Clinig newydd gwerth £150,000 i agor wrth i Ysgol Filfeddygaeth Aberystwyth ehangu
Myfyrwyr Ysgol Gwyddor Filfeddygol Aberystwyth
10 Medi 2024
Bydd ffug-glinig milfeddygol newydd yn agor ar gampws Prifysgol Aberystwyth yn fuan wrth i’r unig ysgol filfeddygaeth yng Nghymru ehangu.
Bydd y buddsoddiad diweddaraf, sy’n werth tua £150,000, yn y Ganolfan Addysg Milfeddygaeth yn talu am gyfleusterau newydd megis mannau aros, archwilio a thrin, ynghyd â’r offer angenrheidiol ar gyfer trin anifeiliaid bach.
Ariannwyd y rhan fwyaf o’r gwaith newydd i ehangu safle’r Ganolfan ar gampws Penglais y Brifysgol gan gymynrodd o ystâd y diweddar Gordon Burrows.
Mae’r buddsoddiad newydd yn ychwanegol at y £2 filiwn a mwy a wariwyd i sefydlu Ysgol Filfeddygaeth Aberystwyth a gafodd ei hagor yn swyddogol yn 2021 gan y Brenin Siarl III.
Bydd y cyfleusterau clinig newydd yn cael eu defnyddio i hyfforddi israddedigion ar y cwrs BVSc Milfeddygaeth, a gyflwynir ar y cyd â’r Coleg Milfeddygaeth Brenhinol. Yn ogystal, byddant yn cael eu defnyddio gan y myfyrwyr cyntaf erioed ar gwrs gradd Nyrsio Milfeddygol newydd Prifysgol Aberystwyth sy’n dechrau ar eu hastudiaethau yn ddiweddarach y mis hwn.
Dywedodd Yr Athro Darrell Abernethy, Pennaeth yr Ysgol Gwyddor Filfeddygol ym Mhrifysgol Aberystwyth:
“Yn rhan o’u proses ddysgu, mae’n bwysig bod ein myfyrwyr yn ennill profiad ym maes hyfforddiant milfeddygol clinigol a dealltwriaeth o’r offer allweddol a’r prosesau a ddefnyddir mewn clinigau milfeddygol. Rydyn ni’n hynod ddiolchgar am y gymynrodd hael sy’n ein galluogi i gymryd cam ymlaen gyda’n cynlluniau i ehangu ein cyfleusterau a gwella’r addysgu rydyn ni’n ei gynnig yn Aberystwyth ymhellach.
“Bellach mae gan Gymru ei Hysgol Filfeddygaeth ei hun sy’n deall ac sy’n diwallu anghenion ei chymuned filfeddygol ei hun - o ddarparu graddedigion sy’n gallu siarad Cymraeg, sy’n dod o Gymru ac sydd felly’n fwy tebygol o aros yng Nghymru, i gefnogi'r proffesiwn gyda hyfforddiant uwchraddedig a chynnal gwaith ymchwil sy’n rhagorol ac sy’n berthnasol yn lleol.
“Trwy gyfoethogi’r proffesiwn, rydym yn cefnogi nid yn unig y gymuned ffermio ond perchnogion anifeiliaid anwes, pawb sy’n ymwneud â cheffylau a marchogaeth, y llywodraeth genedlaethol ac, yn y pen draw, cymdeithas Cymru. Dyna hefyd pam mae Prifysgol Aberystwyth wedi buddsoddi cymaint i greu canolfan ragoriaeth ym maes iechyd anifeiliaid i ychwanegu at ei llwyfannau presennol - o labordai o’r radd flaenaf i arbenigedd o’r safon uchaf mewn ymchwil i TB mewn gwartheg.”