Pa sgiliau sydd gen i?

Mae gen i sgiliau. Oes angen i mi ddysgu mwy ar gyfer y Brifysgol?

P'un a ydych yn fyfyriwr prifysgol newydd, sy'n dychwelyd, neu yn fyfyriwr presennol, mae rhai sgiliau hanfodol yn hollbwysig ar gyfer eich llwyddiant.

Mae sgiliau academaidd yn hanfodol ar gyfer dysgu effeithlon, gan wasanaethu fel sgiliau bywyd gwerthfawr. 

Sgiliau academaidd yw'r sgiliau sydd eu hangen arnoch i wneud yn dda yn y brifysgol. Mae'r rhain yn cynnwys sgiliau fel gwybod sut i ddod o hyd i wybodaeth berthnasol neu ddeunydd i ateb eich aseiniadau, meddwl yn feirniadol, a gallu esbonio'ch meddyliau mewn ffordd glir. Nid yw'r sgiliau hyn yn ddefnyddiol yn y brifysgol yn unig, byddant yn eich helpu yn eich cyflogaeth yn y dyfodol.

Y prif wahaniaeth rhwng y brifysgol a'r mathau blaenorol o astudio yw'r angen i drefnu ac ysgogi eich hun i astudio yn ystod amser di-gyswllt. Fel myfyriwr prifysgol, mae'n rhaid i chi gymryd rheolaeth o'ch dysgu. Mae bod yn ddysgwr annibynnol yn golygu bod yn rhagweithiol, rheoli eich llwyth gwaith, a chwrdd ag ymrwymiadau a therfynau amser.

Gan mai dim ond tua 20% o'ch cwrs sy'n cynnwys 'amser cyswllt' mewn darlithoedd, seminarau neu diwtorialau, dylech ddefnyddio'r 80% sy'n weddill i ddatblygu eich astudiaethau'n annibynnol. Mae hyn yn cynnwys darllen, paratoi ar gyfer darlithoedd, trefnu nodiadau, ysgrifennu aseiniadau, a dilyn ymlaen ar ddysgu.

Mae meistroli'r sgiliau hyn yn allweddol i lwyddiant yn eich astudiaethau.

Beth yw dysgu annibynnol?

Ar lefel prifysgol, mae'n hanfodol bod myfyrwyr yn cymryd rheolaeth o'u haddysg a mabwysiadu rôl dysgwyr annibynnol.

Mae hyn yn golygu cymryd cyfrifoldeb am eu gweithgareddau dysgu, bod â'r hyder i wneud penderfyniadau gwybodus, aros yn llawn cymhelliant, a deall pwysigrwydd myfyrio ar eu proses ddysgu er mwyn sicrhau ei heffeithiolrwydd. Mae'r canllawiau canlynol yn cynnig argymhellion ar gyfer trosglwyddo'n llwyddiannus i ddysgu annibynnol.

Beth yw dysgwr annibynnol?

Mae dysgwr annibynnol yn cymryd cyfrifoldeb am ei addysg ac yn chwilio am wybodaeth yn rhagweithiol, yn hytrach na dibynnu'n unig ar ddarlithwyr, gwerslyfrau neu adnoddau eraill. Ni ddylai dysgwyr annibynnol fod angen arweiniad parhaus, disgwyl i'r holl wybodaeth gael ei darparu, neu fod angen monitro eu gwaith yn gyson. Mae dysgu annibynnol- a elwir hefyd yn 'ddysgu hunangyfeiriedig' neu 'ddysgu ymreolaethol' - yn hanfodol ar gyfer cyflogadwyedd, astudiaeth ôl-raddedig, a dysgu gydol oes. 

Mae bod yn ddysgwr annibynnol yn golygu cymryd gofal o'ch ymchwil, dewis ac asesu eich adnoddau yn ofalus, a ffurfio eich casgliadau eich hun yn seiliedig ar yr hyn rydych chi'n ei ddysgu, boed o'ch darlleniadau neu ryngweithio â thiwtoriaid.

Mae'n hanfodol egluro nad yw dysgu annibynnol yn awgrymu gweithio ar eich pen eich hun. Mae'n cynnwys darganfod y dulliau sy'n gweddu orau i chi a chymhwyso'r ddealltwriaeth honno. Gallai hyn olygu neilltuo amser tawel, personol, ond gall hefyd olygu ceisio cymorth gan gyd-fyfyrwyr yn eich cwrs neu lety wrth wynebu heriau.

Beth mae'n ei olygu i ddysgu yn y brifysgol?

Bydd disgwyl i chi ddatblygu eich sgiliau dysgu annibynnol o ddechrau eich astudiaethau a manteisio ar bob cyfle i ymarfer a gwella'r sgiliau hyn.

Mae dysgu yn y dosbarth, fel darlithoedd, tiwtorialau, neu labordai, ond yn rhan o'ch addysg prifysgol. Bydd angen i chi gymryd rhan mewn astudiaeth annibynnol helaeth, sy'n cynnwys cymryd nodiadau, darllen, cwblhau asesiadau, a pharatoi ar gyfer arholiadau.

Gall dysgu annibynnol gynnwys:

  • Cwblhau tasgau a darllen cyn eich darlith nesaf 
  • Adolygu cynnwys darlithoedd a sicrhau bod gennych nodiadau clir
  • Gweithio ar aseiniadau unigol neu grŵp y tu allan i oriau darlithoedd

Datblygu dysgu annibynnol

Pan fyddwch chi'n ceisio darganfod pethau ar eich pen eich hun, gall fod ychydig yn frawychus ar y dechrau. Gallai rhai o'r rhesymau dros hyn gynnwys:

  • poeni am wneud camgymeriadau neu beidio â deall cyfarwyddiadau
  • teimlo'n bryderus am golli gwybodaeth bwysig yn eich darlleniadau
  • cael trafferth mynd trwy llawer o wybodaeth
  • yn teimlo eich bod wedi eich llethu gan bopeth newydd rydych chi'n ei ddysgu

Ond peidiwch â phoeni, gydag ychydig o ddyfalbarhad a menter, gallwch fynd i'r afael â'r heriau hyn:

  • Gofynnwch gwestiynau penodol i glirio unrhyw ddryswch
  • Rhowch ddigon o amser i'ch hun i ddarllen a deall cysyniadau allweddo
  • Dowch o hyd i ffordd i drefnu'r holl wybodaeth
  • Rheolwch eich amser yn effeithiol drwy dorri aseiniadau i mewn i dasgau llai
  • Myfyriwch ar adborth, dysgwch o bethau, ac addaswch eich dull gweithredu
  • Gallwch wella eich sgiliau academaidd drwy edrych ar ganllawiau fel yr un yma, trefnu apwyntiadau 1:1 neu ewch i sesiynau galw-heibio, neu fynychu gweithdai sgiliau. 

Sgiliau ar gyfer dysgu annibynnol

I fod yn ddysgwr annibynnol, dylech ddatblygu'r sgiliau canlynol:

  • Trefnu a rheoli eich amser yn dda
  • Gwella eich sgiliau darllen a chymryd nodiadau
  • Cymerwch amser i hunanfyfyrio a chynllunio ar gyfer twf personol

Fel myfyriwr, mae hyn yn cynnwys meistroli sut i:

  • Sefydlu eich nodau eich hun
  • Adnabod a gwerthuso adnoddau priodol
  • Cymryd cyfrifoldeb am fynychu pob agwedd ar eich astudiaethau a dal i fyny pan fo angen
  • Monitro a rheoli eich amser a symud ymlaen yn onest ac yn effeithiol
  • Cwblhau aseiniadau sy'n bodloni meini prawf asesu o fewn terfynau amser

Sgiliau ar gyfer dysgu annibynnol

Rhestr wirio: Pa sgiliau sydd gen i?

Mynd i'r testun yn unig

Mwy o wybodaeth: https://www.aber.ac.uk/cy/aberskills/

 

Pa sgiliau sydd gen i?

Yn ystod eich amser yn y Brifysgol, byddwch yn datblygu sgiliau academaidd, astudio a phroffesiynol gwerthfawr a throsglwyddadwy a fydd yn cefnogi eich dysgu a'ch gyrfa yn y dyfodol.

Sgiliau academaidd yw'r sgiliau rydych chi'n eu defnyddio bob dydd fel myfyriwr. Felly os ydych chi'n meddwl am ba sgiliau sydd gennych eisoes neu beth ddylech chi ganolbwyntio arnyn nhw, edrychwch ar ein rhestr ac awgrymiadau ar sut i'w datblygu.

1. Sgiliau ysgrifennu

Mae ysgrifennu academaidd effeithiol yn fwy na dim ond rhoi eich meddyliau lawr ar bapur; mae'n gofyn i chi fod yn fanwl gywir, meddwl yn feirniadol, a defnyddio arddull academaidd. Mae angen i chi allu cyfathrebu'n glir, trefnu gwybodaeth mewn ffordd resymegol a chefnogi eich pwyntiau gyda thystiolaeth. Mae'n bwysig bod yn glir, dadansoddi pethau'n ofalus, a chael dull strwythuredig.

2. Sgiliau darllen

Mae darllen beirniadol yn cynnwys dadansoddi a gwerthuso deunyddiau ysgrifenedig fel gwerslyfrau, erthyglau ac adnoddau academaidd eraill. Mae hyn yn cynnwys asesu amcanion awduron, nodi rhagfarnau, a gwerthuso hygrededd y dystiolaeth a ddarparwyd. Y nod yw gwella eich dealltwriaeth a'ch gwybodaeth yn hytrach na chofio gwybodaeth yn unig. Cymerwch nodiadau effeithiol i drefnu a dod o hyd i wybodaeth berthnasol yn hawdd.

3. Sgiliau meddwl beirniadol

Er mwyn deall a gwneud synnwyr o wybodaeth yn iawn, mae'n rhaid i chi weithio ar eich sgiliau meddwl beirniadol. Mae hyn yn cynnwys cwestiynu, archwilio tystiolaeth, a ffurfio barn a chasgliadau annibynnol yn hytrach na derbyn gwybodaeth fel ag y mae. Mae bod yn feirniadol yn golygu mwy na dim ond adrodd gwybodaeth o ddarlithoedd neu lenyddiaeth. Byddwch yn llunio beirniadaeth am dystiolaeth i ffurfio eich barn eich hun ac i gyflwyno eich barn yn glir.

4. Sgiliau cymryd nodiadau

Nid oes gan gymryd nodiadau ddull cywir nac anghywir. Serch hynny, fe'ch cynghorir i gadw nodiadau cryno ac i'r pwynt. Nid yw ceisio trawsgrifio pob manylyn yn cynnig unrhyw fantais; yn hytrach, dylai eich nodiadau ddal y cysyniadau allweddol a'r pwyntiau arwyddocaol rydych chi wedi'u cydnabod.

5. Sgiliau digidol

Mae'r gallu wrth ddefnyddio technoleg yn hanfodol ar gyfer cyrchu gwybodaeth, cydweithio â chyfoedion, a chwblhau gwaith cwrs. Gallwch ddatblygu eich sgiliau digidol gyda chyrsiau LinkedIn Learning, apwyntiadau 1:1 a sesiynau galw heibio wythnosol gyda'r Tîm Sgiliau Digidol.

6. Sgiliau cyfeirnodi

Mae angen i chi gydnabod gwaith pobl eraill yn eich gwaith eich hun drwy gyfeirnodi. Mae cyfeirnodi yn sgil y byddwch chi'n ei datblygu po fwyaf y byddwch chi'n ei wneud! Cymerwch ychydig o amser yn darllen y canllaw Ymwybyddiaeth Cyfeirnodi a Llên-ladrad a dilynwch eich canllawiau arddull cyfeirnodi adrannol.

7. Sgiliau rhifedd

Mae sgiliau mathemateg, ystadegau a rhifedd yn berthnasol i lawer o feysydd pwnc, nid cyrsiau mathemateg a gwyddoniaeth yn unig. Mae sgiliau rhifedd yn hanfodol yn y rhan fwyaf o yrfaoedd. Diweddarwch eich sgiliau rhifedd gyda sesiynau galw-heibio ac apwyntiadau 1:1 er mwyn datblygu'r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer eich cwrs presennol a thu hwnt.

8. Sgiliau cyflwyno

Mae cyflwyniadau yn fath cyffredin o asesu, fel gweithgaredd unigol neu grŵp. Mae cyflwyno syniadau gydag eglurder a hyder yn helpu i hybu hyder ac yn dyfnhau dealltwriaeth o'r pwnc. Mae'r sgiliau hyn yn werthfawr ar gyfer cyfleu meddyliau yn effeithiol a phan yn gweithio mewn lleoliadau proffesiynol.

9. Sgiliau cyfathrebu

Mae sgiliau cyfathrebu yn cynnwys mynegiant clir a chryno wrth siarad ac ysgrifennu, yn ogystal â gwrando'n weithredol a chydweithio ag eraill. Mae prosiectau grŵp a gweithio gydag eraill yn gyffredin, felly mae cyfathrebu'n dda yn chwarae rhan allweddol

10. Sgiliau gwrando gweithredol

Mae gwrando gweithredol yn golygu canolbwyntio'n wirioneddol ar yr hyn y mae'r siaradwr yn ei ddweud a gofyn cwestiynau i sicrhau eich bod yn deall yn iawn. Mae rhai awgrymiadau defnyddiol i wneud hyn yn cynnwys cymryd nodiadau, gwneud cysylltiadau, rhoi gwybodaeth at ei gilydd, a dod i gasgliadau.

11. Sgiliau ymchwilio

O ddod o hyd i ffynonellau perthnasol a'u dadansoddi'n feirniadol i roi'r holl wybodaeth at ei gilydd, mae cael sgiliau ymchwil cryf yn allweddol. A gadewch i ni beidio ag anghofio gallu llywio gwahanol gronfeydd data, peiriannau chwilio, ac arddulliau cyfeirnodi - mae hynny i gyd yn rhan o feddu ar sgiliau ymchwil da.

12. Sgiliau astudio

Mae astudio effeithiol yn amrywio ar gyfer pob person. Mae'n hanfodol darganfod eich amser a'ch dull gorau posibl, p'un a yw'n sesiynau cramio munud olaf neu sesiynau wedi'u trefnu. Datblygwch sgiliau astudio drwy osod nodau, creu amserlen, a defnyddio strategaethau fel cymryd nodiadau a hunan-brofi. Dewch o hyd i'r hyn sy'n addas i chi.

13. Sgiliau rheoli amser

Mae rheoli eich amser yn bwysig yn y Brifysgol. Gyda gwahanol gyrsiau, aseiniadau a gweithgareddau, gall aros ar ben popeth fod yn dipyn o her. Arhoswch yn drefnus drwy osod blaenoriaethau, creu amserlen, a thorri tasgau yn ddarnau llai. Mae'r dull hwn yn ei gwneud hi'n haws delio â'ch llwyth gwaith.

Rwyf am wella'r sgiliau hyn. Lle gallaf ddod o hyd i gefnogaeth?

Ewch i SgiliauAber!

Gall SgiliauAber eich helpu i adnabod, datblygu a mireinio eich sgiliau gyda:

  • gweithdai sgiliau
  • apwyntiadau 1:1
  • sesiynau galw-heibio
  • canllawiau, arweiniad a gwybodaeth ddefnyddiol
  • deunydd cymorth a llawer mwy!

Mwy o wybodaeth: https://www.aber.ac.uk/cy/aberskills/

Sut gallaf wella fy sgiliau academaidd?

Darganfyddwch wybodaeth i'ch helpu a'ch tywys i wella eich sgiliau academaidd ar SgiliauAber!

Mae'r platfform hwn yn cynnig siop un-stop ar apwyntiadau 1:1 wedi'u personoli, cyngor unigol, adnoddau wedi'u haddasu, gweithdai sgiliau gyda'r nod o'ch cynorthwyo i ddatblygu'r sgiliau academaidd hanfodol sydd eu hangen arnoch... a llawer mwy!

Mae'r timau sy'n ymwneud â SgiliauAber yn ymroddedig i'ch cynorthwyo i ddeall, dysgu ac asesu ar lefel prifysgol. Maent wedi ymrwymo i ddarparu cymorth i'ch helpu i gyflawni eich potensial llawn yn eich astudiaethau academaidd a thu hwnt.

Gyda SgiliauAber, fe welwch gefnogaeth, arweiniad a chyngor i wella eich gwybodaeth, sgiliau academaidd ac astudio trwy bob cam o'ch taith academaidd.

Mae'r rhain yn cynnwys: