Dewch o hyd i'n polisïau sy'n ymwneud â chynaliadwyedd, yr amgylchedd a theithio yn y cwymplenni isod.
Polisi Cynaliadwyedd
Mae'r Tîm Cynaliadwyedd, sydd wedi'i leoli yn yr Adran Ystadau, wedi ymrwymo i ymgorffori meddwl cynaliadwy ehangach yn ein holl brosesau gwneud penderfyniadau.
Mae ein strategaeth cynaliadwyedd amgylcheddol wedi'i chynnwys yn ein Strategaeth Sero Net erbyn 2030, sy'n gosod targedau CAMPUS i ddatgarboneiddio ein prifysgol.
Yn Aberystwyth, rydym yn ymgorffori’r hierarchaeth deithio i bob taith fusnes a chymudo i leihau’r amser teithio ac osgoi teithio diangen.
Ar hyn o bryd rydym wrthi'n diweddaru ein polisi teithio i ymgorffori cynaliadwyedd hyd yn oed ymhellach - darllenwch ein Polisi Teithio presennol i gael mwy o wybodaeth.
Mae gennym fwy o wybodaeth hefyd am yr hyn y mae'r brifysgol yn ei ddarparu yn ogystal â theithio o amgylch Aberystwyth ar ein tudalennau Teithio Cynaliadwy.
Polisïau Bioamrywiaeth a Chadwraeth
Gyda gwreiddiau’r Brifysgol wedi’u plannu'n gadarn mewn amaethyddiaeth, mae'n hanfodol i ni fod bioamrywiaeth a chadwraeth ar flaen y gad o ran yr hyn a wnawn.