Adnoddau Dysgu

Myfyrwyr yn eistedd wrth fwrdd yn Llyfrgell Hugh Owen

Yn rhan o’n buddsoddiad ym mhrofiad ein myfyrwyr, rydym wedi ailwampio pob un o’n prif fannau dysgu.

Mae yma dechnoleg cofnodi darlithoedd sy’n recordio eich dosbarthiadau er mwyn i chi gael eu gwylio eto wrth adolygu. Ar gyfer eich astudiaethau personol, rydym yn argymell prif lawr Llyfrgell Hugh Owen. Mae’n drysorfa o adnoddau print ac electronig (ac mae yno olygfeydd godidog dros y dref). Mae’r campws hefyd dafliad carreg o’r Llyfrgell Genedlaethol, sy’n cadw copi o bob llyfr sy’n cael ei gyhoeddi yn y DU. Mae hefyd yn un o ddim ond pum llyfrgell hawlfraint yn y DU.