Staff Ac AD

Cysylltu â’r Tîm Cynaliadwyedd

Dewi Day – Cynghorydd Cynaliadwyedd, ded17@aber.ac.uk 

Jessica Farmer – Swyddog Cynaliadwyedd, jef38@aber.ac.uk

Yr Athro Neil Glasser – Dirprwy Is-Ganghellor, Cyfadran y Gwyddorau Daear a Bywyd (â chyfrifoldeb am Gynaliadwyedd), nfg@aber.ac.uk 

Yr Athro Tim Woods - Dirprwy Is-Ganghellor, Dysgu, Addysgu a Phrofiad y Myfyrwyr (gyda chyfrifoldeb am gynaliadwyedd yn y cwricwlwm), tww@aber.ac.uk

Claire Williams – Rheolwr Iechyd, Diogelwch a’r Amgylchedd, maw70@aber.ac.uk 

Sarah Hawkins - Swyddog Iechyd, Diogelwch a’r Amgylchedd, aih@aber.ac.uk

Llyr Jones - Cynghorydd Iechyd, Diogelwch a’r Amgylchedd, dlj10@aber.ac.uk 

Lee Pereira – Rheolwr Caffael (â chyfrifoldeb am Gaffael Cynaliadwy), lep27@aber.ac.uk

Tom Bates - Pennaeth Rheoli Adnoddau (â chyfrifoldeb am Reoli Gwastraff Cyffredinol), tgb@aber.ac.uk 

Ed Woodyet - Cydlynydd Rheoli Gwastraff (â chyfrifoldeb am Reoli Gwastraff Cyffredinol), edw14@aber.ac.uk

Jeremy Mabbutt – Pennaeth y Gwasanaethau Croeso (â chyfrifoldeb am Fwyd Cynaliadwy)jem11@aber.ac.uk 

Bayanda Vindamina - Llywydd Undeb y Myfyrwyr (gyda chyfrifoldeb am Gynaliadwyedd), supresident@aber.ac.uk

Ash Sturrock - Cydlynydd Ymgyrchoedd a Democratiaeth (Undeb y Myfyrwyr), ais13@aber.ac.uk

Gyrfaoedd Moesegol

Yn ddiweddar rydym wedi cyhoeddi ein Polisi Gyrfaoedd Moesegol (2024), sy’n gosod safonau a rheoliadau newydd ar gyfer y mathau o ddiwydiannau rydym yn cydweithio â nhw. Mae hyn yn cynnwys peidio â chynnal cysylltiadau mwyach na gweithio gyda:

  • Cwmnïau tanwydd ffosil, sy'n ymwneud yn benodol â glo a thywod tar
  • Cwmnïau Mwyngloddio – y 100 cwmni glo ar restr y Carbon Underground 200
    a'r 50 o gwmnïau mwyngloddio ar y rhestr Transition Mineral Mining 50
  • Cwmnïau tybaco a'r rhai sy'n cynhyrchu cynhyrchion yn seiliedig ar dybaco.

Mae'r polisi hefyd yn rhoi gwybodaeth am ein cydweithrediad â gwasanaethau gyrfaoedd trydydd parti. 

Dewch o hyd i'n polisi gyrfaoedd moesegol yma: Polisi Cyflogaeth Moesegol 

Dewch o hyd i staff y gwasanaeth gyrfaoedd yma: Staff y Gwasanaeth Gyrfaoedd

Hawliau Gweithwyr

Mae Prifysgol Aberystwyth wedi'i hachredu fel cyflogwr Cyflog Byw Gwirioneddol: Achrediad Cyflog Byw Gwirioneddol

Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i Fasnach Deg, ac yn cefnogi ac yn hyrwyddo polisi Masnach Deg yn barhaus: Polisi Masnach Deg Aberystwyth.

Gallwch ddarllen mwy am ein polisïau ar gyfer staff ar ein tudalennau Adnoddau Dynol, yma: Adnoddau Dynol: Gwybodaeth i Staff

Caffael Cynaliadwy

Electronics Watch

Mae Aberystwyth yn aelod o Gonsortiwm Pwrcasu Addysg Uwch Cymru (HEPCW), sy'n gysylltiedig â Chonsortiwm Pwrcasu Prifysgolion y De (SUPC); aelodau o Electronics Watch  

Mae'r brifysgol yn prynu trwy fframweithiau a reolir gan SUPC gan gynnwys gliniaduron, cyfrifiaduron bwrdd gwaith, gweinyddion a storfeydd cyfrifiadurol.

Rydym yn defnyddio'r cytundebau canlynol:

  • Cyfarpar Newydd Apple, Cytundeb Fframwaith Ategolion a Gwasanaethau Cysylltiedig-SUPC
  • Fframweithiau a reolir gan Gonsortiwm Pwrcasu Prifysgolion Llundain (LUPC) drwy ein haelodaeth o HEPCW  
  • Lansio fframwaith Cytundeb Cenedlaethol Cyfrifiaduron Bwrdd Gwaith a Nodiaduron (NDNA) - NWUPC
  • Cytundebau Gwasanaeth Masnachol y Goron (CCS)

Cynaliadwyedd mewn E-dendro 

Defnyddir asesiad risg cynaliadwyedd ar gyfer pob peth a brynir trwy ein gwefan e-dendro, gan sicrhau bod materion ynghylch cynaliadwyedd yn cael eu deall a'u rheoli.  

Darllenwch fwy am ein proses e-dendro yma.