Beth yw Labordai Byw?

Amrywiaeth o brosiectau a chyfleoedd ymchwil sy’n cael eu cyflawni ledled ein campysau yw’r Labordai Byw. Maent yn ymwneud â chynaliadwyedd a’r amgylchedd ac yn cael effaith gadarnhaol ar y meysydd hynny yn y byd real.

Trwy gynnwys myfyrwyr, staff a'r gymuned ehangach, mae’r labordai byw yn gwella’r cydweithredu rhwng y brifysgol a phobl leol, yn ogystal ag asesu effeithiau amgylcheddol y Brifysgol a chynnig syniadau am welliannau.  

Prosiectau Labordai Byw

Dyma rai enghreifftiau o'n prosiectau labordy byw.

Tanau Gwyllt ger y Môr

Tanau Gwyllt ger y Môr - Allfflwcs Carbon Deuocsid ar ôl Tân Gwyllt yng Ngwarchodfa Natur Penglais 

Ffig1: Canlyniad tân gwyllt yng Nghoedwig Penglais, Carwyn Davies

Nod Datblygu Cynaliadwy 13 - Gweithredu ar y Newid yn yr Hinsawdd

Nod Datblygu Cynaliadwy 15 - Bywyd ar y Tir  

Ym mis Mehefin 2023, dechreuodd tân gwyllt yng Ngwarchodfa Natur Penglais o ganlyniad i dymheredd uchel yn ystod ton wres, mater a waethygir gan effeithiau’r newid yn yr hinsawdd. Ar ôl i'r tân ddiffodd, manteisiodd myfyrwyr ar y cyfle i ymchwilio i effaith y tân ar sawl ffactor amgylcheddol, fel bywyd planhigion, bywyd gwyllt ac ansawdd y pridd ym mhob rhan o’r goedwig. 

Dan oruchwyliaeth yr Athro Stephen Tooth, bu'r myfyrwyr Carwyn Davies a Cindy Farrell yn ymchwilio i nodweddion y pridd. Roedd gwaith Davies yn canolbwyntio'n bennaf ar allfflwcs CO2, un o briodoleddau pridd sy’n cael ei effeithio gan y newid yn yr hinsawdd.

"Ym mis Hydref, aethom i ardal orllewinol Parc Natur Penglais i fesur allfflwcs CO2 y pridd mewn pedwar safle sydd â gwahanol fath o orchudd tir, gan ddefnyddio teclyn isgoch i ddadansoddi nwy. Fe wnaethom gofnodi tymheredd y pridd a lleithder y pridd, a defnyddio sampl o bridd coetir i ddadansoddi effeithiau amodau sych cymedrol a dwys ac amodau ail-wlychu a dirlawn. Fe wnaethom hefyd ymchwilio i gyfnod cynnar adferiad yr ardaloedd o’r parc natur a losgwyd yn ddifrifol, gan ddefnyddio'r data a gasglwyd i ddeall sut mae’r hinsawdd sy’n cynhesu yn effeithio ar y parc natur."

Offer a ddefnyddiwyd i fonitro allfflwcs CO2, lleithder a thymheredd y priddoedd

Ffig 2: Offer a ddefnyddiwyd i fonitro allfflwcs CO2, lleithder a thymheredd y priddoedd 

Mae tanau gwyllt yn ffenomen a welir yn aml mewn rhostiroedd a thiroedd prysg-lwynog ar ledredau uwch, ac maent yn fygythiad i isadeiledd, iechyd pobl a gwasanaethau ecosystemau. Yn ogystal â hyn, mae tanau gwyllt yn gallu newid cynefinoedd bywyd gwyllt yn sylweddol, a rhyddhau’r stociau carbon sydd wedi’u storio yn y pridd. Yn ôl gwaith modelu rhagwelir y bydd tanau gwyllt yn cynyddu yn ystod yr 21ain ganrif o ganlyniad i’r newid yn yr hinsawdd. Mae tanau gwyllt yn newid stociau carbon (C) a biomas llystyfiant pridd, gan newid cymunedau microbaidd y pridd a chyfraniadau resbiradaeth gwreiddiau, dau ffactor sy’n cyfrannu at allfflwcs CO2 o’r pridd. Yn sgil tân gwyllt a darodd Parc Natur Penglais, Aberystwyth, ym mis Mehefin 2023, penderfynwyd ymchwilio i allfflwcs CO2 ar draws y gwahanol fathau o orchudd tir yr oedd y tân wedi effeithio arnynt, a'r goedwig o’u hamgylch.

Yr ardal a losgwyd oedd â’r allfflwcs CO2 isaf ac roedd yna dystiolaeth o gramenni pridd biolegol, a phosibilrwydd y bydd cynnydd mewn lleithder a thymheredd yn lleihau’r allfflwcs CO2 ymhellach. Roedd gan yr ardaloedd ymylol allfflwcs CO2 uwch yn ogystal â’r cynnwys lleithder uchaf, a rhan fach oedd y tymheredd yn ei chwarae yn yr allfflwcs CO2. Yn yr ardaloedd mwsoglyd roedd yr allfflwcs CO2 yn amrywio’n sylweddol, sy’n dangos y gallai olyniaeth eilaidd gynnar arwain at gynnydd mewn allfflwcs CO2 yn y tymor byr. Y safleoedd coetir oedd â'r allfflwcs CO2 uchaf oherwydd bod y stociau C yn fwy yn y math hwn o orchudd tir, ac oherwydd bod gwreiddiau coed ffawydd yn agos at ei gilydd.

Mae’r newid yn yr hinsawdd yn effeithio ar allfflwcs CO2 o’r pridd, ac mae hyn wedi cael ei brofi trwy waith dadansoddi yn y labordy. Gan fod y tymheredd ar y cyd ag effaith y coed Ffawydd yn cynyddu allfflwcs CO2, mae digwyddiadau sychder-glaw cyson yn debygol o arwain at gyfraniadau net uwch i’r newid yn yr hinsawdd. 

Trwy ddefnyddio’r campws yn safle ymchwil, mae Davies wedi tynnu sylw at arwyddocâd y cynnydd yn y tymheredd o ganlyniad i’r newid hinsawdd yn agos i adref.

Ffig 3: Graff yn dangos allfflwcs CO2 y pridd ar gyfer y safleoedd a losgwyd, y safleoedd ymylol, safleoedd mwsoglyd a choetir.

Adnodd Cartref Deallus

Arweinydd: Dr Patricia Shaw - phs@aber.ac.uk

Yn gysylltiedig â:

  • Nod Datblygu Cynaliadwy 3 - Iechyd Da a Lles
  • Nod Datblygu Cynaliadwy 11 - Dinasoedd a Chymunedau Cynaliadwy

Datblygiadau arloesol ym maes technoleg byw â chymorth gyda’r nod o wella ansawdd bywyd cleifion oedrannus.

Darllenwch fwy yma. 

Llywodraethu Newid Hinsawdd - Modiwl Efelychu

Arweinydd: Dr. Hannah Hughes, hah60@aber.ac.uk

Yn gysylltiedig â:

  • Nod Datblygu Cynaliadwy 4 - Addysg o Ansawdd
  • Nod Datblygu Cynaliadwy 13 - Gweithredu ar y Newid yn yr Hinsawdd

Fel rhan o gwrs israddedig yr adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol, gall myfyrwyr gymryd rhan mewn ymarferiad efelychu trwy'r modiwl Llywodraethu Newid Hinsawdd i feithrin dealltwriaeth o’r ffordd y gwneir penderfyniadau ynghylch gweithredu ar y newid yn yr hinsawdd. Neilltuir rhannau i’r myfyrwyr ar ddechrau'r modiwl, ac yn ystod y tymor byddant yn gweithredu yn y rhannau hyn i wneud penderfyniadau am bolisïau hinsawdd. Bydd myfyrwyr yn gweithredu fel llywodraethau, gan gyd-drafod a blaenoriaethu, ac ar ddiwedd y modiwl byddant yn cynnal uwchgynhadledd lle bydd rhestr o bolisïau yn cael ei chyhoeddi. 

Am fwy o wybodaeth, gweler llawlyfr y modiwl. 

Datblygiadau arloesol ym maes meillion

Arweinydd: Yr Athro Leif Skøt, lfs@aber.ac.uk

Cyswllt: Dr. Gancho Slavov, gas38@aber.ac.uk

Yn gysylltiedig â:

  • Nod Datblygu Cynaliadwy 13 - Gweithredu ar y Newid yn yr Hinsawdd
  • Nod Datblygu Cynaliadwy 15 - Bywyd ar y Tir

Ymchwilio i amrywiadau o feillion parhaol i gynyddu cyfraddau sefydlogiad nitrogen mewn priddoedd, gan helpu i wella ansawdd pridd yn lleol ac yn fyd-eang. 

Darllenwch fwy yma. 

Meddalwedd Auxilium a Cyswllt Cyfreithiol Cyn-filwyr

Arweinydd: Dr. Olaoluwa Olusanya, ooo@aber.ac.uk

Yn gysylltiedig â:

  • Nod Datblygu Cynaliadwy 3 – Iechyd Da a Lles
  • Nod Datblygu Cynaliadwy 10 - Llai o Anghydraddoldeb
  • Nod Datblygu Cynaliadwy 16 - Heddwch, Cyfiawnder a Sefydliadau Cryf

Nod meddalwedd Auxilium yw hwyluso’r cyfathrebu rhwng cleientiaid a sefydliadau'r sector cyhoeddus, ac fe'i datblygwyd i gynorthwyo 'Cyswllt Cyfreithiol Cyn-filwr', sy’n cynnig cyngor cyfreithiol a gwasanaeth cyfeirio rhad ac am ddim i gyn-filwyr a staff y gwasanaethau brys sydd wedi ymddeol.

Mae Cyswllt Cyfreithiol Cyn-filwr yn cynnig interniaethau a chyfleoedd gwirfoddoli i fyfyrwyr sy’n awyddus i gynorthwyo a chyfrannu at ymchwil. 

Darllenwch fwy am feddalwedd Auxilium.

Darllenwch fwy am Cyswllt Cyfreithiol Cyn-filwr. 

Lleoliadau ABERymlaen

Cyswllt: gyrfaoedd@aber.ac.uk

Yn gysylltiedig â:

  • Ystod o Nodau Datblygu Cynaliadwy (yn dibynnu ar yr ymchwil)

Prif nod lleoliadau gwaith ABERymlaen yw rhoi cyfleoedd i ddysgu a datblygu er mwyn i fyfyrwyr a graddedigion diweddar Prifysgol Aberystwyth gael yr wybodaeth a’r sgiliau gyrfa angenrheidiol i gynllunio a chymryd eu camau nesaf i fywyd ar ôl graddio. 

Lleoliadau gwaith cyflogedig yw’r rhain lle mae myfyrwyr yn cymryd rhan mewn swyddi ymchwil, sy'n aml wedi’u lleoli ar gampws y brifysgol. 

Am fwy o wybodaeth am leoliadau gwaith, sut i gynnig lleoliadau gwaith, a phwy sy’n gymwys i wneud cais, darllenwch yma.