Cynulliadau Gwyrdd

Mae Cynulliadau Gwyrdd yn ardd sy'n cael ei datblygu, gyda'r nod o hyrwyddo manteision mannau gwyrdd ar iechyd ac i gysylltu aelodau'r gymuned leol trwy natur. Darllenwch fwy isod am fanylion, cynlluniau sydd ar ddod a sut i gymryd rhan.  

Disgrifiad

Gan ddechrau ym mis Mehefin 2023, datblygwyd Cynulliadau Gwyrdd trwy gyllid AaGIC fel prosiect garddio, gyda'r nod o ddangos effaith gadarnhaol mannau gwyrdd therapiwtig ar iechyd meddwl. Penderfynwyd ar yr enw 'Cynulliadau Gwyrdd' oherwydd natur gydweithredol y prosiect, gydag aelodau o asiantaethau statudol ac anstatudol lleol, defnyddwyr gwasanaeth, myfyrwyr, unigolion sy'n byw gydag anabledd dysgu, materion iechyd meddwl, plant lleol, meithrinfeydd, lleiafrifoedd ethnig, pobl agored i niwed ac unrhyw sefydliad lleol sy'n dilyn 'egwyddorion gwyrdd' ac a hoffai gymryd rhan.

Arweinir yr ardd gan Lisa Kinsella ac Asa Galeozzie, ar y cyd â gweithgor dan arweiniad myfyrwyr. Bydd yr adran nyrsio yn datblygu'r ardal ymhellach gyda myfyrwyr a defnyddwyr gwasanaeth yn ystod 3 blynedd o astudio’r myfyrwyr. Ar ôl y cyfnod hwn, bydd yr ardd yn cael ei throsglwyddo i ddarpar fyfyrwyr rhag-gofrestru i feithrin dealltwriaeth y myfyrwyr a darparu tystiolaeth ategol ar gyfer rhagnodi cymdeithasol gwyrdd.

Mae'r prosiect yn deillio o'r dystiolaeth sylweddol sy'n cefnogi manteision mannau gwyrdd a gerddi ar iechyd corfforol, cymdeithasol a meddyliol, gyda'r GIG yn cynnwys rhagnodi cymdeithasol yn swyddogol o fewn ei gynllun hirdymor. Nod Cynulliadau Gwyrdd yw creu man gwyrdd cwbl gynhwysol, tra'n cydweithio â'r gymuned leol a chynorthwyo lles.  Mae'r ardd yn gobeithio ysbrydoli, magu hyder a gwytnwch mewn eraill, ac ymdeimlad o berthyn i'r rhai sy'n teimlo'n ynysig yn y gymuned leol. Nod 'Cynulliadau Gwyrdd' yw rhannu manteision cadarnhaol niferus yr amgylchedd naturiol.

Y gobaith yw y bydd yr ardd yn darparu amgylchedd arloesol, addysgol a chydgynhyrchiol ym myd natur, lle mae gweithgareddau fel tyfu a chynaeafu planhigion bwytadwy, dosbarthiadau coginio awyr agored a chelf a chrefft yn cael eu hyrwyddo, tra'n darparu gofod awyr agored ar gyfer gwaith gwirfoddol, cyfarfodydd, ac fel ardal astudio sydd ar gael i unrhyw un yn y gymuned leol. Bydd y cynnyrch y bwriedir ei dyfu yn yr ardd yn cael ei ddefnyddio gan y gymuned a'i roi i elusennau bwyd lleol.

Bioamrywiaeth

Gan gysylltu â nodau bioamrywiaeth ehangach Prifysgol Aberystwyth, bydd bioamrywiaeth yn rhan annatod o'r ardd, drwy blannu coed a phlanhigion sy’n adnabyddus am ddenu bywyd gwyllt a pheillwyr, yn ogystal â chynlluniau i osod systemau bwydo. Bydd cyngor ar rywogaethau planhigion yn cael ei ddarparu drwy gynrychiolydd 'Cadwch Gymru'n Daclus‘, lle ystyrir ffactorau gan gynnwys math o bridd a rhywogaethau cyfredol sy'n bresennol yn ogystal â ffactorau ychwanegol i wella bioamrywiaeth.

Nodweddion gardd therapiwtig

Mae Cynulliadau Gwyrdd yn gweithio ar egwyddorion Cymdeithas Therapi Garddwriaethol America (AHTA) ar gyfer gardd therapiwtig.

Mae'r rhain yn cynnwys:

  1. Gweithgareddau wedi’u trefnu a’u rhaglennu - annog grwpiau lleol i gymryd rhan mewn creu'r prosiect, cynnig dosbarthiadau i dyfu cynnyrch ar y safle, yn ogystal â dosbarthiadau ychwanegol ar gyfer gweithgareddau coginio, ymlacio ac ymwybyddiaeth ofalgar. Bydd y gofod hefyd yn cael ei ddefnyddio fel gofod astudio i fyfyrwyr.
  2. Nodweddion wedi'u haddasu i wella hygyrchedd – Gwelyau wedi'u codi ar gyfer gwell mynediad at arddio a llwybrau llydan a diogel i ganiatáu mynediad i gadair olwyn/cymhorthion symud.
  3. Perimedrau wedi'u diffinio'n dda - Bydd ymylon yr ardd a pharthau arbennig o weithgareddau o fewn yr ardd yn cael eu dwysáu i ailgyfeirio sylw ac egni'r ymwelydd i'r cydrannau a'r arddangosfeydd yn yr ardd.
  4. Toreth o ryngweithio rhwng planhigion a phobl/planhigion – 4 tymor o symbyliad synhwyraidd, gan gyflwyno ymwelwyr i amgylcheddau awyr agored dwys wedi'u cynllunio.
  5. Amodau hynaws a chefnogol – amgylchedd diogel a chyfforddus i ymwelwyr, gan osgoi'r defnydd o gemegau a allai fod yn beryglus ac sy’n cynnig ardaloedd cysgodol a seddau.
  6. Dylunio Cyffredinol – wedi’i dylunio i roi’r mwynhad mwyaf ar gyfer yr ystod ehangaf o amodau.
  7. Creu Lleoedd y gellir eu hadnabod - Bydd yr ardd therapiwtig hon yn dilyn yr egwyddorion argymelledig o fod yn lle syml, unedig a hawdd ei ddeall

 

Lleoliad a Chysylltiadau

Mae'r ardd wedi'i lleoli yn y gofod y tu ôl i'r Ganolfan Addysg Gofal Iechyd, ardal laswellt yn wreiddiol gyda rhai coed.

I gael rhagor o wybodaeth neu os hoffech gymryd rhan, cysylltwch â: