilys, lleihau rhwystrau i fynediad, a bod yn broffesiynol ym mhob ffordd ar sail strwythurau a phrosesau.