Ffilm drôn 150
DATHLU 150 MLYNEDD
Daeth cannoedd o gymuned y Brifysgol, yn staff a myfyrwyr, ynghyd i greu ffilm drôn i nodi ein pen-blwydd yn 150 oed.
Gwrandewch ar rai o'r unigolion a gymerodd ran.
-
Roedd yn wych bod yn rhan. Roedd pawb yn rhannu eu cariad am y Brifysgol a’u hatgofion gwahanol. Rwy’n hyderus bydd y Brifysgol yn parhau i roi cyfleoedd arbennig i'w myfyrwyr yng Nghymru a dros y byd, ac yn edrych yn barhaus i wella eu profiadau.
Gwenda Sippings (Cymdeithas y cyn-fyfyrwyr) -
Fe gawson nosweithiau di-gwsg yn gofidio am y tywydd, sut byddai’n edrych, pwy fyddai’n troi i fyny. Ond fel bob amser, mae’r staff am gefnogi ac am chwarae rhan weithredol wrth ddathlu hirhoedledd y brifysgol a gwerthfawrogi ei rôl yn y gymuned leol.
Siân Owen (Cydlynydd llun 150) -
Roedd hi’n wych cael bod yn rhan o hanes y brifysgol, atgof a bery byth. Rwy’n edrych ymlaen at gael cefnogi’r gwaith parhaus o wella profiad myfyrwyr trwy chwarae fy rhan yn y tîm sydd wrthi’n ddiwyd yn datblygu’r llety preswyl.
Adrian Sutton (Rheolwr llety preswyl) -
Braint oedd cael bod yn rhan o’r llun, roeddwn yn teimlo fy mod yn rhan o gofnod pwysig iawn yn hanes y Brifysgol. Mae’n Brifysgol arbennig iawn, sy’n gasgliad o unigolion o bob cwr o’r byd ac sydd hefyd yn hybu ac yn hyrwyddo’r Gymraeg a’i diwylliant.
Nannon Jones (Myfyrwraig) -
Roedd yn gyfle i ni ddod at ein gilydd ac i ddathlu 150. Ac er bod cofio’r gorffennol yn rhywbeth i’w drysori, roedd hefyd yn ein hatgoffa bod gennym ni ddyfodol cadarnhaol, a thrwy weithio gyda’n gilydd fe allwn adeiladu ar ein llwyddiannau.
Yr Athro Elizabeth Treasure (Is-Ganghellor) -
Fel aelod o gyngor y Brifysgol, ac yn bwysicach efallai, fel cynfyfyriwr, roeddwn wrth fy modd yn cael bod yn rhan o’r llun eiconig. A ninnau’n coffáu’r gorffennol, mae hefyd yn adlewyrchiad go iawn o lwyddiant a'n bod yn edrych yn barhaus i’r dyfodol.
Rhuanedd Richards (Aelod o Gyngor y Brifysgol)
Lluniau drôn 150
Gwyliwch fideo yma
Lluniau drôn isod