Buddsoddiadau Moesegol

Ym mis Mehefin 2019, mabwysiadodd y Brifysgol bolisi buddsoddiadau moesegol newydd. O ganlyniad i hyn, mae’r Brifysgol yn symud ei buddsoddiadau mewn cronfeydd ecwiti cyhoeddus sydd â’r cysylltiadau cryfaf â chynhyrchwyr tanwyddau ffosil i gronfa sy’n benodol yn gwahardd buddsoddiadau mewn tanwyddau ffosil erbyn 31 Rhagfyr 2019. Mae’r gronfa newydd hefyd yn eithrio’r allyrwyr carbon mwyaf, felly mae ei hôl troed carbon yn sylweddol is nag ôl troed y farchnad yn gyffredinol.