Milfeddygon yn gloywi eu sgiliau trimio carnau yn Aberystwyth

Sara Pedersen

Sara Pedersen

30 Hydref 2024

Caiff milfeddygon y cyfle i loywi eu sgiliau trimio carnau ym Mhrifysgol Aberystwyth fis nesaf.

Arweinir y cwrs gan ddau hyfforddwr profiadol – milfeddyg Sara Pedersen a thrimiwr carnau proffesiynol Andrew Tyler - sy’n arbenigwyr mewn trin a thrimio carnau. 

Yn ystod yr hyfforddiant undydd, bydd cyfle i ddysgu amryw o sgiliau, gan gynnwys y dull tocio carnau 5-cam, sut i drin gwartheg cloff a phryd a sut i dorri ymaith bysedd traed.

Mae’r cwrs yn rhan o raglen ehangach o gyrsiau proffesiynol a gynigir gan yr unig Ysgol Filfeddygaeth yng Nghymru wrth iddi ehangu ei darpariaeth datblygu gyrfa.

Dechreuodd Ysgol Filfeddygaeth Prifysgol Aberystwyth hyfforddi milfeddygon ar lefel israddedig yn 2021 ac ym mis Medi eleni, dechreuodd y garfan gyntaf o fyfyrwyr nyrsio milfeddygol ar eu hastudiaethau.

Dywedodd Jonathan King, darlithydd yn Ysgol Gwyddor Filfeddygol Prifysgol Aberystwyth:

“Fel milfeddyg fy hun, gwn y bydd y cwrs hwn o fudd i sawl un yn y proffesiwn yn lleol ac yn rhanbarthol. Rydyn ni’n ffodus iawn i allu hwyluso hyn gyda hyfforddwyr sydd mor brofiadol yn y maes arbenigol yma. Mae gwartheg cloff a thrafferthion gyda’u carnau yn enghraifft o’r math o waith ddydd-i-ddydd sy’n codi ar ffermydd. Mae hyfforddiant o’r math yma felly’n bwysig i’r gymuned.

“Mae’r cwrs hwn yn rhan o raglen ehangach o hyfforddiant proffesiynol rydyn ni’n bwriadu ei chynnig yn y Brifysgol, ynghyd â hyfforddiant ar gyfer nyrsys milfeddygol a ffermwyr. Mae’n tanlinellu pwysigrwydd y ffaith bod gan Gymru bellach ei Hysgol Filfeddygol ei hun sy’n diwallu ac yn cwrdd ag anghenion ei chymuned filfeddygol ei hun - o ddarparu graddedigion sy’n gallu siarad Cymraeg neu sy’n dod o Gymru ac sydd felly’n fwy tebygol o aros yng Nghymru, i gefnogi'r proffesiwn gyda hyfforddiant ôl-raddedig ac ymgymryd ag ymchwil o safon rhagorol sydd hefyd yn berthnasol yn lleol.”

Gellir archebu lle ar y cwrs drwy fynd i: https://hoof-trimming.eventbrite.co.uk