150 Mlwyddiant
Canrif a hanner o dreftadaeth academaidd
Yn 2022, bydd 150 o flynyddoedd wedi mynd heibio ers sefydlu Prifysgol Aberystwyth - prifysgol gyntaf Cymru - ym 1872.
Byddwn yn dathlu trwy gydol 2022 a 2023 gyda chyfres o ddigwyddiadau a gweithgareddau arbennig yng Nghymru ac ym mhob cwr o'r byd i ddathlu ein cyfraniad.
150 mlynedd ers ei sefydlu, mae Prifysgol Aberystwyth heddiw’n sefydliad gwirioneddol fyd-eang. Rydym yn cynnal ymchwil sy’n arwain y byd ac yn gwthio ffiniau mewn ffyrdd na fyddem wedi breuddwydio amdanynt ym 1872, a daw myfyrwyr yma o bell ac agos yma i ddatblygu eu hastudiaethau a’u gyrfaoedd.
Fel prifysgol nid ydym erioed wedi sefyll yn ein hunfan, gan ddatblygu’n gyson, wrth i ni ymateb i’r heriau newydd a chyfnewidiol y mae cymdeithas yn eu hwynebu. Ac eto, rwy’n falch ein bod wedi parhau’n driw i’r egwyddor arweiniol o gynhwysiant a oedd yn sbardun mor amlwg i’r rhai a sefydlodd brifysgol gyntaf Cymru yma ganrif a hanner yn ôl.
Yn ystod y penblwydd arwyddocaol hwn, byddwn yn dod â bywyd newydd i’r Hen Goleg, ein cartref hanesyddol. Mae'r adeilad eiconig hwn yn ein tref glan môr hardd yn symbol oesol o'n gorffennol a'n dyfodol.
Rydym yn eich croesawu ac yn diolch ichi am fod yn rhan o’r dathliadau hyn gyda ni.
Yr Athro Elizabeth Treasure, Is-Ganghellor