Ymgysylltiad Staff a Myfyrwyr

Rydym yn deall bod cynaliadwyedd a stiwardiaeth yn peri pryder mawr i lawer o'n myfyrwyr a'n staff, a dyna pam ein bod nid yn unig yn annog newid ymddygiad trwy fentrau a gynhelir gan y brifysgol, ond hefyd yn gwerthfawrogi'r effaith y mae staff a myfyrwyr yn ei chael ar ymwybyddiaeth amgylcheddol a chynaliadwyedd. Gweler rhai enghreifftiau isod: 

Cynllun Ymgysylltu Staff a Myfyrwyr 2023-24

See below our staff and student engagement plan for 2023-2024.

See our events page and the rest of the staff & student engagement webpages for monitoring engagement.  

Mis

Digwyddiad

Gweithredu

Cynulleidfa

Staff/Tîm sy'n Gyfrifol

Adnoddau sydd eu hangen

Monitro Ymgysylltiad

Medi

Sgwrs Wythnos Groesawu

Llunio a rhoi cyflwyniad gynefino i fyfyrwyr yn ystod yr wythnos groesawu, i’w gwneud yn ymwybodol o nodau a pholisïau cynaliadwyedd Prifysgol Aberystwyth.

⁠Myfyrwyr

Neil Glasser,  nfg@aber.ac.uk

Amser Staff

Presenoldeb

Hydref

Taith Gerdded Gwyddoniaeth Lawr Gwlad

Cymerwch ran yn nigwyddiad EuroBioBlitz 2023 trwy Goedwig Penglais

⁠Myfyrwyr

Jess Farmer, jef38@aber.ac.uk

Amser staff, amser myfyrwyr

Presenoldeb

Tachwedd

Cyfarfod y Fforwm Cynaliadwyedd 

Cwrdd â chynrychiolwyr/hyrwyddwyr cynaliadwyedd o bob rhan o'r brifysgol, trafod y camau maent yn eu cymryd i fod yn fwy cynaliadwy, ac a oes angen adnoddau arnynt i’w cyflawni 

Staff

 Tîm Cynaliadwyedd, hasstaff@aber.ac.uk

Amser staff

Presenoldeb

Tachwedd

Diwrnod Gwirfoddoli i Blannu Coed

Plannu 400 o lasbrennau o rywogaethau o goed Cymreig brodorol o amgylch Fferm Penglais

Staff a myfyrwyr

Tîm Cynaliadwyedd, hasstaff@aber.ac.uk

Amser staff, amser myfyrwyr, cost y coed/offer

Presenoldeb

Rhagfyr

Diffodd Dros y Nadolig

Annog yr holl staff i ddiffodd dyfeisiau electronig dros wyliau'r Nadolig

Staff

Tîm Cynaliadwyedd, hasstaff@aber.ac.uk,

Tîm Cyfathrebu, communications@aber.ac.uk

Amser staff

Mesur y kWh a arbedwyd yn ystod gwyliau'r Nadolig

Chwefror

Cyfarfod y Fforwm Cynaliadwyedd 

Cwrdd â chynrychiolwyr/hyrwyddwyr cynaliadwyedd o bob rhan o'r brifysgol, trafod y camau maent yn eu cymryd i fod yn fwy cynaliadwy, ac a oes angen adnoddau arnynt i’w cyflawni

Staff

 Tîm Cynaliadwyedd, hasstaff@aber.ac.uk

Amser staff

Presenoldeb

Chwefror

Cyflwyniad ADGD – Sero Net

Rhoi cyflwyniad i ADGD ar amcanion sero-net y brifysgol a'r sefyllfa bresennol

Staff

 Dewi Day, ded17@aber.ac.uk

Amser staff

Presenoldeb

Mawrth

Glanhad Miliwn o Filltiroedd

Cymryd rhan yn nigwyddiad glanhad miliwn o filltiroedd Surffers Against Sewage o amgylch Coed Penglais

Staff a myfyrwyr

Tîm Cynaliadwyedd, hasstaff@aber.ac.uk

Amser staff, amser myfyrwyr

Presenoldeb, Pellter, Pwysau’r sbwriel 

Mawrth

Mis cynaliadwyedd y Gwasanaethau Croeso

4-10 Mawrth: Cynnig cwpanau cadw am ddim i gymell pobl i ddefnyddio llai o eitemau untro a chynnig gostyngiad gyda'r cwpan                   

Staff a myfyrwyr

Gwasanaethau Croeso, hospitality@aber.ac.uk

Amser staff, cost deunyddiau

Nifer y cwpanau cadw a roddwyd

Mawrth

Mis cynaliadwyedd y Gwasanaethau Croeso

11-17 Mawrth: Wythnos prynu moesegol - esbonio'r system goleuadau traffig ar gyfer olew palmwydd 

Staff a myfyrwyr

Gwasanaethau Croeso, hospitality@aber.ac.uk

Amser staff, amser myfyrwyr,

Adborth

Mawrth

Mis cynaliadwyedd y Gwasanaethau Croeso

18-24 Mawrth: Wythnos Di-blastig - labelu pob plastig untro i dynnu sylw at y broblem.

Staff a myfyrwyr

Gwasanaethau Croeso, hospitality@aber.ac.uk

Amser staff, cost deunyddiau

adborth

Ebrill

Rhyddhau holiadur am deithio cynaliadwy

Rhyddhau holiadur am deithio cynaliadwy i fonitro sut mae staff yn cymudo i’r gwaith ac i gael adborth gan staff ynghylch teithio cynaliadwy. 

Staff

Tîm Cynaliadwyedd, hasstaff@aber.ac.uk,

Tîm Cyfathrebu, communications@aber.ac.uk

 

Amser staff

Cyfradd ymateb

Mai

Mai Di Dor

Cymryd rhan ym Mai Di Dor, anfon negeseuon i egluro pam ei bod yn bwysig cefnogi Mai Di Dor ar y campws, creu arwyddion a’u gosod yn yr ardaloedd o flodau gwyllt 

Staff a myfyrwyr

Tîm Tiroedd, dnh@aber.ac.uk,  

Tîm Cynaliadwyedd, hasstaff@aber.ac.uk,

Amser staff

adborth

Mehefin

Ymgyrch ‘Rhoi yn hytrach na thaflu’

Darparu pwyntiau casglu i fyfyrwyr sy'n symud allan i roi eitemau nad ydynt eu hangen/heisiau mwyach, fel y gellir eu hailddefnyddio/hailgartrefu.

Myfyrwyr

Tîm gwastraff, tîm preswylfeydd, facilities@aber.ac.uk

Amser staff, amser myfyrwyr

Nifer y rhoddion

Mehefin

Cyfarfod y Fforwm Cynaliadwyedd 

Cwrdd â chynrychiolwyr/hyrwyddwyr cynaliadwyedd o bob rhan o'r brifysgol, trafod y camau maent yn eu cymryd i fod yn fwy cynaliadwy, ac a oes angen adnoddau arnynt i’w cyflawni 

Staff

Tîm Cynaliadwyedd, hasstaff@aber.ac.uk

Amser staff

Presenoldeb

Ymgynefino Staff

Ymgynefino Staff

Mae'n ofynnol i bob aelod o staff newydd ymgymryd â chwrs cynefino ar hyfforddiant ymwybyddiaeth amgylcheddol, ymhlith pynciau eraill, fel bod cynaliadwyedd yn parhau i fod yn rhan annatod o holl weithgareddau'r brifysgol ac yn rhoi sylfaen o ymwybyddiaeth amgylcheddol.  

Hyfforddiant Llythrennedd Carbon

Erbyn 2025, ein nod yw sicrhau bod pawb sy’n gwneud penderfyniadau ar lefel uwch yn cael hyfforddiant llythrennedd carbon.  Bydd hyn yn sicrhau bod allyriadau carbon a'u heffeithiau yn cael eu hystyried cyn i'r brifysgol wneud unrhyw waith mawr.

Mae rownd gyntaf yr hyfforddiant eisoes wedi'i chwblhau, gyda 12 o'n haelodau o staff gweithredol wedi cwblhau'r hyfforddiant ac wedi cael Ardystiad Llythrennedd Carbon. 

I gael gwybodaeth am gynnwys y cwrs, ewch i’r Prosiect Llythrennedd Carbon.

Sesiynau Cynefino Myfyrwyr

Llawlyfr Preswylwyr

Mae’r Llawlyfr Preswylwyr ar gael i’r holl fyfyrwyr. Mae’n ymdrin ag ystod eang o bynciau i gynorthwyo myfyrwyr newydd i ymgynefino yn y Brifysgol bob blwyddyn, gan gynnwys:

Gwastraff ac Ailgylchu

Teithio Cynaliadwy i Aberystwyth ac o amgylch y dref

Defnydd ynni a dŵr 

Sgwrs Wythnos Groesawu

Rydym hefyd yn cynnal Sgwrs yn ystod yr Wythnos Groesawu i sicrhau bod myfyrwyr newydd yn ymwybodol o amcanion y Brifysgol, ei chynlluniau sero-net, a’r gweithgareddau cynaladwyedd sydd ar y gweill. 

Codi Ymwybyddiaeth am Gynaliadwyedd

Yn ogystal â hyn, rydym wedi creu poster newydd i fyfyrwyr i Godi Ymwybyddiaeth am Gynaliadwyedd, sy’n tynnu sylw at gamau y gall unigolion eu cymryd i helpu i leihau allyriadau carbon. 

I weld pa newidiadau bach y gallwch chi eu gwneud i helpu, gweler: Poster Codi Ymwybyddiaeth am Gynaliadwyedd

Digwyddiadau

Digwyddiadau

I weld ein digwyddiadau sydd ar y gweill, Cliciwch yma.

Prosiectau Cymunedol a Myfyrwyr Parhaus

Menter myfyrwyr, gyda chefnogaeth Prifysgol Aberystwyth, oedd Gardd Gymunedol Penglais ar y dechrau. Y nod yw creu lle i bobl dyfu bwyd, dysgu am dyfu bwyd, plannu mewn modd sy'n addas i fywyd gwyllt, a chreu lle tawel i bobl sy'n ymweld â'r brifysgol a Chanolfan y Celfyddydau i eistedd a mwynhau eu cinio. Tyfir amrywiaeth o gynnyrch yn yr ardd, ac mae’r cynnyrch sy’n weddill yn cael ei rannu ymhlith gwirfoddolwyr, yn cael ei werthu drwy’r Gydweithfa Fwyd, neu ei roi i Fwyd Dros Ben Aber. Cartref | Gardd Gymunedol Penglais (aberystwyth.wixsite.com) 

Mae Gwirfoddolwyr Cadwraeth Aberystwyth yn un o gymdeithasau undeb y myfyrwyr ac yn grŵp ymarferol o wirfoddolwyr cadwraeth. Os hoffech chi dreulio mwy o amser yn yr awyr agored a helpu’r ardal leol, dewch i ymuno â ni ar bnawn Sadwrn neu bnawn Mercher yn y gwaith! Gwirfoddolwyr Cadwraeth Aberystwyth (abersu.co.uk)

Hyrwyddwr Cynaliadwyedd y Flwyddyn

Yn rhan o Wobrau Dysgu, Addysgu a Phrofiad Myfyrwyr UM, dyfernir gwobr Hyrwyddwr Cynaliadwyedd y Flwyddyn i fyfyriwr neu aelod o staff sydd wedi'u henwebu oherwydd eu blaengaredd wrth hyrwyddo cynaliadwyedd.

Gweler enillwyr 2023-24 yma.

Cronfa Gymunedol Gymdeithasol

Rydym yn falch o gyhoeddi ein 'Had-daliad Gwerth Cymdeithasol', ad-daliad blynyddol gan gyflenwyr i'w wario ar ystod o achosion da a chymdeithasol yn Aberystwyth, gan gynnwys prosiectau cynaliadwyedd dan arweiniad myfyrwyr.

Mae'r union werth yn amrywio'n flynyddol, a bydd yn cael ei bennu gan werth contractau cymwys. I wneud cais, cysylltwch â'r swyddfa gaffael - bylstaff@aber.ac.uk

Gwerthusiadau dan arweiniad myfyrwyr

Gwerthusiadau dan arweiniad myfyrwyr

Ar y cyd â digwyddiadau cynaliadwyedd, mae myfyrwyr yn ymwneud ag olrhain a gwerthuso gweithgareddau’r brifysgol.

Mae Undeb y Myfyrwyr wedi cyrraedd y lefel uchaf o ran Safon Effaith Werdd yn 2022-23, drwy fentrau megis hyrwyddo'r defnydd o ddillad/offer coginio ail-law drwy Hyb yr Hael, hyfforddiant ymwybyddiaeth amgylcheddol a thrwy sefydlu gweithgor gweithredol.

Meithrin Cysylltiadau Ar Draws Y Brifysgol

Fforwm Cynaliadwyedd

Er mwyn annog cyfathrebu ynghylch cynaliadwyedd ar draws y brifysgol, mae gan PA fforwm cynaliadwyedd misol lle mae croeso i gynrychiolwyr o adrannau unigol, cynrychiolaeth o fyfyrwyr ac aelodau o undebau llafur (ar hyn o bryd aelod o Undeb y Prifysgolion a Cholegau) fod yn bresennol, gan roi cyfle i aelodau o bob rhan o'r brifysgol gyfrannu yn ogystal â chael adborth ac awgrymiadau.  

Pwyllgor Cynaliadwyedd

Mae'r Pwyllgor Cynaliadwyedd yn cyfarfod dair gwaith y flwyddyn, ac mae’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau ar lefel uwch ar draws y brifysgol yn bresennol i oruchwylio’r broses o gytuno ar bolisïau, strategaethau, amcanion, dangosyddion perfformiad allweddol a chynlluniau gweithredu yn ogystal â monitro cynnydd pob un o’r rhain o ran y meysydd hynny sy'n gysylltiedig â Tharged y Prifysgolion i fod yn Garbon-niwtral erbyn 2030/31 yn ogystal ag amcanion ehangach i wella’r amgylchedd a gwella cynaliadwyedd, gan gynnwys:  

  • Carbon a Chyfleustodau  
  • Bioamrywiaeth a Chadwraeth  
  • Gwastraff 
  • Plastig defnydd sengl 
  • Bwyd 
  • Trafnidiaeth 
  • Cynaliadwyedd yn y Cwricwlwm 
  • Caffael 
  • Prosiectau & adeiladaeth 
  • TG  
  • Atal Llygredd 
  • Meithrin cyswllt Staff a Myfyrwyr.  

Pwyllgor Iechyd, Diogelwch a'r Amgylchedd

Mae’r Pwyllgor Iechyd, Diogelwch a’r Amgylchedd yn cyfarfod 5 gwaith y flwyddyn, gyda mewnbwn gan 3 chynrychiolydd diogelwch Undeb Llafur yn ogystal â chynrychiolydd etholedig o undeb y myfyrwyr.

Mae'r pynciau sy'n cael eu trafod yn cynnwys:

  • ⁠Adroddiad Blynyddol ac archwiliadau ar Iechyd, Diogelwch a’r Amgylchedd
  • Adolygiad o’r cylch gorchwyl
  • Gweithdrefnau, polisi, strategaethau a chyfarwyddyd Iechyd, Diogelwch a’r Amgylchedd

Gweler ein Cylch Gorchwyl Archwiliad Mewnol Iechyd, Diogelwch a'r Amgylchedd am fwy o wybodaeth.

Grŵp Goruchwylio Cydraddoldeb, Amrywioldeb a Chynhwysiant

Mae’r Grŵp Goruchwylio Cydraddoldeb, Amrywioldeb a Chynhwysiant yn cyfarfod 3 gwaith y flwyddyn gyda chynrychiolwyr o’r undebau llafur, ac mae’n trafod, ymhlith pynciau eraill:

  • Rhwymedigaethau statudol o ran Cydraddoldeb, Amrywioldeb a Chynhwysiant

  •  

    Ymgorffori'r Ddeddf Cydraddoldeb

  • Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus
  • Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol

  • Gweler ein Cylch Gorchwyl Cydraddoldeb, Amrywioldeb a Chynhwysiant am fwy o wybodaeth