Dechreuodd yr ardd yng Ngwanwyn 2022, gyda'r nod o ddilyn cyngor ymgyrch ‘Dig for Victory’ ar dyfu amrywiaeth o gnydau yn seiliedig ar gynllun cylchdro tair blynedd. Roedd y cnydau'n cynnwys nionod, ffa dringo a ffa llydan, tatws, pys, sbigoglys, moron, ac ysgewyll. Plannwyd amrywiaethau treftadaeth megis ffa Scott a letys George Richardson lle bo modd, yn unol â'r math o gynnyrch oedd ar gael ar y pryd. Cafodd y prosiect ei ddatblygu’n wreiddiol drwy brosiect Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol yr Adran Hanes a Hanes Cymru, Lleisiau’r Bobl yn Rhyfel y Bobl: Aberystwyth 1939-45, a chafodd gefnogaeth ychwanegol gan Ffermydd y Brifysgol a phrosiect garddio cymunedol Tyfu Dyfi.
Defnyddiwyd y tir yn wreiddiol ar gyfer pori defaid, felly roedd angen gwneud llawer i sicrhau bod modd defnyddio’r ardal fel gardd. Y dasg fwyaf cyn creu'r ardd oedd chwynnu, gan y gallai’r chwyn fod wedi cystadlu’n well na'r cnydau a blannwyd. Ers i'r plannu ddechrau, un o'r heriau mwyaf yw’r cwningod, gyda chnydau pys a ffa Ffrengig yn cael eu difa’n llwyr. Ers hynny, mae ffensys wedi'u gosod i gyfyngu mynediad i gwningod sy'n gobeithio cael pryd o fwyd hawdd!
Un o'r problemau mwyaf y mae'r grŵp wedi'i hwynebu yw'r gwrthddywediadau rhwng cyngor garddio yn y 1940au a'r cyfnod modern, yn enwedig defnyddio plaladdwyr cemegol sydd bellach wedi'u gwahardd megis chwistrell nicotin. Er ein bod eisiau dilyn cyngor 'Dig for Victory’ mor agos â phosibl, bu'n rhaid cydbwyso hyn â chyfreithiau a rheoliadau'r llywodraeth bresennol, yn ogystal â datblygiadau mwy diweddar mewn bioamrywiaeth ac ymchwil amgylcheddol. Felly, ysbrydolwyd yr ardd yn hytrach gan gyhoeddiad mwy proffwydol o gyfnod y rhyfel, sef maniffesto organig y Fonesig Eve Balfour The Living Soil (1943) ac mae wedi dewis opsiynau amgen mwy naturiol.