Digwyddiadau – 2024
Gweler isod am ein digwyddiadau cynaliadwyedd 2024.
Mai Di Dor
Fis Mai eleni, bydd Prifysgol Aberystwyth yn cymryd rhan yn ymgyrch ‘Mai Di Dor’ Plantlife, ar y cyd â’r gwaith ehangach sy'n cael ei wneud gan y Brifysgol i hybu bioamrywiaeth.
Mis Cynaliadwyedd y Gwasanaeth Croeso – Mawrth
Gan mai mis Mawrth yw mis cynaliadwyedd, mae gwasanaethau lletygarwch PA yn cynnal digwyddiad cynaliadwyedd i helpu i annog lleihau ôl-troed carbon myfyrwyr, staff a Phrifysgol Aberystwyth gyfan.
Mae'r digwyddiadau hyn yn cynnwys:
- 4-10 Mawrth - Wythnos Cwpan Cadw: gyda 25% oddi ar bob diod poeth wrth brynu gan ddefnyddio eich cwpan cadw.
- 11-17 Mawrth - Wythnos olew palmwydd a phrynu moesegol, gyda stondinau'n esbonio'r system goleuadau traffig ar gyfer olew palmwydd a hyrwyddo RSPO
- 18-24 Mawrth - Wythnos Di-blastig, labelu pob plastig untro i dynnu sylw at y broblem.
Glanhad Miliwn o Filltiroedd
Ar 20 Mawrth, fe wnaethom gydlynu digwyddiad casglu sbwriel o amgylch Coed Penglais i gefnogi Glanhad Miliwn o Filltiroedd SAS.
Rhwng y grŵp, fe wnaethon ni gasglu 10kg o sbwriel o bob rhan o'r coetiroedd!
Y Cyfrif plastig mawr 11-17 Mawrth
Mae Undeb y Myfyrwyr yn cymryd rhan yn nigwyddiad cyfrif plastig Greenpeace!
I gymryd rhan, traciwch eich holl wastraff plastig am yr wythnos gan ddefnyddio'r daflen gyfrif sydd ar gael ar wefan Y Cyfrif Plastig Mawr neu ar wefan Undeb y Myfyrwyr.
Cyflwynwch eich canlyniadau erbyn 31 Mawrth i sicrhau eu bod yn cael eu cynnwys yn yr arolwg.
Yrfaoedd Gwyrdd
Cynaliadwyedd oedd y mater wrth wraidd GŵylYrfaoedd '24, gyda stondinau cynaliadwyedd yno drwy gydol yr wythnos a diwrnod cyfan wedi'i neilltuo i yrfaoedd gwyrddion.
Her Cynaliadwyedd
Dan arweiniad y siaradwraig wadd Traci Lewis, roedd yr her yn cynnwys cyfres o 'gwestiynau gweledigaethol' i brocio’r meddwl. Datblygodd mwy na 30 o fyfyrwyr mewn 7 grŵp eu hatebion trwy'r dull ‘Ymchwiliad Gwerthfawrogol’ yn ystod y bore.
Ar ddiwedd y sesiwn, lluniodd y cyfranogwyr gyflwyniadau i gynnig atebion i'r cwestiynau, gan ddangos creadigrwydd a dyfeisgarwch trwy gyflwyno eu syniadau trwy wahanol gyfryngau, gan gynnwys gemau, actio a cherddoriaeth.
Dilynwyd y sesiwn gan drafodaeth grŵp, lle cafodd awgrymiadau ac adborth y myfyrwyr ar gynaliadwyedd yn y brifysgol eu hystyried a'u trafod.
Sesiwn Holi ac Ateb ar Yrfaoedd Gwyrdd
Yn y prynhawn, roedd sesiwn holi ac ateb gydag unigolion a sefydliadau sy'n gweithio ym maes cynaliadwyedd, er mwyn helpu myfyrwyr i gael yr ysbrydoliaeth a'r wybodaeth i fynd ar drywydd gyrfa werdd. Roedd y panel yn cynnwys ysgogwyr newid a chyflogwyr lleol o amryw sectorau, gan gynnwys y rhai sydd wedi rhoi, yn rhan annatod o’u hamcanion gyrfaol a busnes: dileu tlodi, brwydro yn erbyn anghydraddoldebau, a diogelu'r amgylchedd
Plannu perllan dreftadaeth – Chwefror
I ddathlu Dydd Sant Teilo, helpodd disgyblion o 3 ysgol gynradd o amgylch Aberystwyth i blannu perllan dreftadaeth, gyda'r mathau Cymreig traddodiadol o goed afalau i gyd-fynd â phrosiect Gardd Hanes Byw Prifysgol Aberystwyth. Darllenwch fwy am y digwyddiad yma.
Diffodd dros y Dolig - Rhagfyr
Diffodd dros y Dolig
Cyn cau’r Brifysgol dros y Nadolig, sefydlwyd ymgyrch o gyfathrebu digidol i annog staff a myfyrwyr i ddiffodd pob dyfais electronig ac offer gwresogi cyn gadael eu llety neu swyddfeydd dros gyfnod yr Ŵyl.
Yn y cyfnod hwnnw, arbedwyd 60 tunnell o CO2 – sy’n cyfateb i 60 taith awyren o Lundain i Efrog Newydd!
P’nawn Plannu Coed
Ym mis Tachwedd 2023, trefnodd Undeb y Myfyrwyr a staff y brifysgol ddiwrnod gwirfoddoli i blannu coed i blannu cymysgedd o dderw, bedwen arian, collen a draenen wen wrth ymyl ein campws ar Fferm Penglais.
Plannwyd cyfanswm o 400 o goed, a dysgodd y gwirfoddolwyr sut i blannu coed yn ddiogel, a sicrhau bod y coed yn cael y cyfle gorau i ffynnu.
Darllenwch fwy am y diwrnod yma: Diwrnod Plannu Coed
EuroBioBlitz 2023
Mae EuroBioBlitz yn ddigwyddiad cofnodi bywyd gwyllt blynyddol sy'n cael ei gynnal ar draws Ewrop. Yn 2023, fe wnaethom ymuno â'r her a helpu i gofnodi data bywyd gwyllt safon ymchwil o amgylch Coedwig Penglais trwy daith dywys, gan gefnogi academyddion eraill ac annog myfyrwyr i ddysgu sut i adnabod bywyd gwyllt brodorol. Fe wnaethon ni helpu i ychwanegu llawer o arsylwadau at y 50,000 syfrdanol a wnaed ledled Ewrop! Gallwch weld yr arsylwadau ar Dudalen Prosiect EuroBioBlitz iNaturalist
Sgwrs Wythnos Croeso 2023
Rydym yn awyddus i hyrwyddo tryloywder o ran ein hymdrechion i fod yn gynaliadwy, oherwydd mae caniatáu i fyfyrwyr gymryd rhan a deall y prosesau gwneud penderfyniadau yn hanfodol i unrhyw amcanion amgylcheddol.
Dyma pam, ar ddechrau'r flwyddyn academaidd, y cyflwynodd y Dirprwy Is-Ganghellor Neil Glasser sgwrs sydd ar gael i bob myfyriwr, sy’n trafod dyheadau a chynlluniau sero net Aberystwyth.
Darllenwch y fersiwn PDF o'r Sgwrs Wythnos Croeso 2023Sgwrs Wythnos Croeso 2023