Dr Gwenllian Rees
Lecturer in Veterinary Science (Physiology)
Ysgol Gwyddor Filfeddygol Aberystwyth
Manylion Cyswllt
- Ebost: gwr15@aber.ac.uk
- ORCID: 0000-0002-4646-288X
- Ffôn: +44 (0) 1970 622503
- Twitter: @drgwenrees
- Proffil Porth Ymchwil
Proffil
Mae Gwen yn ddarlithydd mewn Gwyddor Milfeddygol ym Mhrifysgol Aberystwyth, wedi symud yno yn ddiweddar ar ôl cyfnod fel Cydymaith Ymchwil Uwch yn yr Ysgol Filfeddygol , Prifysgol Bryste. Ar hyn o bryd mae’n arwain prosiect Arwain Vet DGC dros Prifysgol Aberystwyth, prosiect cydweithredol a ariennir gan Llywodraeth Cymru sydd yn hyfforddi a chefnogi rhwydwaith o Bencampwyr Rhagnodi Milfeddygol ar draws Cymru. Mae ei diddordebau ymchwil yn cynnwys gwartheg godro, ymwrthedd wrthficrobaidd, defnydd cyfrifol o wrthfiotegau mewn amaeth, ethnograffeg a meddygaeth ar sail tystiolaeth. Mae Gwen yn siarad Cymraeg, yn wreiddiol o Llanelli. Wedi cymhwyso fel milfeddyg o Brifysgol Lerpwl yn 2009, gweithiodd mewn practisau fferm a cheffylau yn Ne Cymru ac yn Seland Newydd. Ymgymrodd â rôl fel Cymrawd Dysgu mewn Meddygaeth Poblogaeth Anifeiliaid Fferm yn Ysgol Filfeddygol Bryste yn 2014, cyn mynd ymlaen i astudio am PhD yn ymchwilio i’r defnydd o feddyginiaeth milfeddygol prescripsiwn gan ffermwyr llaeth yn y DU. Mae Gwen yn Gydymaith Golygyddol ac yn eistedd ar Fwrdd Golygyddol ar gyfer Veterinary Record Case Reports y BMJ, yn eistedd ar Gyngor Cangen Cymru o Gymdeithas Milfeddygon Prydain (BVA), ac ar Grwp Cyflawni ar Ymwrthedd Gwrthficrobaidd mewn Anifeiliaid a’r Amgylchedd Llywodraeth Cymru. Mae hefyd yn awdur ar brosiectau dysgu RCVS-Knowledge “Evidence-Based Veterinary Medicine (EBVM) Learning”.