Cyfeirnodi

Pwysigrwydd sgiliau cyfeirnodi

Mae sgiliau cyfeirnodi yn rhan bwysig a hanfodol o ysgrifennu academaidd. 

Mae angen i chi gyfeirinodi neu gydnabod y ffynonellau rydych wedi'u defnyddio ac ymgynghori â nhw yn eich gwaith ysgrifenedig a rhaid gwneud hyn yn gywir ac yn gyson. Mae cyfeirnodi a dyfynnu cywir hefyd yn caniatáu i ddarllenydd eich gwaith adnabod yn hawdd y ffynonellau hynny a ddefnyddir yn eich gwaith a dilyn i fyny arnynt os oes angen. Mae'n arfer academaidd da cydnabod y cyfraniadau y mae eraill wedi'u gwneud i'ch gwaith.

Cyfeirnodi - y pethau sylfaenol

Beth sydd angen i chi gyfeirnodi?

Gall gwybodaeth ar gyfer eich aseiniad ddod o ystod eang o ffynonellau, gan gynnwys llyfrau, penodau, cyfnodolion, erthyglau, gwefannau, data, syniadau, delweddau, cerddoriaeth, cod cyfrifiadurol a phapurau newydd i enwi ond ychydig.

Bob tro y byddwch yn defnyddio gwaith pobl eraill, bydd angen i chi gyfeirnodi. Yn dibynnu ar y math o ddeunydd, bydd angen enw'r awdur arnoch; blwyddyn cyhoeddi; teitl y bennod neu'r erthygl; enw'r llyfr neu'r cyfnodolyn; enwau golygyddion os yw'n eitem wedi'i golygu; cyfrol cyfnodolyn a rhifyn; y cyhoeddwr a'r man cyhoeddi ac os yw'n llyfr ar-lein bydd angen i chi gynnwys y DOI neu Digital Object Identifier. Mae hwn yn nodi erthygl, llyfr, neu adnodd arall gyda chyfuniad parhaol ac unigryw o rifau a llythrennau ac yn edrych yn debyg i hyn: https://doi.org/10.3390/jcdd10030126 

Cydnabyddiaethau neu chyfeiriadau?

Mae cydnabod neu ddefnyddio cydnabyddiaethau yn dynodi'r ffynonellau hynny rydych wedi'u defnyddio yn nhestun eich aseiniad - fersiwn gryno o'r manylion cyfeirio ar yr adeg y mae'n cael ei drafod yn eich gwaith. Ceir gwahanol ddulliau o gydnabod yn nhestun eich aseiniad at y ffynonellau a ddefnyddiwyd gennych.  Gellir gwneud hyn trwy:

Wrth gynnwys cydnabyddiaeth ynghanol y testun byddwch yn rhoi manylion cryno am y ffynhonnell yr ydych yn cyfeirio ati.

Rhaid cydnabod unrhyw beth nad yw'n wybodaeth gyffredinol. Bydd y cydnabyddiaethau yn caniatáu i'r sawl sy'n darllen eich aseiniad ddod o hyd i fanylion llawn y ffynhonnell rydych wedi'i defnyddio yn y rhestr gyfeirio neu'r llyfryddiaeth sydd wedi'i lleoli ar ddiwedd eich gwaith.

Cyfeirnodi yw manylion llyfryddiaethol llawn rydych wedi'i ddefnyddio yn eich gwaith. Yn nodweddiadol, mae cyfeiriadau eich holl cydnabyddiaethau yn cael eu coladu ar ddiwedd eich darn o waith. 

Pryd mae angen i chi gyfeirnodi?

P'un a ydych chi'n dyfynnu'n uniongyrchol o lyfr gan ddefnyddio dyfynodau dwbl, crynhoi pwyntiau allweddol o erthygl mewn cyfnodolyn neu aralleirio syniadau awdur arall, bydd angen i chi gydnabod a chyfeirio i'w gwneud yn glir ble y daeth y syniad.

Pam mae angen i chi gyfeirnodi?

Eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau bod eich cydnabyddiaethau a'ch cyfeiriadau yn gywir ac yn ddigonol. Os nad ydych yn cydnabod neu'n cyfeirnodi, bydd hyn yn rhoi'r argraff mai eich gwaith eich hun ydyw pan mai gwaith rhywun arall yw hwn mewn gwirionedd - llên-ladrad yw hwn. 

Llên-ladrad a Deallusrwydd Artiffisial

Beth yw llên-ladrad?

Y diffiniad o lên-ladrad yw defnyddio gwaith rhywun arall a'i gyflwyno gan honni mai eich gwaith eich hun ydyw. Mae enghreifftiau o lên-ladrad yn cynnwys

  • dyfynnu heb ddefnyddio dyfynodau
  • copïo gwaith rhywun arall
  • cyfieithu gwaith rhywun arall heb gydnabod hynny
  • aralleirio neu addasu gwaith rhywun arall heb gydnabod hynny'n gywir
  • defnyddio deunydd wedi'i lawrlwytho o'r rhyngrwyd heb gydnabod hynny
  • defnyddio deunydd a gafwyd gan fanc traethodau neu asiantaethau tebyg
  • cyflwyno gwaith a gynhyrchwyd gan Ddeallusrwydd Artiffisial fel eich gwaith eich hun

Llên-ladrad yw’r defnydd heb ei gydnabod o ddeunydd a gymerwyd o ffynonellau eraill (boed ar y rhyngrwyd neu mewn print). Mae hyn yn arfer academaidd annerbyniol a gall arwain at gosbau marciau. Mae Prifysgol Aberystwyth yn defnyddio system gosb ar sail pwyntiau ar gyfer achosion o arfer annerbyniol: YAA System seiliedig ar bwyntiau : Cofrestrfa Academaidd , Prifysgol Aberystwyth

Llên-ladrad yw'r math mwyaf cyffredin o ymddygiad academaidd annerbyniol a gall fod yn drosedd ddifrifol, yn enwedig pan fydd yn digwydd yn helaeth a/neu dro ar ôl tro mewn gwaith myfyrwyr.

Canlyniadau llên-ladrad

Mewn achosion difrifol iawn, efallai na fydd myfyrwyr ar gyrsiau yn gallu cwblhau eu cwrs astudio neu y byddant yn cael eu diarddel o’r brifysgol, a gellir methu traethodau ymchwil myfyrwyr ymchwil.  Ar ben hyn, gallai myfyrwyr fod yn anghymwys i gael achrediad proffesiynol - e.e. aelodaeth Cymdeithas y Gyfraith.

Fe welwch ragor ynglŷn â diffiniad y Brifysgol o Ymddygiad Academaidd Annerbyniol yn:  https://www.aber.ac.uk/cy/academic-registry/handbook/regulations/uap/ 

Llên-ladrad a Deallusrwydd artiffisial

Mae canllawiau'r Brifysgol yn nodi bod "cyflwyno gwaith a gynhyrchir gan AI fel pe bai'n waith eich hun" yn fath o lên-ladrad ac felly'n gyfystyr ag arfer academaidd annerbyniol. Ceir manylion llawn am ganllawiau'r Brifysgol ar arfer annerbyniol yma.

Dulliau cyfeirnodi

Nid yw Prifysgol Aberystwyth yn hyrwyddo un dull arbennig o gyfeirnodi gan fod rhai dulliau'n fwy addas i ddisgyblaeth neu bwnc penodol nac eraill. Felly bydd gan bob adran unigol ei dewis ddull ei hun o gyfeirnodi.

Mewn rhai adrannau'r Brifysgol, cewch ddefnyddio unrhyw ddull cyfeirnodi o'ch dewis - ond cysoneb yw'r allwedd.  Yn hynny o beth, oni bai eich bod yn cael cyfarwyddyd gwahanol gan aelod staff, gallwch ddefnyddio pa ddull cyfeirnodi bynnag a ddewiswch, cyhyd â'ch bod yn fformatio cydnabyddiaethau a rhestrau cyfeirnodi yn gyson. Rhaid ichi roi gwybodaeth lyfryddiaethol gyflawn, digon i'r darllenydd allu dod o hyd i'r cyfeirnod mewn llyfrgell neu ar-lein.

Prif ddulliau cyfeirnodi a ddefnyddir ym Mhrifysgol Aberystwyth yw Harvard, APA, MHRA, MLA, IEEE, IOP a Footnote/Endnote. Gall pob adran neu athrofa argymell un neu fwy o'r canllawiau arddull hyn.

Noder: efallai y bydd amrywiadau bach ymhlith fersiynau gwahanol o'r un dull cyfeirio, yn enwedig, er enghraifft, gyda Harvard, nad oes ganddo un fersiwn swyddogol, diffiniol.

Ddim yn siŵr sut i gydnabod yn eich aseiniad? Pa ddull cyfeirnodi i'w ddefnyddio? 

Mae'r LibGuide Ymwybyddiaeth ynglŷn â Chyfeirnodi a Llên-ladrad yn darparu gwybodaeth ac enghreifftiau manwl ar sut i gydnadod a chyfeirnodi llyfrau, cyfnodolion, erthyglau, gwefan, delweddau a llawer mwy:

  • Pa ddull cyfeirnodi i'w ddefnyddio?
  • Pan fyddwch wedi mabwysiadu arddull benodol, byddwch yn gyson â chynllun, trefn gwybodaeth ac atalnodi.
  • Gwiriwch eich modiwlau yn Blackboard ac adnoddau gwybodaeth eraill yn eich adran i ddod o hyd i'ch canllaw cyfeirio argymelledig. Cyfeiriwch bob amser at eich llawlyfr adrannol am gyngor neu arweiniad pellach ar gyfeirnodi.  

Canllawiau cyfeirio swyddogol

Mae'r canllawiau swyddogol ar gyfer y steiliau cyfeirnodi gwahanol ar gael isod, ond dylech yn gyntaf ymgynghori â'ch canllaw adrannol.

Gall y canllawiau hyn fod yn fanwl iawn ac yn helaeth. Ar gyfer y rhan fwyaf o aseiniadau, dim ond y nodweddion mwyaf cyffredin sy'n cyfeirio at y dogfennau craidd a'r wybodaeth a ddisgwylir gan eich adran y bydd eu hangen arnoch. Os na allwch ddod o hyd i enghreifftiau o sut i gydnabod a chyfeirnodi at adnoddau yn eich canllaw adrannol, yna gall canllawiau swyddogol fod yn ddefnyddiol iawn.

Canllaw cyfeirnodi ac ymwybyddiaeth o lên-ladrad

Dysgwch fwy am sut i gyfeirnodi'n gywir at yr holl ffynonellau gwybodaeth rydych chi'n eu defnyddio yn eich gwaith, yn ogystal â sylweddoli beth yw canlyniadau methu â chydnabod y ffynonellau hyn.

Ar ôl i chi fynd drwy'r canllaw hwn, rhowch gynnig ar y cwis a fydd yn cymryd tua 15 munud i'w gwblhau:

Offer rheoli cyfeirnodi

Rydych chi wedi ysgrifennu eich aseiniad. Ond sut ydych chi'n cadw trefn ar eich holl gyfeiriadau a gwneud yn siŵr eich bod yn dilyn eich dull cyfeirio yn gyson? 

Ceisiwch fynd i'r arfer o storio'r cofnodion ar gyfer y ffynonellau gwybodaeth a ddefnyddiwch fel nad oes rhaid i chi ddyblygu'ch gwaith na threulio amser gwerthfawr yn chwilio amdanynt eto pan fyddwch chi'n creu eich rhestr gyfeirio neu lyfryddiaeth. 

Mae yna offer ar-lein sy'n eich galluogi i allforio canlyniadau chwilio i feddalwedd rheoli cyfeirnodi. Yn syml, mae'r offer hyn yn storio gwybodaeth lyfryddiaethol yn electronig mewn 'llyfrgell' ac yn eich galluogi i:

  • allforio cyfeiriadau yn uniongyrchol o beiriannau chwilio, catalogau llyfrgell a chronfeydd data at y rheolwr cyfeirio a ddewiswyd
  • storio ffeiliau PDF testun llawn os ydynt ar gael gyda'r cyfeiriadau perthnasol fel nad oes rhaid i chi ddod o hyd i'r fersiwn testun llawn eto
  • dyfynnu cyfeiriadau yn eich dull cyfeirio o'ch dewis

Efallai eich bod wedi clywed neu yn defnyddio am y meddalwedd / offer rheoli cyfeirio hyn: EndNote, Mendeley neu Zotero.

Archwiliwch sut y gall yr offer hyn eich helpu

EndNote

Cefnogir EndNote gan y Brifysgol a gallwch gysylltu â'ch Llyfrgellydd Pwnc ar gyfer hyfforddiant Endnote. 

Mendeley

  • Mae dogfennau cymorth i'w cael ar-lein. Mae Mendeley yn caniatáu ichi fewnforio cyfeiriadau i'ch aseiniadau trwy ddefnyddio ychwanegyn cyfeirnodi ar gyfer Word.

Dod o hyd i help

Mae Llyfrgellwyr Pwnc yn darparu hyfforddiant sgiliau gwybodaeth a chymorth pwnc manwl i fyfyrwyr a staff.

Cysylltwch â'ch Llyfrgellydd Pwnc os oes gennych ymholiad cyfeirnodi neu os hoffech fwy o wybodaeth am gyfeirnodi: