Ffurflen Gwyno
Bydd angen cyflwyno’r ffurflen isod er mwyn uwchraddio cwyn i ‘Weithdrefn Cam 2’. Fel arfer dylid gwneud hyn o fewn 10 diwrnod gwaith y Brifysgol i ddiwedd y Cam cyntaf.
Fel rheol byddwch yn cael ymateb o fewn 10 diwrnod gwaith Prifysgol.
Rydym yn croesawu cwynion yn y Gymraeg neu’r Saesneg, ac ni fydd eich dewis ieithyddol yn arwain at oedi mewn derbyn ymateb.
Gellir cyflwyno cwynion hefyd trwy e-bost i is-ganghellor@aber.ac.uk neu trwy’r post i Swyddfa’r Is-Ganghellor, Prifysgol Aberystwyth, Y Ganolfan Ddelweddu, Penglais, Aberystwyth, SY23 3BF. Cofiwch gynnwys y wybodaeth y gofynnir amdani yn y ffurflen uchod wrth gyflwyno cwyn trwy e-bost neu’r post.