Gerddi Cymunedol Penglais

 

Wedi'i lleoli ar ben y campws y tu ôl i adeilad undeb y myfyrwyr, mae Gardd Gymunedol Penglais yn gyrchfan i fyfyrwyr dyfu eu bwyd eu hunain, dysgu mwy am arddio a chysylltu ag eraill. 

O ddefnyddio coffi mâl fel compost o Ganolfan y Celfyddydau i basio sbarion bwyd ymlaen i Fwyd Dros Ben Aber, mae'r ardd gymunedol yn enghraifft o gynaliadwyedd a rhyng-gysylltedd rhwng myfyrwyr, staff a'r gymuned leol. Gyda thwnelau plastig, llawer o leiniau a deildy ar gyfer eistedd a myfyrio, mae'r ardd yn fan tyfu croesawgar a chyffrous i unrhyw un sydd eisiau cymryd rhan.

Hanes yr Ardd

Wedi'i ysgrifennu gan Cathy Beckham, cyd-sylfaenydd y gerddi cymunedol, mae Cathy yn myfyrio ar sut a pham y cafodd yr ardd ei sefydlu: 

"Yn ôl yn 2008, pan oeddwn i'n rhedeg y swyddfa wirfoddoli i fyfyrwyr, fe wnaethon ni sefydlu prosiect bwyd cydweithredol ar gyfer staff a myfyrwyr. Cynllun a gyflwynwyd gan Cymunedau yn Gyntaf oedd hwn ac roedd yn syniad syml iawn.

£3.00 y bag am fag o ffrwythau a oedd yn cynnwys afalau, orenau, gellyg a bananas.

£3.00 y bag am fag o lysiau a oedd yn cynnwys tatws, nionod, blodfresych, courgettes, moron.

Byddai cwsmeriaid yn talu eu £3.00 ac yn nodi'r hyn yr oeddent ei eisiau, a byddai archeb yn cael ei rhoi i’r gwerthwr llysiau lleol a fyddai wedyn yn dosbarthu'r eitemau yr wythnos ganlynol.

Rhedodd y cynllun hwn yn llwyddiannus iawn ac mae'n dal i fynd heddiw, ar y cyd â phrosiect Bwyd Dros Ben Aber.

Yn 2012, mynegodd un o'n gwirfoddolwyr ddiddordeb mewn tyfu llysiau y gellid eu gwerthu drwy'r prosiect bwyd cydweithredol. Cyflwynwyd cais am grant i CAVO a chawsom £5,000 i dalu am dwnnel plastig. Cytunodd Adran Ystadau'r Brifysgol y gellid defnyddio'r darn o dir y tu ôl i Undeb y Myfyrwyr, a dechreuodd y gwaith hwnnw fis Hydref. Gosodwyd gwelyau wedi'u codi a phlannwyd tatws, moron a chennin, ac adeiladwyd sied yr oedd mawr ei hangen. Yn fuan wedi hynny, denodd yr ardd sylw Jane Powell a oedd yn eiriolwr brwd dros dyfu cynnyrch lleol a dechreuodd ddatblygu'r ardd ynghyd â Marc Welsh.

Yna datblygodd yr ardd yn ardd gymunedol a thyfodd i fod yn ofod lle roedd pobl yn gallu dysgu am dyfu bwyd, mewn modd cyfeillgar i fywyd gwyllt drwy osgoi defnyddio cemegau a gwrteithiau artiffisial.

Mae gwirfoddolwyr yn cwrdd yn weddol rheolaidd, ar y rhan fwyaf o brynhawniau Mercher, ac mae’r llysiau’n cael eu cynaeafu ar sail 'a heuir a fedir' – wedi'u rhannu rhwng y gwirfoddolwyr. Caiff unrhyw gynhaeaf dros ben ei roi i brosiect bwyd cydweithredol Aber a Bwyd Dros Ben Aber."

Cymryd rhan

Os ydych chi'n awyddus i gymryd rhan, ymunwch â'n rhestr bostio i dderbyn diweddariadau ar sesiynau garddio.