Sut y daeth y Brifysgol gyntaf yng Nghymru i fod

 

Mae gan Brifysgol Aberystwyth, y Brifysgol gyntaf i'w sefydlu yng Nghymru, draddodiad hir ac anrhydeddus o ddysgu ac ymchwilio. Mae hanes ei sefydlu yn y 19 ganrif yn un o'r straeon gorau o antur ac arloesi yn hanes Cymru Fodern. Fe'i sefydlwyd nid yn unig ar sylfaen yr egwyddor o gyflawniadau academaidd ond hefyd yr egwyddor o gynhwysiant, o agor ei drysau i bawb o ba gefndir bynnag.

Gwaith criw bach o Gymry gwlatgar ydoedd, ac o'r 1850au ymlaen fe lwyddodd, dan arweiniad Hugh Owen, Cymro yn byw yn Llundain, i godi digon o arian trwy danysgrifiadau cyhoeddus a phreifat i allu sefydlu coleg ag iddo statws prifysgol yng Nghymru. Prosiect anferth ei uchelgais, ond agorodd y Brifysgol ei drysau ym 1872, gyda llond dwrn o athrawon a dim ond 26 o fyfyrwyr ar y dechrau, yn yr hyn a oedd ar y pryd yn adeilad gwesty ar hanner ei godi - yr Hen Goleg - ar lan y môr.

Ers y dyddiau cynnar hynny, aeth Prifysgol Aberystwyth o nerth i nerth ac mae ganddi bellach dros 8,000 o fyfyrwyr a 2,000 o staff. Wrth i'r sefydliad dyfu, symudodd y prif gampws o'r Hen Goleg ger y lli i safle ar Riw Penglais. Mae gan y campws braf hwn, sy'n cynnwys Canolfan wych i'r Celfyddydau a fydd yn dathlu ei 50fed pen blwydd yn 2022, olygfa drawiadol dros dref farchnad hanesyddol Aberystwyth ac arfordir Bae Ceredigion. Mae yma adeiladau newydd, sy'n cynnwys datblygiadau mawr yn y celfyddydau a'r gwyddorau, neuaddau preswyl a chyfleusterau chwaraeon o'r radd flaenaf.

Mae'r Hen Goleg yn dal yn rhan hanfodol o'r Brifysgol ac mae'r gwaith o adnewyddu'r adeilad yn llwyr, ynghyd â'r adnewyddu a wnaed i Neuadd Pantycelyn a ail-agorwyd yn ddiweddar, yn arwyddion diriaethol o adfer a datblygu cyffrous. Mae hyn i gyd, ynghyd â'r gwaith o ddatblygu rhaglenni gradd a chanolfannau ymchwil newydd, er enghraifft nyrsio, milfeddygaeth a Champws Arloesi a Menter Aberystwyth, i gyd yn darlunio prifysgol sy'n awyddus i gofleidio'r ganrif a hanner nesaf.