Ailglychu a Gwastraff

Prifysgol Di-blastig

Prifysgol Di-blastig

Yn 2018, Prifysgol Aberystwyth oedd y Brifysgol gyntaf yn y Byd i gael tystysgrif 'Prifysgol Ddi-Blastig'. Mae'r ardystiad, a ddyfarnwyd gan yr elusen cadwraeth forol Surfers Against Sewage, yn tynnu sylw at ymrwymiad y Brifysgol i helpu i leihau llygredd plastig yn amgylchedd y môr.

Mae'r cynllun yn canolbwyntio ar leihau'r defnydd o eitemau plastig sy'n cael eu defnyddio unwaith yn unig cyn cael eu taflu i ffwrdd, megis poteli plastig, cwpanau coffi a chaeadau, bagiau, cyllyll a ffyrc, gwellt a throellwyr. Er bod llawer o eitemau plastig untro yn y Brifysgol o hyd, mae'r cynllun yn cydnabod y gwaith gwych sy'n cael ei wneud i leihau eu defnydd ac ymrwymiad parhaus y sefydliad.

Yn 2019, fel arwydd o'n hymrwymiad parhaus i leihau plastig untro, dadorchuddiodd y Brifysgol ein Hadduned ynglŷn â Phlastigion Untro, gan amlinellu'r camau uniongyrchol sydd o'n blaenau:  Prifysgol Aberystwyth yn addo i leihau ei defnydd o blastig untro

 

 

Adduned ynglŷn â Phlastigion Untro

Adduned ynglŷn â Phlastigion Untro

Darllenwch ein Hadduned ynglŷn â Phlastigion Untro yma: Adduned ynglŷn â Phlastigion Untro

Dewisiadau amgen Di-blastig

Dewisiadau amgen Di-blastig

Rydym hefyd yn deall yr angen i ddarparu dewisiadau amgen di-blastig, a dyna pam mae'r Gwasanaethau Croeso yn rhedeg 'Cynllun Cwpan Cadw' yn ystod mis Hydref 2023, gan gynnig cwpanau coffi y gellir eu hailddefnyddio am ddim i fyfyrwyr a staff, sy’n cyd-fynd â gostyngiad o 25c pan gânt eu defnyddio. 

Yn ogystal â hyn, er mwyn cefnogi'r defnydd o boteli dŵr y gellir eu hail-lenwi, gosodwyd ffynhonnau dŵr a gorsafoedd ail-lenwi poteli am ddim ar draws y campws.

Gellir dod o hyd i ffynhonnau eraill a chyfleoedd ar gyfer ail-lenwi poteli dŵr am ddim ar draws Aberystwyth ac ymhellach i ffwrdd hefyd gan ddefnyddio'r App Ail-lenwi.

Gellir dod o hyd i'r ffynhonnau a'r gorsafoedd ail-lenwi ar fap campws y brifysgol. 

I gael gwybod rhagor ynglŷn â sut rydym yn arbed dŵr, gweler ein tudalennau Rheoli Dŵr.